Sustainable Places researcher wins award for documentary
30 Tachwedd 2018
Ymchwilydd Mannau Cynaliadwy'n ennill gwobr am raglen ddogfen
Mae Catia Rebelo, Cymrawd Rhyngwladol Marie Curie'r UE yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy wedi ennill gwobr am ei rhaglen ddogfen, "Sensed Place".
Cymerodd Catia ran yn yng Ngŵyl Ffilmiau Twristiaeth Ryngwladol ART&TUR, digwyddiad unigryw ar y sîn ffilmiau rhyngwladol sy'n dod ag academyddion, gweithwyr proffesiynol ym maes twristiaeth a chynhyrchwyr ffilmiau ynghyd. Mae'r ŵyl yn dathlu'r prosiectau gorau yn y sector ac yn cynnig mwy o amlygrwydd cenedlaethol a rhyngwladol iddynt.
Cynhaliwyd yr ŵyl am yr 11eg tro rhwng 23 a 27 Hydref 2018 yn ninas Leiria, Portiwgal. Bu pobl o bedwar ban byd yn cymryd rhan er mwyn trafod twristiaeth a sinema i gyfuno panelwyr y gynhadledd, dangos fideos a seremoni i wobrwyo ffilmiau gorau'r gystadleuaeth.
Daeth "Sensed Placed" yn ail yn y categori Ethnograffeg a Chymdeithas.
Mae prosiect ymchwil y Catia, "Place Ambassadors" yn defnyddio dulliau gweledol cydweithredol i archedrych ar fanteision ac anfanteision grymuso, a rôl fwy blaenllaw i bobl leol wrth gynllunio twristiaeth a brandio cyfranogol.
Gellir gwylio'r ffilm ar-lein.