Ewch i’r prif gynnwys

Ennyn brwdfrydedd ar gyfer gwyddoniaeth a pheirianneg

23 Mehefin 2015

Karen Holford with formula 1 car

Fel rhan o Ddiwrnod Cenedlaethol Menywod mewn Peirianneg, mae'r Athro Karen Holford o Brifysgol Caerdydd, Dirprwy Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, yn esbonio beth sbardunodd ei diddordeb mewn gwyddoniaeth. Mae hefyd yn sôn am ei huchelgais i gael mwy o fenywod ym maes peirianneg

Ni fu erioed gyfnod mwy cyffrous i gychwyn ar yrfa mewn peirianneg. Mae cymdeithas yn dibynnu ar dechnoleg yn fwy nag erioed; peirianwyr a gwyddonwyr yw'r bobl sy'n datrys heriau byd-eang megis datblygu ffynonellau ynni cynaliadwy, galluogi pobl i gael gafael ar ddŵr glân, a chynorthwyo poblogaeth sy'n heneiddio i fyw'n iach. Maent hefyd yn caniatáu i ni gael offer uwch-dechnoleg fel ffonau symudol, cyfrifiaduron datblygedig, ceir ac awyrennau cyflymach, peiriannau argraffu 3D, a llawer, llawer mwy.

Mae peirianwyr yn teithio ledled y byd, yn gweithio gyda phobl ddiddorol dros ben, ac yn rhan o ystod eang o brosiectau hynod gyffrous. Ar ben hynny, cewch y cyfle i ddatblygu technoleg sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i'n bywydau bob dydd.  

Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae angen i Gymru wneud rhagor i annog mwy o bobl i mewn i'r proffesiwn.

Yn ôl yr Academi Beirianneg Frenhinol, mae angen i Gymru ddarparu 2,500 yn ychwanegol o raddedigion peirianneg dros y pum mlynedd nesaf i gau'r bwlch a adewir gan beirianwyr sy'n ymddeol.

Yn yr un modd, dangosodd adroddiad diweddar bod angen i brifysgolion Cymru recriwtio 600 o academyddion ychwanegol ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg i allu cael cyfran fwy o arian o ffynonellau ariannu ymchwil yn y DU.

Os gallwn fodloni'r gofynion hyn, bydd Cymru yn lle mwy deniadol i fusnesau gan greu mwy o swyddi ac ychwanegu twf sylweddol i economi Cymru.

Fodd bynnag, bydd recriwtio niferoedd o'r fath yn dalcen caled oni bai ein bod yn annog mwy o fenywod i mewn i faes peirianneg.

Ar hyn o bryd, digon digalon yw'r sefyllfa sydd ohoni. Dim ond tua hanner y menywod sy'n ennill gradd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg neu fathemateg (pynciau STEM) sy'n mynd ymlaen i weithio yn un o'r meysydd hyn, o'i gymharu â dros ddwy ran o dair o ddynion sy'n graddio.

Oherwydd hynny, amcangyfrifir bod merched yn llai na 10% o'r gweithlu peirianneg yn y DU — y ganran isaf yn Ewrop.

Fel rhan o 'Ddiwrnod Cenedlaethol Menywod mewn Peirianneg' heddiw, bydd sefydliadau ledled y DU yn codi proffil ac yn dathlu llwyddiannau menywod mewn peirianneg, yn ogystal ag annog mwy o ferched (a bechgyn) i ystyried peirianneg fel gyrfa.

Os ydym am wneud peirianneg yn ddeniadol i ferched, rhaid i ni gael gwared ar y myth ei fod yn bwnc 'i fechgyn yn unig', a dileu'r ystrydebau sy'n gysylltiedig â'r proffesiwn. Er enghraifft, mae cartwnau plant a rhaglenni teledu yn dal i bortreadu peirianwyr fel pobl fewnblyg neu ryfedd, sydd heb unrhyw sgiliau cymdeithasol ac sy'n gwneud swyddi diflas.

Yn hytrach nag annog plant i eistedd o flaen y teledu a gwylio'r mathau hyn o raglenni, mae angen iddynt ymgysylltu â'r byd o'n cwmpas a rhaid i ni eu hannog i ofyn cwestiynau.

Pan oeddwn yn blentyn, rwyf yn cofio fy nhad yn galw arnaf i fynd y tu allan gan fod Concorde ar fin hedfan uwchben. Eglurodd hwyrach na fyddwn yn gallu ei weld, ond gallwn glywed y glec sonig. Pan ofynnais iddo beth yw clec sonig, dywedodd wrthyf fynd i chwilio amdano yn y gwyddoniadur. Roeddwn yn blentyn hynod chwilfrydig, ac roeddwn yn aml yn gofyn cwestiynau na allai pobl eu hateb. Felly, chwiliais am yr atebion fy hun.

Roedd gan fy nhad garej, felly roeddwn yn ymarferol iawn hefyd ac yn arfer rhoi help llaw iddo'n rheolaidd. Yn sgîl ei ddylanwad, ochr yn ochr â fy chwilfrydedd naturiol, cadwais yn brysur drwy gydol fy amser yn yr ysgol uwchradd, a fi oedd yr aelod cyntaf o fy nheulu i fynd i brifysgol.

Mae rôl y rhiant yn hollbwysig, ac mae angen i ni eu helpu i ddeall modd cael gyrfa dda a chyffrous mewn peirianneg.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym yn gwneud popeth y gallwn i gysylltu â'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr a'u hysbrydoli drwy nifer o wahanol brosiectau ymgysylltu. Yr wythnos ddiwethaf, daeth 400 o fyfyrwyr o Goleg Chweched Dosbarth Gatholig Dewi Sant, i'n gweld ar gyfer diwrnod o weithgareddau, gweithdai a thrafodaethau am bynciau STEM.

Cynigiwyd safbwynt newydd i'r myfyrwyr drwy fynd â nhw o'r ystafell ddosbarth ac i amgylchedd lle roeddent yn gallu gweld effaith gwyddoniaeth dros eu hunain, yn ogystal â chael blas ar fywyd prifysgol.

Mae 'Diwrnod Cenedlaethol Menywod mewn Peirianneg' yn gyfle gwych i ni dynnu sylw at fanteision gyrfa mewn peirianneg, ond mae'n bwysig ein bod yn cyflwyno'r neges drwy gydol y flwyddyn, bob blwyddyn, i bob cenhedlaeth.

Rhannu’r stori hon