Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Luis Dorfmann yn ymuno â'r Ysgol fel Cymrawd Gwadd RAEng

21 Mehefin 2018

Front of the Engineering building

Mae'r Grŵp Ymchwil Mecaneg Gymhwysol a Chyfrifiadurol wedi croesawu'r Athro Luis Dorfmann i'r Ysgol fel Cymrawd Gwadd Nodedig yr Academi Beirianneg Frenhinol. Mae'r Athro Dorfmann wedi'i gyflogi yn yr Adran Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol ac yn Adran Peirianneg Fiofeddygol ym Mhrifysgol Tufts, yn yr Unol Daleithiau. Ei ddiddordebau ymchwil yw mecaneg solidau a mecaneg arbrofol.

Amcan ei ymchwil bresennol yw cynyddu ein gwybodaeth a gwella ein dealltwriaeth o faes biofecaneg, gyda phwyslais penodol ar ddatblygu rheolau cyfansoddol (modelau mathemategol ar gyfer ymddygiad deunyddiau) ar gyfer meinweoedd biolegol meddal a deunyddiau a adeiladwyd, lluniadau swyddogaethol ar lefel facrosgopig a'u cyfansoddion ar lefel gellog a moleciwlaidd.

Maes arall o ddiddordeb mawr yw ymddygiad deunyddiau sy'n newid eu priodweddau mecanyddol yn gyflym pan fydd maes trydanol neu fagnetig allanol yn cael ei osod. Mae ganddo ddiddordeb mewn modelau cyfansoddol, sy'n egluro anffurfiad deunyddiau hynod anffurfiadwy ym mhresenoldeb maes electromagnetig a'r cyplu aflinol cryf rhwng effeithiau electromagnetig a mecanyddol.

Bydd yr Athro Dorfmann yn cydweithio â'r Athro Gei o'r Ysgol Peirianneg ar brosiect i wella'r rheolau cyfansoddol a dulliau rhifiadol presennol i ysgogi deunyddiau gweithredol a bioysgogiad mewn roboteg feddal. Mae'r her o adeiladu dyfeisiau meddal sydd wedi eu bioysgogi yn cynnwys llawer o ddisgyblaethau, gan gynnwys gwyddoniaeth deunyddiau, peirianneg fecanyddol, peirianneg drydanol, peirianneg fiofeddygol, a niwrofecaneg.   Amcan y fenter gydweithredol hon yw ymchwilio i signalau biodrydanol sy'n rheoli ysgogiad celloedd cyhyrau. Mae deall signalau biodrydanol yn bwnc ymchwil bywiog iawn ym maes bioleg, oherwydd mae arbrofion wedi dangos bod signalau biodrydanol amlgellog yn rheoli llawer o agweddau sylfaenol systemau biolegol. Credir mai hwn yw'r ymgais cyntaf i ddatblygu amgylchedd modelu i wella ein dealltwriaeth o signalau biodrydanol.

Dywedodd yr Athro Dorfmann: "Fy nod yw defnyddio'r ymweliad hwn i ddechrau menter gydweithredol â'r Athro Gei i ddatblygu modelau mathemategol a dulliau rhifiadol i ymchwilio i signalau biodrydanol celloedd cyhyrau a'r microamgylchedd. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu menter gydweithredol strategol newydd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Tufts, a gobeithiwn y bydd hyn yn arwain at berthnasoedd cynhyrchiol yn y dyfodol."

Rhannu’r stori hon