Ewch i’r prif gynnwys

Profion cyflymach ar gyfer heintiau'r ysgyfaint

27 July 2015

cystic fibrosis

Datblygiad pwysig cyntaf gwyddonwyr mewn 50 mlynedd o ran canfod heintiau ffibrosis yr ysgyfaint ar fin trawsnewid miloedd o fywydau

Mae gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd wedi datblygu dull diagnostig newydd sy’n cynnig diagnosis cyflym a chywir digyffelyb o heintiau'r ysgyfaint mewn cleifion sydd â ffibrosis systig – clefyd sy'n effeithio ar tua 9,000 o bobl yn y DU.

Maent yn credu y bydd y datblygiad newydd hwn yn trawsnewid ansawdd bywydau 80-95% o gleifion ffibrosis systig fydd yn marw yn y pen draw o ganlyniad i fethiant anadlol a achosir gan haint bacteriol cronig yn yr ysgyfaint.

Mae gwybod yn union beth sydd o'i le yn ysgyfaint cleifion yn golygu y gall clinigwyr ddechrau trin heintiau ar unwaith gyda’r gwrthfiotigau cywir, a bod cleifion yn cael cyfle gwell a chyflymach i wella. Mae gan hyn oblygiadau pwysig hefyd o ran lleihau ymwrthedd i lu o gyffuriau o ganlyniad i gael gwrthfiotigau a roddir yn ddiangen ar brescripsiwn.

Mae pobl sydd â ffibrosis systig yn dueddol o gael heintiau'r ysgyfaint. Mae’r rhain yn cynnwys bacteria sy'n achosi nifer o glefydau lluosog fel Pseudomonas sy’n gallu gwrthsefyll sawl cyffur gan achosi dirywiad cyflym oni bai eu bod yn cael eu hamlygu a’u trin yn gyflym.

Yn ôl yr ymchwilwyr - tîm cydweithredol o Brifysgol Caerdydd ac Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Ysbyty Prifysgol De Manceinion - nid yw’r dull presennol o wneud diagnosis o haint bacteriol, sy'n dibynnu ar brofion meithrin, wedi newid yn sylweddol ers dros hanner canrif.

Yn ogystal â bod yn ddull llafurus a chostus, honnir bod y dull yn ddiffygiol ac nad ydyw’n canfod y bacteria marwol sydd mewn heintiau mewn 11% o achosion, a bod cannoedd o’r rhain mewn unrhyw sampl o ysgyfaint cleifion.

Yn rhifyn heddiw o’r Journal of Clinical Microbiology, mae’r tîm yn dangos sut y gall prawf genetig syml amlygu ganfod heintiau’r ysgyfaint yn gyflym ymhlith cleifion ffibrosis a chynnig asesiad mwy cywir o’r holl fathau o facteria sy'n bresennol.

Mae’r prawf newydd yn defnyddio DNA wedi’i ynysu o samplau yn yr ysgyfaint. Defnyddir y dull hwn yn gyffredinol ledled y DU i wneud diagnosis o heintiau firysol. Yn ôl ymchwilwyr, gallai defnyddio’r DNA parod hwn wrth gynnal profion ar y cyd, chwyldroi’r modd y cynhelir diagnosis o heintiau microbaidd yn y dyfodol.

Ar ben hynny, mae canfod straeniau ffyrnig o facteria yn gynnar yn hanfodol er mwyn arafu lledaeniad heintiau mewn ysbytai a chlinigau.

Mae gwyddonwyr eisoes yn defnyddio DNA wedi’i ynysu o samplau clinigol i ganfod firysau fel ffliw mewn labordai firoleg iechyd cyhoeddus. Gallai’r dechneg hon o wneud diagnosis o heintiau bacteriol ymhlith cleifion ffibrosis systig, gan ddefnyddio data o DNA’r claf, hefyd gael ei defnyddio wrth drin cyflyrau anadlol eraill fel asthma ac anhwylder cronig yr ysgyfaint.

