Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigwyr yn dadansoddi’r Etholiad Cyffredinol

28 Gorffennaf 2015

Voting Slip

Canlyniadau Etholiad Cyffredinol 2015 dan y chwyddwydr

Bydd arbenigwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru uchel ei bri ym Mhrifysgol Caerdydd yn gosod yr Etholiad Cyffredinol diweddar dan y chwyddwydr yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn y digwyddiad, bydd yr Athro Richard Wyn Jones a’r Athro Roger Scully o’r Ganolfan yn cyflwyno eu barn arbenigol ar yr hyn ddigwyddodd yn yr etholiad, ac yn dadansoddi’r canlyniadau’n llawn.

Bydd y ddau hefyd yn cyflwyno data manwl o Astudiaeth Etholiadol Prydain am effeithiolrwydd ymgyrchoedd y pleidiau wrth dargedu eu hymdrechion.

Cynhelir y sesiwn ym mhabell y Cymdeithasau 1 am 2pm ddydd Mercher 5 Awst yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod.

Bydd y digwyddiad yn cynnig dadansoddiad o ganlyniadau’r etholiad ar draws y DU, canlyniadau’r etholiad yng Nghymru ac esboniad o’r oblygiadau i bob plaid.

Bydd yr Athro Wyn Jones a’r Athro Scully hefyd yn cynnal sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa.

Wrth edrych ymlaen at y digwyddiad dywedodd yr Athro Scully: “Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr Cymru ac rwyf i wrth fy modd yn cael y cyfle i rannu ein dadansoddiad o’r Etholiad Cyffredinol diweddar gyda chynulleidfa’r Eisteddfod.

“Cafwyd cryn syndod ac elfennau annisgwyl yn yr etholiad diweddar ym mhobman, gan gynnwys Cymru. Hefyd am y tro cyntaf cafwyd plaid wahanol ar y brig ym mhob un o bedair cenedl y DU.

“Hyd yn oed dri mis ar ôl yr etholiad mae digon ar ôl i’w drafod.”