Ewch i’r prif gynnwys

Galw am warchod morwellt

3 Awst 2018

seagrass

Mae arbenigwyr morwellt o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe yn galw am warchod morwellt, mewn darn a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Science.

Mae Dr Leanne Cullen-Unsworth o Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd a Dr Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe yn dadlau bod gwarchod morwellt yn hanfodol ar gyfer mesurau lliniaru newid hinsawdd, amddiffyn bioamrywiaeth a diogelwch bwyd.

Mae morwellt yn blanhigion blodeuol morol a geir ar hyd arfordiroedd tymherus a throfannol ledled y byd. Maent wedi cael eu galw "caneris y môr" am eu bod yn sensitif i'r amgylchedd newidiol, sy'n golygu y gellir defnyddio eu cyflwr fel dangosydd ar gyfer cyflwr ardaloedd arfordirol.

Mae morwellt yn cynnig cynefin i bysgod, pysgod cregyn a llysysyddion morol, ac yn hidlo gwaddodion a lleihau egni tonnau a cheryntau ger arfordiroedd. Maent hefyd yn chwarae rhan hanfodol o ran cynnal cynhyrchiant pysgodfeydd a diogelwch bwyd.

Fodd bynnag, mae dolydd morwellt dan fygythiad o ganlyniad i ansawdd dŵr arfordirol gwael a phoblogaethau arfordirol sy'n tyfu, ac mae morwellt yn cael ei golli ar gyfradd o 7% y flwyddyn. Heb fesurau gwarchodaeth, mae cyfradd dirywiad yr adnodd hanfodol hwn yn debygol o gynyddu.

Mae cydnabyddiaeth gynyddol o'r ffaith bod morwellt yn chwarae rhan bwysig yn y gylchred carbon fyd-eang a lleol, a bod angen amcangyfrifon mwy cywir o faint o forwellt sydd ledled y byd. Hyd yma, mae tua 300,000km2 o forwellt wedi'i fapio ledled y byd, ond gallai fod hyd at 4 miliwn km2.

Mae'r awduron yn cytuno y gall dolydd morwellt ffynnu gyda'r gefnogaeth iawn. Ond mae cynnal momentwm ym maes gwyddoniaeth morwellt, adeiladu ar lwyddiannau diweddar, a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd yn hanfodol ar gyfer hyfywedd hirdymor systemau morwellt.

Rhannu’r stori hon