Ewch i’r prif gynnwys

Cyflogwyr yn ymgymryd â'r her i gau bylchau cyflog rhwng dynion a menywod yng Nghymru pay gaps in Wales

17 June 2015

Women adding value to the economy

Mae tri sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru, sy'n cyflogi cyfanswm cyfunol o bron i 23,000 o staff, wedi ymgymryd â'r her i geisio cau bylchau cyflog rhwng dynion a menywod yn y farchnad lafur, sy'n broblem ers amser maith

Gan gydweithio'n agos ag ymchwilwyr o brosiect WAVE yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, roedd y cyflogwyr yn cael dadansoddiad manwl o ddata gweithlu a chyflog, a oedd yn nodi'r ffynonellau o wahaniaethau yng nghyflogau dynion a menywod. Mae pob cyflogwr bellach yn cymryd camau i gau'r bylchau cyflog. Caiff y Rhaglen Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi (WAVE) ei chefnogi gydag arian gan Lywodraeth Cymru a'r UE.

Dywedodd Dr Alison Parken, Cyfarwyddwr Ymchwil WAVE yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Roedd y dadansoddiad o ddata am weithluoedd a chyflogau'n dangos pa mor anaml mae dynion a menywod yn gweithio yn yr un swyddi ac ar yr un raddfa, sy'n golygu na fydd hyd yn oed yr arferion gorau o ran atal gwahaniaethu ar sail cyflog yn llwyddo i fynd i'r afael ag achosion bylchau cyflog rhwng dynion a menywod.

"Fodd bynnag, mae cydweithio â grŵp o gyflogwyr mawr i rannu data wedi bod yn gam mawr ymlaen wrth fynd at wraidd y broblem a dod o hyd i atebion. Rydym wedi gallu eu helpu i ddechrau rhoi newidiadau arloesol ar waith wrth gynllunio ar gyfer y gweithlu a datblygu ar lefel sefydliadol."

Roedd y gwaith ymchwil hefyd yn dangos bod gan nifer sylweddol o fenywod ddwy neu ragor o swyddi rhan-amser, neu ran-amser ac achlysurol, er mwyn 'gwneud i'r gwaith dalu'; sy'n awgrymu bod angen cwestiynu'r rhagdybiaeth bod 'menywod yn dewis gwaith rhan-amser'.

Mae'r adroddiad newydd (a gyhoeddwyd heddiw, 17 Mehefin 2015) o'r enw 'From Evidence to Action on Gender Pay Gaps' yn rhoi manylion canfyddiadau'r gwaith ymchwil a'r camau i reoli newid sydd bellach ar waith yn y sefydliadau hyn. Mae'r adroddiad ar gael i bob cyflogwr, er mwyn iddynt ddeall y materion a'r camau gwella.

Dyma rai o'r newidiadau sy'n cael eu cyflwyno gan gyflogwyr sy'n rhan o'r prosiect:

  • Camau i dynnu labeli amser llawn a rhan-amser o ddisgrifiadau swyddi, er mwyn i'r term 'rhan-amser' golli ei allu, dros amser, i ddibrisio'r gwaith mae menywod yn ei wneud.
  • Gofyn i fenywod mewn gwaith rhan-amser graddfa isel am eu huchelgais i symud i waith graddfa uwch, ac a ydynt yn dymuno gweithio'n rhan-amser, neu'n gwneud hynny am mai dyna'r unig batrwm gwaith sydd ar gael
  • Hyfforddiant ar gyfer rheolwyr recriwtio ynghylch sut gall tuedd anymwybodol effeithio ar gynllunio swyddi ac oriau gwaith
  • Creu cynlluniau 'paratoi at ddyrchafiad' newydd yn arbennig ar gyfer menywod nad ydynt o reidrwydd yn dilyn y llwybr amser llawn i symud ymlaen mewn swyddi rheoli a phroffesiynol. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar gadw menywod sy'n cael seibiant gyrfa ac sy'n dychwelyd i'r gwaith yn rhan-amser.
  • Rhoi gwybod i weithwyr achlysurol, dros dro a thymor penodol pan fydd cyfleoedd am swyddi parhaol yn codi.

Aeth Dr Parken yn ei blaen: "Mae ein canfyddiadau'n dangos bod cysylltu galwedigaethau a strwythurau cyflogaeth penodol ag un rhyw benodol yn cyfrannu at greu a chynnal bylchau cyflog rhwng dynion a menywod. Bydd hyn yn parhau hyd nes y gwerthfawrogir 'gwaith menywod' yn well, a hyd nes y bydd gwell cyfleoedd i ennill sgiliau, cael hyfforddiant a symud o oriau a swyddi rhan-amser dros gyfnod gwaith oes.

Mae wedi bod yn bleser cydweithio â'r cyflogwyr. Maent wedi ymdrechu'n galed ac ymrwymo i wneud newidiadau parhaol. Byddwn yn dal ati i'w cefnogi yn eu hymdrechion i newid systemau a phatrymau ymddygiad sy'n arwain at ail-greu bylchau cyflog rhwng dynion a menywod genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth."

Meddai'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi menywod yn y gweithle a helpu i wneud yn siŵr eu bod yn cael y cyflog y maent yn ei haeddu.

"Rwy'n hynod falch ein bod wedi gallu cefnogi rhaglen WAVE gydag arian gan Lywodraeth Cymru a'r UE, i'w helpu i fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r bylchau cyflog rhwng dynion a menywod. Bydd gwaith y rhaglen gyda sefydliadau ledled Cymru yn helpu i greu gweithle tecach ar gyfer menywod, ac yn arwain at economi fwy ffyniannus yng Nghymru."

Yn ôl Joanna Davies, Cyfarwyddwr Datblygu Gweithluoedd a Threfniadaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf: "Fel cyflogwr o bwys yn ardal y cymoedd, rydym wedi dadansoddi proffil cydraddoldeb ein gweithlu dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, aeth yr astudiaeth â ni i lefel newydd sbon o ran cynnig dadansoddiad manwl o'r wybodaeth a'r cyfle i drafod beth oedd y data yn ei ddweud wrthym mewn gwirionedd. 

Mae'n dyled yn fawr i dîm rhaglen WAVE Prifysgol Caerdydd am elfen ymchwil y broses, yn ogystal â'r gefnogaeth hynod effeithiol y maent wedi'i rhoi o ran rheoli newidiadau."

Mae tîm WAVE yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn profi dull newydd gyda chyflogwyr ar hyn o bryd, ac mae'n gobeithio eu helpu i gynnal eu dadansoddiad gweithlu a chyflog eu hunain, yn ogystal â gweithredu camau newid, yng ngham nesaf WAVE. Bydd Dull Dadansoddi Cyflogaeth a Chyflog Dynion a Menywod (GEPA) yn cael ei ryddhau y flwyddyn nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r defnydd o GEPA gan sefydliadau sector cyhoeddus, er mwyn iddynt gyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddyletswydd Cyflog Cyfartal unigryw Llywodraeth Cymru. Mae'r ddyletswydd hon yn gorfodi cyflogwyr i gymryd camau ynglŷn â'r gwahaniaethau cyflogaeth sy'n arwain at fylchau cyflog rhwng dynion a menywod.