Ewch i’r prif gynnwys

Lleoliadau ymchwil ar gael dros yr haf

27 Ebrill 2018

Image of student

Mae Mannau Cynaliadwy yn falch iawn o allu cynnig cyfle i chwe myfyriwr israddedig o Brifysgol Caerdydd gael lleoliad ymchwil yn yr Athrofa yn ystod yr haf.

Bydd y myfyrwyr yn cefnogi gwaith ein Cymdeithion Ymchwil a’n Cymrodyr Ymchwil yn rhan o gynllun CUROP Prifysgol Caerdydd (Lleoliadau Cyfleoedd Ymchwil Prifysgol Caerdydd).

Mae Rhaglen CUROP yn cynnig lleoliadau dros yr haf i israddedigion Prifysgol Caerdydd yn amgylchedd ymchwil y Brifysgol, gan weithio o dan oruchwyliaeth ar brosiectau ymchwil wedi’u pennu gan staff.

Dyma’r lleoliadau ymchwil sydd ar gael:

Mae prosiectau CUROP yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr gael blas ar ymchwil fyw, gwella’u sgiliau academaidd a gwneud penderfyniad mwy gwybodus ynghylch ymchwilio ymhellach ar lefel ôl-raddedig.

Ar gyfer ymchwilwyr, gallai ysgolheigion CUROP gyfrannu’n sylweddol at ddechrau a dilyniant prosiectau ymchwil a chynnig staff ychwanegol gwerthfawr yn ystod yr haf.

Ar ddiwedd yr haf, bydd yr holl fyfyrwyr CUROP ar draws y Brifysgol yn dod ynghyd am ddiwrnod i arddangos posteri eu hymchwil, gan rannu profiadau a rhannu canfyddiadau eu hymchwil i gynulleidfa'r Brifysgol.

Rhannu’r stori hon