Ewch i’r prif gynnwys

Academyddion Caerdydd i olygu cyfres llyfrau newydd ynglŷn â'r Gyfraith a Hanes

7 Mehefin 2018

Clock image

Mae grŵp o academyddion y Gyfraith o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn gwahodd cynigion ar gyfer cyfres llyfrau newydd sydd â'r nod o wneud astudio hanes y gyfraith yn elfen ganolog o gwricwlwm y gyfraith.

Bydd y gyfres, a gyhoeddir gan Routledge, yn cael ei golygu gan Dr Lydia Hayes, Dr Katie Richards, Dr Russell Sandberg a Dr Sharon Thompson o grŵp ymchwil y Gyfraith a Hanes sy'n rhan o Ganolfan y Gyfraith a Chymdeithas.

Diben y gyfres yw arddangos ysgolheictod sy'n defnyddio theorïau, safbwyntiau neu ddulliau hanesyddol i ddadansoddi'r gyfraith a newidiadau i'r gyfraith, ac yn ogystal â haneswyr cyfreithiol, y gynulleidfa darged yw darllenwyr cyffredinol ym maes y gyfraith, er mwyn ehangu'r elfen hanesyddol o feysydd allweddol ysgolheictod cyfreithiol.

Dywedodd Dr Sandberg, Pennaeth y Gyfraith, "Mae safbwynt hanesyddol yn eich galluogi i gael dealltwriaeth o newidiadau cymdeithasol a chyfreithiol, a'r berthynas gymhleth rhwng newid a dilyniant. Yn wir, mae mabwysiadu safbwynt hanesyddol yn weithred feirniadol o reidrwydd. Mae'n gorfodi myfyrwyr y gyfraith ac ysgolheigion i ailfeddwl eu rhagdybiaethau ynglŷn â'r gyfraith a sefydliadau cyfreithiol. Mae'n dangos bod pob ffin sy'n cael ei chreu yn y gyfraith yn fympwyol, wedi'i chreu gan ddynol ryw, ac yn gynnyrch y gymdeithas y cafodd ei llunio ynddi."

"Rydw i wrth fy modd i weithio gyda fy nghydweithwyr – y mae eu llwyddiannau'n cwmpasu nifer o feysydd yn y gyfraith – ar y gyfres uchelgeisiol hon fydd yn gartref i waith dewr ac arloesol sy'n defnyddio hanes i fwrw goleuni newydd ar y gyfraith. O ystyried y cynnydd mewn gwaith rhyngddisgyblaethol mewn ysgolion y gyfraith, sydd wedi'i hebrwng gan The Journal of Law and Society yng Nghaerdydd, mae'r achos dros roi safbwynt hanesyddol yn ganolog ym maes ymchwil ac addysgu'r gyfraith yn hirddisgwyliedig. Mae'n hen bryd"

Gellir anfon pob cynnig i gyhoeddi yn y gyfres hon at Dr Russell Sandberg

Rhannu’r stori hon