Ewch i’r prif gynnwys

Elusen LawWorks yn cydnabod cyfraniad Ysgol i waith pro bono

20 Tachwedd 2018

Mae elusen sy'n ymrwymo i alluogi mynediad at gyfiawnder wedi cydnabod uned pro bono Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth drwy osod ei gwaith ar y rhestr fer mewn dau gategori yn ei gwobrau blynyddol eleni.

Cynhelir gwobrau Pro Bono LawWorks bob blwyddyn ac ym mis Tachwedd eleni mae uned Pro Bono'r Ysgol wedi'i chynnwys ar restr fer categorïau 'Y Bartneriaeth Pro Bono Mwyaf Effeithiol' a 'LawWorks Cymru'.

Mae gwaith yr uned gyda Mencap Cymru ar eu prosiect cynghori myfyrwyr Cymorth a Grymuso Annibynnol Cymru (WISE) wedi'i gydnabod yn y categori  'Y Bartneriaeth Pro Bono Mwyaf Effeithiol'.  Dechreuodd y fenter hon yn 2015 pan nodwyd bod angen cymorth yng Nghymru ar bobl sy'n gofalu am neu sy'n cynorthwyo pobl ag anableddau dysgu.

Yn 2015, gwnaed cais llwyddiannus am grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Mencap WISE i ddatblygu cyfres o becynnau cymorth ar draws amrywiol bynciau cyfreithiol, gan gynnwys diogelu plant, cyrchu gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd ac addysg bellach.

Mae'r pecynnau cymorth yn cynnig arweiniad hygyrch ac yn fodd pwysig o rymuso teuluoedd sy'n ei chael yn anodd manteisio ar wasanaethau. Ers cael eu lansio, cysylltwyd â’r pecynnau cymorth dros 1,700 o weithiau ac mae dros 1,400 o bobl wedi mynychu gweithdai a ddarperir gan y prosiect.

Mae menter Mencap Cymru'n un o ddeuddeg o gymorthfeydd pro bono mae'r uned Pro Bono wedi'u meithrin ers iddi gael ei lansio yn 2006. Hefyd, caiff gwaith yr uned gyfan ei gydnabod yn y categori 'LawWorks Cymru'.

Mae'r Ysgol yn cydnabod bod llawer o fyfyrwyr yn dymuno cael profiad ymarferol er mwyn ategu eu dysgu academaidd. Yn ogystal, mae gan yr Ysgol gyfrifoldeb i gymunedau Caerdydd ac ymhellach drwy gynnal prosiectau cyfnewid gwybodaeth sydd yn helpu’r rhai nad ydynt, yn draddodiadol, yn ymgysylltu â’r Brifysgol.  Felly partneriaeth, gyda myfyrwyr a'r gymuned ehangach, sydd wrth galon gwaith yr uned.

Caiff pob un o gynlluniau'r uned ei gyflenwi gyda phartneriaid allanol, ac amrywiol sefydliadau, gan gynnwys cwmnïau cyfreithwyr, siambrau bargyfreithwyr ac asiantaethau trydydd sector. Mae dau gategori o bartneriaeth gan yr uned: y cynlluniau ble mae aelod o staff academaidd yr Ysgol yn gyfrifol am gyflenwi o ddydd i ddydd, gyda phartner(iaid) allanol yn goruchwylio darparu'r cyngor; a'r cynlluniau a gyflenwir yn llwyr gan y sefydliad partner. Mae tua 265 o fyfyrwyr bellach yn ymwneud â gwaith clinigol mewn unrhyw flwyddyn, gan gyfrannu tua 20,000 o oriau pro bono.  Ers dechrau'r gweithgareddau clinigol, mae o ddeutu 1,750 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan.

Caiff y Gwobrau Pro Bono LawWorks blynyddol eu dathlu mewn seremoni ddydd Llun 3 Rhagfyr 2018 yng Nghymdeithas y Gyfraith, Chancery Lane, Llundain.

Rhannu’r stori hon