Ewch i’r prif gynnwys

Anelu am yr aur yn y Gêmau Invictus

24 Mai 2018

Lee Matthews

Bydd aelod o staff y Brifysgol a ddewiswyd i gynrychioli Prydain Fawr yng Ngêmau Invictus eleni yn gwneud sawl aberth mawr mewn ymgais i ychwanegu at ei gasgliad o fedalau.

Mae Lee Matthews, o Fagwyr, Sir Fynwy, yn jyglo ei waith yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd gyda rhaglen hyfforddiant heriol.

Mae Lee, sy’n 29 oed, yn awyddus iawn i lwyddo yn y Gêmau eleni ar gyfer personél gwasanaeth a anafwyd, a glwyfwyd neu sy’n sâl.

Mae’r paratoadau sy’n ofynnol ar gyfer y campau y mae wedi’u dewis, sef codi pŵer a phêl-fasged cadair olwyn yn galw am ymrwymiad llawn ganddo yn feddyliol a chorfforol.

Mae hon yn her enfawr oherwydd ei fod yn dioddef o gyflwr sy'n cyfyngu ar y defnydd o un o’i goesau ac yn golygu ei fod yn dioddef poen cronig.

Ond er gwaethaf ei ymroddiad a'i ysbryd cystadleuol, mae’r Gêmau’n golygu llawer mwy na llwyddiant personol i Lee, Swyddog Asesiadau ac Achosion Myfyrwyr yn y Brifysgol.

Bu Lee yn gwasanaethu yng Nghorfflu Awyr y Fyddin rhwng 2006 a 2014, gan gwblhau taith o Afghanistan yn 2008, ond cafodd ddiagnosis o syndrom poen perfeddol-somatig yn 2010 yn dilyn llawdriniaeth gyffredin.

"Mae gennyf ddifrod nerfol yn fy nghoes chwith a rhan chwith isaf fy nghefn, ac rwy’n dioddef poen cronig. Rwy’n colli defnydd o’m coes chwith ac mae’n llawn pinnau bach.

"Rai dyddiau mae eich corff eisiau cau i lawr.  Mae wedi gwaethygu’n raddol ac mae agwedd iechyd meddwl i’r cyflwr hefyd.  Mae’n gallu bod yn eithaf anodd.

"Ond rwy’n bendant mewn lle da.  Rwy’n paratoi ac mae gennym ni lawer o wersylloedd hyfforddi cyn y Gêmau eu hunain."

Mae Lee wedi ennill medal aur a medal arian i Brydain Fawr yn y gystadleuaeth pêl-fasged cadair olwyn mewn Gêmau Invictus blaenorol, felly mae’n gwybod beth sy’n angenrheidiol.

"Rwy’n anelu am aur yn y codi pŵer ac rwyf am i ni fod yn gystadleuol eto o ran pêl-fasged,” meddai.

Mae Gêmau Invictus, a gychwynnwyd gan y Tywysog Harry yn 2014, ar gyfer cyn-filwyr a phersonél gwasanaeth gweithredol sydd wedi’u clwyfo, eu hanafu neu’n sâl.

Y nod yw ysbrydoli adferiad, cefnogi ailsefydlu a sicrhau dealltwriaeth ehangach o'r rhai sy'n gwasanaethu eu gwlad.

Mae Lee yn gwerthfawrogi ymdrechion y Tywysog Harry i hyrwyddo’r Gêmau a chefnogi’r athletwyr.

"Rydw i wedi cwrdd â’r Tywysog Harry ychydig o weithiau ac roeddwn i’n arfer gweithio gyda fe; roedd e’n beilot yn fy nghatrawd,” meddai. "Mae ei draed ar y ddaear ac mae’n deall y sefyllfa.  Mae mor gefnogol i ni.”

Cynhelir Gêmau eleni yn Sydney o 20-27 Hydref.

Rhannu’r stori hon