Ewch i’r prif gynnwys

Diwygio'r llysoedd crefyddol

31 July 2015

Religious Koran

Mae ymchwilwyr y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd yn galw am ddiwygio'r ddeddfwriaeth arfaethedig sy'n llywodraethu'r defnydd o'r llysoedd crefyddol yn y DU

Mewn cyhoeddiad newydd, Religion and Legal Pluralism, mae'r ymchwilwyr yn pwyso a mesur y graddau y dylai systemau cyfreithiol crefyddol gael eu caniatáu a'u cydnabod, ac yn cynnwys Bil drafft sy'n canolbwyntio ar gydsyniad, sef mater a godir yn sgîl defnyddio'r llysoedd hyn.

A yw'r defnydd o dribiwnlysoedd crefyddol yn gydsyniol ai peidio? Dyma'r mater sydd wrth wraidd y Bil drafft, sef mater y dywed yr ymchwilwyr nad ymdrinnir ag ef yn ddigonol o dan Fil cyfredol sy'n cael ei ystyried gan y Senedd.

Mae'r Bil drafft a ddatblygwyd gan yr ymchwilwyr yn dweud mai dim ond os bydd pob parti'n cydsynio y byddai gweithgarwch tribiwnlys crefyddol yn gyfreithlon, ond byddai penderfyniadau o natur droseddol ac sy'n ymwneud ag anghydfodau ynghylch plant bob amser yn anghyfreithlon, waeth a yw'r partïon yn cydsynio ai peidio.
Mae hyn yn dilyn diffiniadau cyfreithiol cydsyniad o dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003.

Mae'r Bil yn cynnig trosedd statudol o arfer neu geisio arfer swyddogaeth farnwrol neu led-farnwrol yng nghyswllt unigolyn, heb gydsyniad yr unigolyn hwnnw.

Dywed ymchwilwyr fod hyn yn fwy cul na Bil y Farwnes Cox sy'n cael ei ystyried gan y Senedd, sy'n cynnig trosedd o hawlio awdurdodaeth ar gam.

Dyluniwyd y Bil drafft i fod yn berthnasol i holl benderfyniadau llysoedd a thribiwnlysoedd crefyddol, yn wahanol i Fil y Farwnes Cox, sy'n delio ag anghydfodau cyflafareddu yn unig.

Mae'r llyfr a'r Bil drafft yn deillio o ymchwil flaenorol a ariannwyd gan AHRC a wnaed i roi sylw i bryderon a godwyd yn sgîl darlith Archesgob Caergaint ar Gyfraith Sifil a Chrefyddol yn 2008, a ysgogodd ddadl fywiog ynghylch y graddau y dylai cyfraith Lloegr ddarparu ar gyfer systemau cyfreithiol crefyddol, fel cyfraith Sharia. 

Roedd prosiect cynharach y tîm yn pwyso a mesur sut mae'r gyfraith grefyddol eisoes yn gweithio ochr yn ochr â chyfraith sifil yng nghyswllt priodas ac ysgariad, gan archwilio gweithgarwch tri llys crefyddol yn fanwl.

Dywedodd Dr Russell Sandberg o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd, a olygodd y llyfr: "Mae pryderon ynghylch llysoedd crefyddol wedi codi fwyfwy mewn llawer o wladwriaethau Gorllewinol. Yr enghraifft fwyaf diweddar oedd ym mis Mawrth 2015, pan soniodd Theresa May am enghreifftiau o gyfraith Sharia yn cael eu defnyddio i wahaniaethu yn erbyn menywod, ond dywedodd nad oeddem yn gwybod i ba raddau roedd hyn yn broblem.

"Mae hyn wedi arwain at lenyddiaeth gynyddol; ond mae llawer o'r gwaith wedi bod yn ddamcaniaethol neu'n canolbwyntio ar un grefydd yn unig. Mae ein gwaith ni yn rhoi enghreifftiau manwl o sut mae cyfreithiau crefyddol eisoes yn gweithredu yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â nifer o fyfyrdodau damcaniaethol ar y graddau y dylid darparu ar gyfer systemau cyfreithiol crefyddol, fel cyfraith Sharia.  

"Yn bwysicach byth, mae hefyd yn mynd i'r afael â diffygion y ddeddfwriaeth gyfredol sy'n cael ei hystyried gan y Senedd – yn arbennig ar y mater o gydsyniad – felly mae'n cynnig dewis amgen sy'n ysgogi rhagor o drafodaeth ar y mater cymhleth hwn.

Rhannu’r stori hon