Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilydd y Brifysgol yn cipio gwobr fawreddog

25 Mehefin 2015

Jenny Kitzinger

Mae athro o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr fawreddog am ei gwaith ymchwil i brofiadau teuluoedd o gyflyrau coma, diymateb a lled-anymwybodol

Mae gwaith yr Athro Jenny Kitzinger wedi ennill gwobr Effaith Ragorol mewn Cymdeithas y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol 2015.

Mae'r wobr yn cydnabod gwaith ymchwil yr Athro Kitzinger gyda'i chydweithiwr a'i chwaer, yr Athro Celia Kitzinger (Prifysgol Efrog), ar faterion oedd yn cynnwys gwneud penderfyniadau diwedd bywyd, gofal a thriniaeth, effaith ar deuluoedd a gwella.

Cafwyd trafodaeth gyhoeddus eang am foeseg feddygol o ganlyniad i'r gwaith. Mae hefyd wedi llywio dogfennau polisi pwysig gan gynnwys y Canllawiau Clinigol Cenedlaethol am anhwylderau ymwybod hirfaith.

Gweithiodd y ddau ymchwilydd gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Rhydychen hefyd yn ogystal â Chronfa Ddata o Brofiadau Cleifion Unigol (DIPEx). Elusen yw hon sydd wedi creu adnodd aml-gyfrwng ac ar-lein, sy'n rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i deuluoedd ac ymarferwyr.

Lansiwyd yr adnodd fis Medi 2014, ac mae eisoes wedi cofnodi profiadau dros 4,000 o bobl ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio wrth hyfforddi ymarferwyr gofal iechyd a chyfreithiol.

Mae gwaith yr ymchwilwyr hefyd wedi'i droi'n rhaglen o'r enw 'Coma Songs' ar BBC Radio 3, (a gyd-gynhyrchwyd gan Jenny Kitzinger) sy'n herio ystrydebau cyffredin ynglŷn â chomas.

Yn ogystal â gwobr y Cyngor, enillodd yr ymchwil gydnabyddiaeth genedlaethol yn gynharach eleni ar ôl dod yn gydradd ail yng Ngwobrau Prifysgolion The Guardian 2015, ac enillodd Wobr Polisi Arloesedd Prifysgol Caerdydd yn gynharach y mis hwn.

Dywedodd yr Athro Jenny Kitzinger: "Ni fyddem wedi gallu datblygu'r gwaith ymchwil hwn heb ymrwymiad y teuluoedd a rannodd eu profiadau gyda ni mewn ffordd mor agored – gan gynnwys cytuno i gael eu ffilmio ar gyfer adnodd healthtalk.org.

"Mae sawl her i ddod, ond mae'r rhoi'r pwyslais ar glywed gan y rhai sydd â chysylltiad uniongyrchol yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer mwy o waith yn y maes hwn."

Mae Gwobr Dathlu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn cydnabod ac yn gwobrwyo llwyddiannau ymchwilwyr sydd wedi'u hariannu gan y Cyngor ac sydd wedi cyflawni effeithiau economaidd a chymdeithasol rhagorol, neu'n gwneud hynny ar hyn o bryd.

Cyhoeddwyd yr enillwyr yn Central Hall San Steffan, Llundain ar 24 Mehefin.

Rhannu’r stori hon