Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaethau clodfawr sy'n cefnogi rhagoriaeth ymchwil

23 Gorffennaf 2018

Doctoral Academy

Mae myfyrwyr doethurol ar draws y byd wedi bod yn rhannu eu profiad o dderbyn ysgoloriaeth glodfawr gan y Brifysgol.

Caiff Ysgoloriaethau Ryngwladol yr Is-Ganghellor am Ragoriaeth Ymchwil eu dyfarnu i ymgeiswyr eithriadol sy'n byw mewn gwledydd incwm-canol is ac islaw hynny – ac hefyd yn Namibia – a allai fod yn ymchwilwyr rhagorol yn eu maes.

Mae galw mawr am yr ysgoloriaethau, sy'n cael eu hysbysebu'n flynyddol.

Mae'r garfan ddiweddaraf yn cynnwys myfyrwyr o Kenya, India, Ethiopia, Hong Kong, Kazakhstan a Bangladesh, sy'n cynnal ymchwil ym meysydd sy'n cynnwys gwleidyddiaeth, y gyfraith, pensaernïaeth, optometreg a ffiseg.

Mewn digwyddiad yn ddiweddar, fe wnaeth y saith oedd sydd wedi derbyn yr ysgoloriaethau rannu eu cyflawniadau ac arddangos eu gwaith i gynulleidfa oedd yn cynnwys Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro Colin Riordan, a’r Dirprwy Is-Ganghellor, Rhyngwladol, yr Athro Nora de Leeuw.

Mae Tanya Singh, o India yn astudio yn Ysgol y Biowyddorau. Wrth siarad am yr ysgoloriaeth, dywedodd Tanya: "Mae'r ysgoloriaeth hon nid yn unig wedi rhoi rhwydd hynt i mi astudio am y tair blynedd nesaf, ond mae wedi rhoi hwb i fy hyder hefyd. Ni fyddai fy ngweithgareddau addysgiadol yn bosibl heb gefnogaeth hael Prifysgol Caerdydd.

Mae gan dderbynwyr yr Ysgoloriaeth y cyfle i ymuno â chymuned ymchwilwyr ôl-raddedig y Brifysgol yn amser llawn, a derbyn ffioedd dysgu a thâl blynyddol. Yn ogystal, maent yn cael cymorth gan Academi Ddoethurol y Brifysgol, sy'n ganolfan ragoriaeth ar gyfer hyfforddi a datblygu sgiliau myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.

Yn ôl Radium Tam, o Hong Kong, sy'n astudio yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru: "Mae‘r haelioni a gefais drwy’r ysgoloriaeth hon yn cael effaith llawer ehangach. Mae ardal o dan sylw yn un o fy astudiaethau achos yn gartref i hyd at 50 y cant o'r adeiladau pren sydd wedi goroesi ers cyn y 13eg-ganrif. Mae'n dir sy'n llawn hanes a diwylliant cyfoethog ond sydd hefyd yn ceisio cysylltu â'r byd sy'n prysur ddatblygu. Yn ôl un o fy Athrawon, mae treftadaeth yn marw ddwywaith – unwaith pan nad oes diben iddi, ac eilwaith pan gaiff ei hanghofio. Gyda lwc, bydd fy ymchwil yn gallu eu cadw'n fyw yn y ddwy ffordd."

Ychwanegodd Mulugeta Getu Sisay o Ethiopia, sydd hefyd yn fyfyriwr yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth: "Rwy'n hynod diolchgar am gefnogaeth yr ysgoloriaeth; hebddi, ni fyddwn yma. Mae fy amser yng Nghaerdydd wedi'i ddiffinio gan Ysgol fywiog, cymuned ymchwil gyfeillgar, ymgysylltiadau ysbrydoledig, hyfforddiant pwrpasol a goruchwyliaeth ragorol. Mae ymgysylltu yng ngweithgareddau'r Brifysgol – yn yr Academi Ddoethurol ac yn fy Ysgol yn enwedig – wedi trawsnewid fy ngalluoedd, ehangu fy safbwyntiau, a miniogi fy meddyliau y tu hwnt i bob disgwyl.

Mae gwybodaeth bellach am ysgoloriaeth ryngwladol yr Is-ganghellor ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Mae ein cymuned fyd-eang, ein henw da a’n partneriaethau wrth galon ein hunaniaeth.