Mae’r Athro Eshwar Mahenthiralingam, o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, wedi bod yn astudio heintiau ffibrosis systig yr ysgyfaint ers dros 20 mlynedd ac mae’n cael ei gydnabod fel ffigwr blaenllaw ym maes astudio bacteria ystyfnig sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau. Meddai:

"Ar sail astudiaethau ymchwil sydd wedi’u cynnal dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym yn gwybod bod sawl math o facteria yn achosi heintiau’r ysgyfaint ymhlith pobl â ffibrosis. Fodd bynnag, nid yw’r diagnosis arferol a gynhelir mewn labordai iechyd cyhoeddus o hyd yn ystyried yr amrywiaeth hwn mewn samplau.

"Drwy fanteisio ar ddulliau prosesu samplau firoleg a defnyddio profion genetig bacteriol syml, gallwn wneud diagnosis cywir o heintiau sydd â bacteria arbennig o ystyfnig sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau.

"Bydd cynnal diagnosis gwell o’r heintiau hyn yn gwella triniaeth, ansawdd bywyd a goroesiad ymhlith pobl â ffibrosis systig. Gallai’r profion hyn gael eu cyflwyno leled y GIG ar unwaith.

"Bydd cam nesaf ein hastudiaeth yn ceisio gwerthuso effeithiolrwydd y cynllun diagnostig o ran gwella safonau gofal i bobl â ffibrosis systig, yn ogystal ag asesu faint fydd yn cael ei arbed o ran costau i’r GIG."

Meddai’r Athro Alexander McAdam, patholegydd o Ysbyty Plant Prifysgol Harvard yn Boston:

"Mae’n debygol iawn y bydd defnyddio dulliau genetig i ganfod mathau o facteria yn dod yn rhan o’r gofal clinigol a roddir i’r cleifion hyn.

"Mae'r dulliau hyn yn datgelu mwy am y mathau o facteria sydd yn yr ysgyfaint na’r hyn y gallwn ei ganfod gyda dulliau meithrin confensiynol. Yn anffodus, mae'r rhan fwyaf o'r dulliau genetig yn rhai tra thechnegol, a bydd yn anodd eu defnyddio mewn labordai clinigol.

"Mae’r astudiaeth hon yn bwysig am ei bod yn disgrifio dull a allai gael ei ddefnyddio’n fwy parod gan labordai clinigol." 

Dywedodd Janet Allen, Cyfarwyddwr Ymchwil a Gofal yn yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig:

"Mae canlyniadau'r astudiaeth hon yn symud gwyddonwyr gam yn nes at gyflwyno techneg gyflymach a mwy cywir o ganfod natur y bacteria syn heintio ysgyfaint pobl â ffibrosis systig. 

"Mae ffibrosis systig yn gwneud yr ysgyfaint yn agored i heintiau. Mae’n achosi craith a difrod i’r ysgyfaint gan arwain at gylch dieflig o fwy o heintiau a llid. Ar gyfartaledd, mae unigolyn sydd â ffibrosis systig yn colli 2% o swyddogaeth eu hysgyfaint bob blwyddyn yn ystod eu hoes, ac maent yn gorfod dibynnu ar ocsigen ychwanegol, peiriannau i'w helpu i anadlu a thrawsblaniadau ysgyfaint yn y pen draw.

"Bydd y datblygiad hwn yn galluogi clinigwyr i adnabod y microbiome sydd yn yr ysgyfaint yn gyflymach.  Ar ben hynny, gallai gael ei ehangu i ganfod firysau yn ogystal ag edrych ar y berthynas rhwng heintiau firysol a heintiau bacteriol.

"Mae angen gwneud rhagor nawr i edrych ar sut gellir ymgorffori’r dechneg hon mewn prosesau diagnostig a gynhelir ar hyn o bryd."

Rhannu’r stori hon