Ewch i’r prif gynnwys

Byffrau coedwigoedd y glannau yn cynyddu cynhyrchiant planhigfeydd olew palmwydd

30 Awst 2018

Image of DGFC

Mae ymchwilwyr o Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, Ysgol Biowyddorau ac Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Maes Danau Girang wedi canfod y gall cadw byffrau coedwigoedd trofannol ar hyd glannau afonydd troellog mawr gynyddu proffidioldeb planhigfeydd gorlifdir.

Ysgrifennwyd y papur, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Earth’s Future, gan Dr Alexander Horton, Dr Benoit Goossens, Professor Mike Bruford a Dr Tristram Hales.

“Gall byffrau coedwigoedd trofannol ar hyd glannau afonydd troellog mawr wella proffidioldeb planhigfeydd gorlifdir ac arwain at fanteision cadwraeth drwy leihau faint o dir sy’n cael ei golli i’r afon drwy erydu’r glannau,” dywedodd Dr Alexander Horton, awdur cyntaf y papur.

“Mae’r cynnydd yn fwyaf amlwg mewn rhagamcanion economaidd hirdymor ond mae hefyd yn dal dŵr mewn perthynas â graddfeydd amser byrrach, o ystyried cynhyrchiant araf planhigfeydd newydd. Drwy leihau gwariant plannu cychwynnol a diogelu palmwydd ifanc rhag cael eu colli i erydiad cyn eu bod yn cynhyrchu refeniw, gall byffrau’r glannau gynyddu proffidioldeb byrdymor planhigfeydd newydd.”

Yn ôl Dr Benoit Goossens: “Rydym wedi canfod y gall byffrau’r glannau o ddegau o fetrau wella hyfywedd hirdymor planhigfeydd gorlifdir. Golyga hyn y gall ystyried cyfraniadau geomorffig at wasanaethau ecosystem helpu i alinio nodau’r diwydiant olew palmwydd â chadwraeth amgylcheddol.

“Rydym yn awgrymu’n gryf y dylai planhigfeydd olew palmwydd ddefnyddio byffrau coedwigoedd y glannau o 100 metr o led o leiaf ar hyd afonydd mawr fel Kinabatangan, Segama, Paitan, Sugut, Kalumpang, Serudong a Silabukan; a gobeithio y bydd canlyniadau’r ymchwil hwn yn cael eu hystyried gan RSPO a chwmnïau olew palmwydd yn Sabah a gweddill y byd.”

Gallwch weld y papur llawn ar-lein.

Rhannu’r stori hon