Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad yn cefnogi bargen arloesedd i Gymru

26 Mawrth 2018

Creative Cardiff VR

Mae angen cytundeb newydd rhwng prifysgolion, busnesau a'r llywodraeth i gyflymu arloesedd yng Nghymru, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw.

Mae dadansoddiad a gyhoeddwyd gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes yn dweud bod angen ymdeimlad o nod cyffredin i fynd ati'n gyflym i droi ymchwil yn gynhyrchion, prosesau a chwmnïau deillio sy'n cynyddu ffyniant.

Mae'n dadlau bod y newid byd-eang tuag at ddadansoddeg data, cyfrifiadura cwantwm a Deallusrwydd Artiffisial, wedi miniogi'r angen i rwymo gweinyddwyr, academyddion ac entrepreneuriaid at ei gilydd er mwyn sicrhau ffyniant at y dyfodol.

Mae 'Creu'r Cysylltiad - Cytundeb Arloesedd Cenedlaethol Newydd i Gymru' yn galw am ragor o gyllid Ymchwil o Safon gan Lywodraeth Cymru i ddod â syniadau i'r farchnad. Mae'r adroddiad, a gyhoeddir gan Dasglu Cynyddu Gwerth Cymru – grŵp o arbenigwyr a sefydlwyd yn 2016 – yn tynnu sylw at yr angen i:

  • Greu 'cytundeb' newydd rhwng y llywodraeth, prifysgolion, busnesau a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru i alinio eu diddordebau, creu cyfathrebu o safon, a chynnal cysylltiadau rhagorol;
  • Cynyddu cyllid Ymchwil o Safon gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio Adolygiad Reid o ymchwil sydd wedi'i hariannu gan lywodraeth ac arloesedd yng Nghymru fel modd o wneud hynny.
  • Help gan Lywodraeth Cymru i leihau risg a chyflymu gwaith mewn canolfannau ymchwil a datblygu ar y cyd ar gampysau sy'n canolbwyntio ar dechnolegau newydd a heriau mawr (megis heneiddio); a
  • Gwaith mwy effeithiol gan brifysgolion i gyd-fynd ag anghenion sgiliau cyflogwyr drwy ddylunio cwricwla ar y cyd, ailsgilio gydol oes, a datblygiad proffesiynol parhaus.

Mae'r adroddiad hwn wedi'i arwain gan yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor a Llywydd Prifysgol Caerdydd, a Dr Drew Nelson, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol IQE PLC, sydd a'i bencadlys yng Nghaerdydd ac sy'n arweinydd byd-eang ym maes dylunio a chynhyrchu wafferi lled-ddargludyddol uwch.

Mae'n rhaid i randdeiliaid yng Nghymru ddod at ei gilydd mewn ysbryd o gyd-gynhyrchu i hybu hunanddibyniaeth fel gwlad falch, ac i ddod o hyd i ffyrdd o fanteisio ar y cyfleoedd ym Mhrydain ar ôl Brexit," meddai'r Athro Riordan.

Ychwanegodd Dr Nelson: "Bydd ffrydiau ariannu megis y Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol, bargeinion dinas-ranbarth, Cronfa Ffyniant Gyfrannol y DU a addawyd, Ymchwil ac Arloesi yn y DU a mentrau arloesi Llywodraeth Cymru yn fwy pwerus, trawsnewidiol ac effeithiol ar gyfer economi Cymru os bydd yr asiantaethau a’r actorion amrywiol sydd a wnelo yn cydgysylltu eu hymdrechion."

Mae'r adroddiad yn galw am Gytundeb Arloesedd Cenedlaethol sy'n para (pum mlynedd o leiaf) ac yn cyflwyno adroddiadau yn ôl i Gomisiwn Cytundeb Arloesedd, sy'n cynnwys arweinwyr o'r llywodraeth, byd busnes, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, ac is-gangellorion a phenaethiaid ysgolion a cholegau yng Nghymru.

Arweiniodd yr Athro Graeme Reid adolygiad o ymchwil ac arloesedd ar ran Llywodraeth Cymru.

"Mae rhai cysylltiadau gwych rhwng busnesau a phrifysgolion yng Nghymru.  Mae'r adroddiad hwn yn cynnig y weledigaeth i greu mwy ohonynt a’u gwneud hyd yn oed yn well." meddai.

Dywedodd David Docherty, Prif Weithredwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes: "Ers i Dasglu Cynyddu Gwerth Cymru NCUB ddod ag uwch arweinwyr at ei gilydd yn 2016, cafwyd newid sylweddol i'r dirwedd economaidd, yng nghyd-destun Brexit ac o ran tueddiadau byd-eang a ysgogwyd gan dechnoleg.

"Yng Nghymru, lansiwyd cynllun newydd ar gyfer ffyniant economaidd, mae cytundebau Bargeinion Dinesig ar y gweill, ac mae’r trefniadau ar gyfer ariannu addysg uwch ac ymchwil ac arloesedd yn newid yn barhaus. Ni fu erioed amser gwell i weithio gydag ymdeimlad o nod cyffredin i sicrhau ffyniant mwy eang."