Ewch i’r prif gynnwys

Taith No Good Brother(s) yn cwrdd â BookTalk Caerdydd

25 Ebrill 2018

Darlithydd ysgrifennu creadigol yn dod â sioe deithiol lenyddol i BookTalk Caerdydd y Brifysgol

Yn dilyn y digwyddiad bywiog diwethaf i nodi Diwrnod Barddoniaeth y Byd, mae BookTalk Caerdydd yn dychwelyd gyda chymysgedd gwreiddiol arall, a’r tro hwn mae’n cyfuno ysgrifennu a cherddoriaeth newydd.

Y mis hwn, bydd yr academydd a’r awdur nodedig, Tyler Keevil, a'i frawd – y crëwr ffilmiau a'r cerddor Jonathan Keevil – yn dod a’u sioe deithiol lenyddol, The No Good Brother(s), i ben yn ngrŵp llyfrau arbennig y Brifysgol.

Drwy gydol mis Ebrill, mae’r brodyr – a anwyd yn Vancouver – wedi bod yn teithio ar draws Cymru a de-orllewin Lloegr gyda'r prosiect effaith ac ymgysylltu, a ariennir ar y cyd gan y Brifysgol a Chyngor Celfyddydau Lloegr. Gan gyfuno cerddoriaeth, darlleniadau wedi’u dramateiddio o lyfr diweddaraf Tyler Keevil, No Good Brother, a thrafodaeth ynghylch y broses o greu’r llyfr, mae’r daith wedi cynnwys Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth a Phenwythnos Talacharn yng Nghymru, a Theatr Calder yn Llundain.

Dyma sut mae Tyler Keevil yn esbonio’r meddylfryd y tu ôl i'r daith arloesol: "Roedd cerddoriaeth Jon yn rhan annatod o hanes a datblygiad y nofel.  Oherwydd hynny, pan ddaeth yn fater o ymgysylltu â chynulleidfaoedd, roedd fel petai’n gwneud synnwyr i roi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol i’r darlleniad llenyddol traddodiadol.  Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth Cyngor y Celfyddydau a’r Brifysgol yn fawr, ac mae’r cynulleidfaoedd wedi bod yn frwd ac yn barod i’n derbyn. “Mae'n wych dod â’r daith i ben yn BookTalk Caerdydd yng nghanol y brifddinas.”

Enillodd Tyler Keevil Wobr y Bobl am Lyfr y Flwyddyn yn 2010 am ei nofel gyntaf, Fireball. Ef hefyd yw awdur yr antur yrru, The Drive, oedd ar y rhestr fer ar gyfer Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru, yn ogystal â’r casgliad o ffuglen byrion, Burrard Inlet, ay’n cynnwys y stori Sealskin, a enillodd y Writers Trust of Canada/McClelland & Stewart Journey Prize.

Mae Jonathan Keevil yn grëwr ffilmiau ac yn gerddor. Mae’n adnabyddus yn bennaf am y trac sain i’r ffilm annibynnol, Bellflower, detholiad swyddogol yng Ngŵyl Ffilm Sundance a South by Southwest. Bydd ei albwm newydd ar gael nes ymlaen eleni.

Mae BookTalk Caerdydd yn grŵp llyfrau unigryw a sefydlwyd yn y Brifysgol yn 2011. Mae’n trin a thrafod safbwyntiau arbenigol a barn darllenwyr ynghylch y syniadau mawr mewn ystod o ffuglen glasurol a chyfoes. Mae digwyddiadau BookTalk Caerdydd yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Yn rhan o’u taith, bydd No Good Brother(s) yn dod i Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg Prifysgol Caerdydd ddydd Mercher, 25 Ebrill. Mae’r tocynnau, sydd ar gael ymlaen llaw yn unig, yn gwerthu’n gyflym.

Rhannu’r stori hon