Ewch i’r prif gynnwys

Sberm diffygiol yn cael ei 'achub' mewn astudiaeth o driniaeth ffrwythlondeb

11 Awst 2015

Fertility IVF cells

Ymchwilwyr yn defnyddio protein arbennig i sbarduno ffrwythloniad mewn modelau llygod

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi llwyddo i ddangos y gall protein arbennig a ganfuwyd yn flaenorol 'achub' sberm diffygiol a chael ei ddefnyddio i greu embryonau iach mewn modelau anifail.

Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd heddiw, mae ymchwilwyr o'r Ysgol Meddygaeth wedi efelychu problemau ffrwythloniad go iawn gan ddefnyddio modelau llygod. Maent wedi dangos y gall y protein sbarduno ffrwythloniad ŵy pan gaiff ei chwistrellu ar yr un pryd â sberm diffygiol.

Rhaid i'r ymchwil gynnal treialon clinigol o hyd, ond mae'r ymchwilwyr yn disgwyl y gellir cynnal yr astudiaeth mewn bodau dynol hefyd, a'i drosi'n fuan i glinigau IVF ledled y byd, er mwyn cynyddu cyfradd llwyddiant triniaethau ffrwythlondeb yn sylweddol.

Ar hyn o bryd, mae anffrwythlondeb yn effeithio ar oddeutu un o bob chwe chwpl, ac amcangyfrifir bod un o bob tri sberm a gaiff eu chwistrellu yn ystod IVF ar hyn o bryd yn methu ffrwythloni'r ŵy.

Yn 2012, fe wnaeth y tîm ymchwil, o dan arweiniad yr Athro Karl Swann a'r Athro Tony Lai o'r Ysgol Meddygaeth, ganfod protein arbennig mewn sberm dynol o'r enw PLC-zeta, a oedd yn hanfodol ar gyfer ysgogi ŵy a'i baratoi ar gyfer datblygu embryo.

Yn yr astudiaeth newydd hon,creodd y tîm ymchwil fodel anifail lle'r oedd y sberm yn cael ei wresogi at dymheredd penodol, gan ei wneud yn ddiffygiol fel ei fod yn methu ffrwythloni ŵy.

Yna, chwistrellodd y tîm y sberm i mewn i ŵy ynghyd â PLC-zeta, a dangos y gallai'r protein 'achub' y sberm diffygiol, ac y gellir ffrwythloni'r ŵy yn llwyddiannus.

At hynny, dangosodd yr ymchwilwyr nad oedd y broses hon yn cael unrhyw effeithiau andwyol ar yr embryo, p'un a oeddent yn chwistrellu PLC-zeta ynghyd â naill ai sberm diffygiol neu sberm arferol.

Dywedodd yr Athro Karl Swann: "Mae anffrwythlondeb yn bwnc sensitif, nad oes llawer o ddealltwriaeth ohono. Os gallwn ddangos y gellir defnyddio'r protein hwn yn therapiwtig, dylai helpu llawer o gyplau anffrwythlon i oresgyn y stigma sy'n gysylltiedig â phroblemau a achosir gan anallu'r sberm i ffrwythloni'r wy. "

Dywedodd Deon Cyswllt y Gwyddorau Iechyd yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Dundee, yr Athro Chris Barratt, arbenigwr rhyngwladol ym maes meddygaeth atgenhedlu ac anffrwythlondeb gwrywaidd: "Mae cyflawni ffrwythloniad llwyddiannus yn hanfodol ar gyfer llwyddiant ffrwythloniad in vitro.

"Mewn nifer sylweddol o achosion, bydd hyn yn methu, neu mae'r broses yn aneffeithiol. Yr allwedd i wella effeithlonrwydd IVF yw goresgyn diffygion ffrwythloniad. Bydd gallu cynnig PLC-zeta sydd wedi'i ail-gyfuno yn ddatblygiad hollbwysig ym maes meddygaeth atgenhedlu."

Cyhoeddwyd y canlyniadau yn y cyfnodolyn Molecular Human Reproduction.

Rhannu’r stori hon