Ewch i’r prif gynnwys

Trafodaeth arloesi Caerdydd gyda phrifysgol fwyaf Gwlad Belg

13 Gorffennaf 2015

The official signing of a major partnership agreement between Wales’s top ranked university and Belgium’s largest university
The official signing of a major partnership agreement between Wales’s top ranked university and Belgium’s largest university was marked by a debate featuring politicians and higher education representatives.

"Nid yw arloesedd yn bosibl heb ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd" meddai Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, wrth amddiffyn gwerth y Celfyddydau a'r Dyniaethau i gymdeithas

Ddoe, cafodd cytundeb partneriaeth arwyddocaol rhwng Prifysgol orau Cymru a phrifysgol fwyaf Gwlad Belg ei gadarnhau'n swyddogol, a chafwyd trafodaeth ymhlith gwleidyddion a chynrychiolwyr addysg uwch i nodi'r achlysur.

Nod y cytundeb rhwng Prifysgol Caerdydd, sydd ymhlith y 5 prifysgol orau yn y DU am ragoriaeth ac effaith ei hymchwil, a KU Leuven, sydd ymhlith y 100 o'r prifysgolion gorau ledled y byd, yn cael rhagor o arian ar gyfer ymchwil, creu prosiectau ymchwil newydd ar y cyd, a chynnig mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr a staff astudio ac addysgu dramor.

Ar ôl llofnodi'r cytundeb, ymunodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, Colin Riordan, a Rheithor KU Leven, Rik Torfs, â phanel o arbenigwyr o Fflandrys a Chymru mewn trafodaeth debyg i'r hyn a geir ar raglen 'Question Time'.

O ystyried bod gan y ddwy wlad systemau tebyg o lywodraeth ddatganoledig a hunaniaeth ddiwylliannol ac ieithyddol unigryw, canolbwyntiodd y drafodaeth ar rôl prifysgolion mewn gwledydd ddatganoledig o ran hybu'r economi drwy arloesedd.

Roedd David Rosser (Cyfarwyddwr Arloesedd, Llywodraeth Cymru), yr Athro Danny Pieters (Is-Rithor, KU Leuven) a Mark Andries (cynrychiolydd Llywodraeth Fflandrys) ar y panel gydag Is-Ganghellor Caerdydd.  Ann Beynon OBE, cyfarwyddwr BT Cymru oedd yn cadeirio'r drafodaeth.

Ymysg y pynciau trafod mwyaf bywiog oedd y cwestiwn ynglŷn â pha rôl y dylai'r Celfyddydau a'r Dyniaethau chwarae yn agenda arloesedd y Brifysgol. Dyma oedd ymateb yr Athro Riordan, sy'n ysgolhaig mewn llenyddiaeth Almaeneg:

"Hanfod pob prifysgol yw creu a lledaenu gwybodaeth. Ni ddylem fod mewn sefyllfa lle'r ydym yn dweud wrth academyddion beth ddylent fod yn chwilfrydig yn ei gylch, neu beth ddylent ymchwilio iddo – nid yw arloesedd yn bosibl heb ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd. Ni ddylai'r Celfyddydau a'r Dyniaethau orfod cyfiawnhau eu hymchwil yn nhermau ei werth i'r economi.

Rhybuddiodd Rik Torfs, oedd yn arfer bod yn Aelod Seneddol ym mhlaid Cristnogion Democrataidd Fflandrys yn Senedd Ffederal Gwlad Belg, na ddylai prifysgolion fod yn "weision i'r system". Dywedodd fod cymdeithas yn aml yn disgwyl gormod gan addysg uwch, a chyfaddefodd nad oes gan prifysgolion "yr atebion hollgynhwysol i bob problem economaidd".

Roedd yr Athro Pieters yn credu y dylai academyddion wneud mwy i ymgysylltu â'r cyfryngau a bod gormod o ymchwilwyr yn cadw'n "dawel" ac yn gadael i ymchwilwyr llai dawnus siarad ar eu rhan yn y cyfryngau.

Ddoe hefyd oedd Dathliad Cenedlaethol Fflandrys, sy'n coffáu Brwydr Spurs (1302). Yn y frwydr hon, llwyddodd byddinoedd lleol o ddinasoedd a bwrdeistrefi Fflandrys i orchfygu byddin o farchogion Ffrengig ar gefn ceffylau i adennill eu annibyniaeth yn y pen draw. 

Cynhaliodd y Brifysgol ddigwyddiad i ddathlu'r achlysur cyn y drafodaeth. Roedd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, a chynrychiolwyr o Lywodraeth Fflandrys yno, yn ogystal â'r Ysgrifennydd Cyffredinol dros Faterion Tramor, Koen Verlaeckt.

Sefydlwyd KU Leuven yn 1425 a hi yw'r brifysgol Gatholig hynaf sydd wedi goroesi, a'r brifysgol fwyaf yng Ngwlad Belg.  Fe'i rhestrir ymhlith y 100 o brifysgolion gorau'r byd yn gyson.Gyda 6,800 o staff academaidd a thros 55,000 o fyfyrwyr, mae'n un o brifysgolion mwyaf blaenllaw Ewrop, ac mae'n cynnig rhaglen gynhwysfawr o astudiaethau yn Saesneg ac Isalmaenig.

Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y Llywodraeth yn 2014, roedd Prifysgol Caerdydd yn 5ed yn y DU am ansawdd ei hymchwil ac yn 2il yn y DU am ei heffaith.

Rhannu’r stori hon