Ewch i’r prif gynnwys

Y "Deyrnas Ranedig"

5 Ebrill 2018

Book title on the cover of the book

Mae academydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn credu bod bodolaeth y DU mewn perygl o ganlyniad i "ddiffyg gwleidyddiaeth bleidiol wirioneddol Brydeinig".

Mae'r Athro Roger Awan-Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi dod i'r casgliad bod dewisiadau gwleidyddol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi dod yn fwyfwy rhanedig, yn rhannol o ganlyniad i ddatganoli.

Mae o'r farn bod Etholiad Cyffredinol 2017 wedi amlygu a chynyddu'r broses hon o "erydu democratiaeth Brydeinig".

Dywedodd yr Athro Awan-Scully: "Nid yw'r DU erioed wedi cael etholiad cyffredinol â chyn lleied o gysylltiad rhwng yr ymgyrchoedd ar draws y pedair gwlad. I raddau helaeth, roedd yr etholiad yn cynnwys pedair cystadleuaeth wleidyddol ar wahân oedd yn cyd-ddigwydd.

"Mae pleidleiswyr ledled y DU yn parhau i ddefnyddio etholiadau cyffredinol i ethol cynrychiolwyr i un Tŷ'r Cyffredin. Ond yn gynyddol maent yn gwneud hyn mewn pedwar etholiad ar wahân; gydag arweinyddion ar wahân a maniffestos ar wahân sy'n cynhyrchu pedair set o ddewisiadau ar yr un pryd.

"Mae'r trafodaethau a'r dewisiadau cyffredin sy'n uno cymuned wleidyddol ac yn helpu i roi ymdeimlad o fod yn genedl gydlynol ac unedig yn prysur ddiflannu."

Ychwanegodd: "Os bydd etholiadau cyffredinol y DU yn parhau ar eu trywydd presennol, yn y pen draw mae hyn yn broblem o safbwynt undod a chyfanrwydd y DU. Gallai diwedd gwleidyddiaeth bleidiol Brydeinig hyd yn oed olygu y diwedd i Brydain ei hun."

Yr Athro Awan-Scully yw un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw y DU ym maes datganoli, barn y cyhoedd, a gwleidyddiaeth bleidiol. Mae ei ddadansoddiad o arolygon Baromedr Gwleidyddol Cymru, a gynhelir gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad ag ITV Cymru-Wales ac YouGov, wedi llywio dadleuon gwleidyddol a helpu i gynnig modd o ddeall barn y cyhoedd yng Nghymru. Mae hefyd wedi arwain y ddwy Astudiaeth Etholiadol Cymru ddiwethaf, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y DU. Cafodd Roger ei enwi'n Gyfathrebwr Astudiaethau Gwleidyddol y Flwyddyn gan y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol yn 2017.

Mae ei asesiad diweddaraf o sîn wleidyddol Prydain wedi'i amlinellu yn ei lyfr, The End of British Party Politics? sydd ar werth nawr.

Rhannu’r stori hon