Ewch i’r prif gynnwys

Times Higher Education yn rhoi sylw i gyhoeddiad newydd Athro’r Gyfraith

20 Ebrill 2018

Jirí Pribán
Jirí Pribán

Cafodd Jirí Pribán, sy’n athro cymdeithaseg a’r gyfraith, sylw yn Times Higher Education (THE) yn ddiweddar i gyd-fynd â chyhoeddi ei lyfr newydd.

Mae’r Athro Pribán wedi cyhoeddi casgliad o draethodau ar wleidyddiaeth fodern Ewrop o’r enw The Defence of Constitutionalism: The Czech Question in Post-national Europe.

Dros ganrif ar ôl i’r gwleidydd Tomáš Garrigue Masaryk o Weriniaeth Siec gyhoeddi ei astudiaeth The Czech Question, mae gwleidyddiaeth Gweriniaeth Tsiec wedi datblygu i fod yn gwestiwn pragmatig ynghylch cyfansoddiadaeth ddemocrataidd a gwarineb yn hytrach na hanes brwydr y genedl i oroesi a sicrhau annibyniaeth.

Yn dilyn hynny, mae llyfr yr Athro Pribán yn dangos bod y ddealltwriaeth newydd hon yn cynnwys cwestiynau technegol o safbwynt ennill pwerau yn ogystal â chwestiynau allweddol ynghylch ystyr hyn. Democratiaeth yw'r broses barhaol o hunan-gywiro. Mae’n gallu ymateb i broblemau ac argyfyngau annisgwyl yn ogystal â thensiynau cynhenid rhwng dadleuon egwyddorol a phrosesau gweinyddol bob dydd.

Felly, er mwyn amddiffyn cyfansoddiadaeth, mae angen egwyddorion hawliau dynol a rhyddid, cyn lleied o lywodraeth â phosibl, democratiaeth gynrychioliadol. Mae dilysrwydd a grym perswâd yr egwyddorion hyn yn y fantol, nid yn unig yng Ngweriniaeth Siec, ond hefyd yn yr Undeb Ewropeaidd ôl-genedlaethol a’n cymdeithas fyd-eang yn gyffredinol.

Yn y cyfweliad gyda’r Athro Priban yn THE, mae’n trafod ei gyhoeddiad diweddaraf ac yn sôn am y llyfrau mae’n bwriadu eu darllen, y rhai sydd wedi dylanwadu arno drwy gydol ei fywyd (o fewn a’r tu allan i’r byd academaidd) a’r rhai y byddai’n eu rhannu ag eraill.

Rhannu’r stori hon