Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr Caerdydd yn arddangos cyfleuster mellt arloesol

11 Mehefin 2015

setting up lights in lab
The Morgan Botti lab featured in a recent filming session for Canadian CBC TV show, 'The Nature of Things.'

Bydd labordy ym Mhrifysgol Caerdydd yn agor ei ddrysau heno i ddangos sut mae tîm blaenllaw yn datblygu ymchwil arloesol i fellt

Mae peirianwyr yn Labordy Mellt Morgan Botti, ym Mae Caerdydd, yn helpu diwydiannau i ddatblygu awyrennau ffibr carbon cyfansawdd sy'n arbed tanwydd.

Mae ymchwilwyr y labordy'n gwahodd y cyhoedd i'w gweld ar waith heno fel rhan o arddangosfa Gŵyl Arloesedd Cymru, sef rhaglen o ddigwyddiadau i ddathlu arloesedd sy'n torri tir newydd yng Nghymru.

Sefydlwyd y ganolfan gan Brifysgol Caerdydd ac Airbus Group Innovations, Casnewydd, a bydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddysgu sut mae'n cynhyrchu mellt artiffisial a sut mae ei gwaith ymchwil yn helpu'r diwydiant awyrofod yn uniongyrchol.

Mae'n un o ddwsinau sy'n cyfrannu at yr Ŵyl a drefnir gan Rwydwaith Technolegau Meddalwedd ac Electroneg Cymru (ESTnet) a'r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth (KTN), gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Dyma'r ail flwyddyn i'r ŵyl gael ei chynnal, a'i nod yw tynnu sylw at arloesedd er mwyn annog busnesau a sefydliadau blaenllaw i fuddsoddi yng Nghymru. Mae amrywiaeth eang o gwmnïau a sefydliadau'n cymryd rhan, gan gynnwys mentrau meddalwedd, electroneg, gwyddor bywyd, modurol ac awyrofod, ac adrannau ymchwil blaenllaw mewn prifysgolion.

Dywedodd yr Athro Manu Haddad, Cyfarwyddwr Labordy Mellt Morgan-Botti: "Mae hwn yn gyfleuster ymchwil unigryw sy'n bwrpasol ar gyfer rhaglenni awyrofod. Y prif nod yw helpu i ddylunio gwell deunyddiau a chydrannau awyrofod, sy'n gallu amddiffyn yn well yn erbyn mellt. Rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion yn benodol ar ddeunyddiau carbon cyfansawdd. Mae'n gyffrous iawn cael cymryd rhan yn yr ŵyl, ac rydym yn awyddus i rannu cyflawniadau ein tîm ymroddedig â phobl eraill. Mae ymdeimlad o frwdfrydedd ymysg y tîm ymchwil, sydd wedi helpu i wneud cynnydd sylweddol wrth ddatblygu technegau newydd ers sefydlu'r ganolfan dair blynedd yn ôl. Rydym eisoes yn denu diwydiannau rhyngwladol allweddol i weithio gyda ni, a fydd o fudd i'r economi ac yn gwella rhagoriaeth ryngwladol gwyddoniaeth a pheirianneg yng Nghymru".

Cynhelir y digwyddiad yn Labordy Mellt Morgan-Botti, Pacific Road, Caerdydd am 17:00 heno (dydd Iau, 11 Mehefin 2015).

Cewch ragor o fanylion am yr Ŵyl yn www.festivalofinnovation.org

I gadw lle yn y digwyddiad heno, ebostiwch JonesJ86@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon