Ewch i’r prif gynnwys

Darlith Nodedig Hadyn Ellis

30 Tachwedd 2018

Lord Heseltine

Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Michael Heseltine, cyn-Ddirprwy Brif Weinidog, draddododd Ddarlith Nodedig Hadyn Ellis eleni.

Wrth siarad ag awditoriwm llawn ym Mhrifysgol Caerdydd ar y thema Brexit: diweddariad, bu’n beirniadu’r ffordd mae Theresa May yn ymdrin â’r DU yn gadael yr UE a galwodd am ail refferendwm.  

"Cafodd pobl Prydain eu twyllo am oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd," meddai.

"Mae cenhedlaeth iau yn teimlo eu bod yn cael eu bradychu gan genhedlaeth hŷn na fydd yn byw i weld y canlyniadau, fel mae pethau’n datblygu.

"Y canlyniad gorau sydd ar gael nawr i’r mwyafrif o Aelodau Seneddol sy'n gresynu’r goblygiadau sy'n dod i'r amlwg, yw rhoi'r penderfyniad yn ôl i bobl Prydain."  

Cynhelir Cyfres Darlithoedd Nodedig Hadyn Ellis unwaith y flwyddyn er cof am gyn-Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Hadyn Ellis CBE. Fe wnaeth yr Athro Ellis arloesi wrth sefydlu disgyblaeth niwroseiciatreg wybyddol, ac roedd ganddo rôl allweddol wrth helpu Caerdydd i ennill ei phlwyf fel un o brifysgolion ymchwil mwyaf blaenllaw’r DU.

Awgrymodd yr Arglwydd Heseltine, a siaradodd ar y diwrnod gwnaeth dadansoddiad y llywodraeth awgrymu y bydd y DU mewn sefyllfa waeth o dan unrhyw fath o Brexit: “Y gwir am y cytundeb Brexit yw mai bargen sydd wedi’i hadeiladu o wellt heb unrhyw sylfaen yw hi; arwynebol a heb sylwedd.”

Mae Aelodau Seneddol i fod i bleidleisio ar gytundeb Brexit arfaethedig Theresa May ar 11 Rhagfyr.

Ychwanegodd: "Mae'n anodd iawn rhestru bygythiadau sy'n wynebu'r Wlad hon nad yw ein cymdogion Ewropeaidd yn eu rhannu.

"Mae'n anoddach fyth rhestru bygythiadau o unrhyw raddfa lle y gallwn wrthsefyll bygythiadau o'r fath yn fwy effeithiol ar ein pen ein hun nag mewn partneriaeth â'n cymdogion Ewropeaidd.

"Mae geiriau gwag yn dda i ddim. Erbyn hyn, yr Aelodau Seneddol sy'n gyfrifol am ddylanwad, ffyniant a sefyllfa ein gwlad yn y dyfodol. Dyma'r penderfyniad pwysicaf y bydd yn rhaid iddynt ei wneud yn eu bywydau. Rydw i wir yn gobeithio y byddant yn gallu wynebu'r her."

Gwyliwch araith gyfan yr Arglwydd Heseltine yma:

https://youtu.be/GXuoV59qBko

Neu gwrandewch arno yma: https://soundcloud.com/cardiffuni/brexit-an-update-lord-michael-heseltine

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio a byw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.