Ewch i’r prif gynnwys

Darlithydd yn y Gyfraith yn gyd-awdur ar ganllaw tryloywder ar gyfer ymarferwyr cyfraith teulu

3 Mai 2018

Mae Darlithydd yn y Gyfraith o Brifysgol Caerdydd yn gyd awdur llyfr newydd i helpu ymarferwyr llysoedd teulu.

Cafodd Transparency in the Family Courts: Publicity and Privacy in Practice ei ysgrifennu gan Ddarlithydd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Dr Julie Doughty, bargyfreithwraig mewn gweithred, a phennaeth Datblygu Cynnyrch a Chynnwys Ar-lein yng Nghyngor Corfforedig Adroddiadau'r Gyfraith (ICLR), Paul Magrath. Mae Syr Andrew McFarlane – a benodwyd yn ddiweddar yn Llywydd Isadran Teuluoedd yr Uchel Lys o fis Gorffennaf 2018 ymlaen – wedi ysgrifennu rhagair i'r llyfr.

Mae’r gyfraith ynghylch cyhoeddusrwydd a phreifatrwydd mewn achosion llys teulu wedi cael ei newid sylweddol dros y 15 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, yn hytrach na’i gwneud yn fwy eglur, mae hyn wedi ei gwneud yn fwy cymhleth yn ôl pob golwg. I helpu gyda'r mater hwn, nod llyfr newydd Dr Doughty yw cynnig esboniad o'r gyfraith berthnasol mewn gwahanol fathau o achosion ac amgylchiadau i ymarferwyr mewn llysoedd teulu sy’n cynrychioli pob parti. Bydd hyn yn eu galluogi i gynghori eu cleientiaid ynghylch prosesau unioni, eu hawliau a'u rhwymedigaethau o ran yr hyn a elwir yn ‘dryloywder’.

Mae tryloywder yn fater amlochrog mewn cyfiawnder teuluol. Mae cyhuddiadau o lysoedd 'cyfrinachol' a diffyg atebolrwydd yn creu diffyg ymddiriedaeth, ond mynegwyd pryderon hefyd ynghylch y peryglon posibl i'r plant sy'n rhan o achosion yr hysbysir yn eu cylch ar lwyfan cyhoeddus.

Mae'r llyfr yn amlinellu'r gyfraith a'r arferion ynghylch faint o gyhoeddusrwydd sy'n gyfreithlon ac yn gymesur mewn achosion a gynhelir yn breifat, neu sy'n ymwneud â gwybodaeth breifat.

Mae Dr Doughty yn arbenigo mewn materion sy’n ymwneud â thryloywder mewn llysoedd teulu ar ôl cynnal prosiect ymchwil yn 2016 a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Nuffield. Roedd yr astudiaeth hon yn dadansoddi patrymau mewn dyfarniadau a gyhoeddir; sylw yn y cyfryngau i lysoedd teulu; a safbwyntiau rhanddeiliaid allweddol.

Fel y mae Dr Doughty egluro, "Mae cryn gamddealltwriaeth ynghylch yr hyn sy’n gallu cael ei rannu, hysbysu yn ei gylch a'i gyhoeddi o lysoedd y teulu, o achosion sy'n amrywio o ysgariad i ddiogelu plant. Er bod ein llyfr wedi'i ysgrifennu ar gyfer ymarferwyr cyfreithiol yn bennaf, rydym yn gobeithio y bydd hefyd yn helpu newyddiadurwyr a gweithwyr cymdeithasol i ddeall y materion ynghylch adrodd yn ddiogel ar gyfiawnder y teulu, yn enwedig yn oes y rhyngrwyd, lle gall pawb, bron, fod yn gyhoeddwr."

Rhagor o wybodaeth am dryloywder yn y llysoedd teulu: Gellir dod o hyd i Publicity and Privacy in Practice ar wefan Bloomsbury Professional lle gellir ei brynu, hefyd.

Rhannu’r stori hon