Ewch i’r prif gynnwys

Ydy’r toriadau i gymorth cyfreithiol wedi effeithio arnoch chi?

12 Rhagfyr 2018

Mae prosiect sy’n ymchwilio i effaith y toriadau am gymorth cyfreithiol yn 2013 yn chwilio am straeon personol sy’n amlygu’r agwedd ddynol ar yr ymchwil.

Mae cyfiawnder ar adeg cyni yn gydweithrediad rhwng Dr Daniel Newman o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a Jon Robins o Justice Gap, sef cylchgrawn ar-lein am y gyfraith a chyfiawnder sydd wedi’i deilwra at y cyhoedd.

Cynhelir eu prosiect, a gefnogir gan gwmni cyfreithiol blaenllaw Ashurst, dros y 12 mis nesaf. Bydd yn edrych ar y newidiadau sylweddol i gymorth cyfreithiol sifil yng Nghymru a Lloegr, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2013.

Roedd y newidiadau’n rhan o gynllun i ddiwygio’r system ac arbed dros £300m y flwyddyn i’r llywodraeth. O ganlyniad, fodd bynnag, nid yw llawer o achosion cyfreithiol amrywiol gan gynnwys esgeulustod clinigol, cyswllt â phlant, ysgaru a chyflogaeth, yn gymwys i gael eu hariannu gan gronfa’r cyhoedd bellach.

Cafodd hyn effaith sylweddol ar nifer o grwpiau o bobl ac unigolion ac ar y mathau o achosion a fyddai’n mynd drwy’r system cyfiawnder sifil.

Mae ymchwil Newman a Robins yn ystyried a yw’r cyfyngiadau hyn yn effeithio ar degwch y system gyfiawnder drwy ofyn, ‘sut mae toriadau am gymorth cyfreithiol yn effeithio ar bobl sy’n defnyddio’r system gyfiawnder?’

At y diben hwnnw, maent yn bwriadu cynnal cyfres o gyfweliadau ledled y wlad. Byddant yn cyfweld ag unigolion a effeithir gan y toriadau a’r sefydliadau sydd bellach dan fwy o bwysau i roi cymorth am ddim.

Os oes gennych stori i'w hadrodd am eich profiadau o'r system cyfiawnder sifil, cysylltwch â Dr Daniel Newman. I gael gwybod rhagor am y prosiect ewch i wefan Justice Gap.

Rhannu’r stori hon