Ewch i’r prif gynnwys

Dileu heintiau difrifol

10 Mehefin 2015

Petri dish containing bacteria

Astudiaeth yn dangos bod sychwyr gwlyb glanedol clinigol yn lledaenu heintiau difrifol yn yr ysbyty  

Yn ôl canfyddiadau astudiaeth newydd o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mae sychwyr gwlyb glanedol clinigol a gaiff eu defnyddio mewn ysbytai ar draws y DU yn "amrywio'n fawr" o ran eu gallu i gael gwared ar heintiau difrifol, neu 'superbugs'.

Yn ogystal, ym mhob achos, canfu'r gwyddonwyr bod y sychwyr yn lledaenu'r heintiau o un arwyneb i arwyneb arall.

Mae'r rhan fwyaf o bolisïau rheoli heintiau'r DU yn cefnogi'r defnydd o gynhyrchion glanedydd i lanhau ysbytai, ac mae sychwyr gwlyb glanedol yn cael eu defnyddio fwyfwy. Mae bacteria sydd ar arwynebau mewn ysbytai yn arwain at haint, sy'n golygu bod cleifion yn gorfod aros yn yr ysbyty am fwy o amser a chael rhagor o driniaethau.

Ac eto, nid oes unrhyw wybodaeth wedi bod ar gael am allu sychwyr gwlyb glanedol clinigol i gael gwared ar facteria sy'n achosi clefydau oddi ar yr arwynebau hyn heb eu lledaenu. 

Heddiw, mae tîm o ymchwilwyr o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol y Brifysgol wedi addo taflu goleuni ar y mater hwn, gyda chyhoeddiad ar-lein yn American Journal of Infection Control.

Maent wedi profi saith o sychwyr glanedol sydd ar gael ar y farchnad ar dri o'r heintiau mwyaf cyffredin mewn ysbytai, sy'n cynnwys:

  • Staphylococcus aureus (MRSA) - gall achosi amrywiaeth eang o heintiau, o heintiau croen cymharol ddiniwed fel clewynnod, i heintiau mwy difrifol ar y gwaed, yr ysgyfaint a'r galon.
  • Dolur rhydd Clostridium difficile - mae'r symptomau'n cynnwys tymheredd uchel a chramp yn yr abdomen. Gall heintiau arwain at gymhlethdodau sy'n bygwth bywyd, gan gynnwys chwydd difrifol yn y coluddyn.
  • Acinetobacter baumannii - bacteria heintus iawn a all achosi heintiau yn yr ysgyfaint, y gwaed ac yn yr ymennydd. Gall hefyd achosi heintiau yn y llwybr wrinol ac mewn clwyfau.

Mesurwyd pa mor effeithiol oedd y sychwyr clinigol wrth gael gwared ar sborau heintiau difrifol drwy ddefnyddio protocol yn seiliedig ar y dull safonol Ewropeaidd ar gyfer diheintyddion cemegol.

Canfu'r tîm ymchwil fod y sychwyr yn anghyson iawn yn eu gallu i gael gwared ar sborau'r bacteria oddi ar arwynebau yn yr ysbyty ar ôl sychu am 10 eiliad. Efallai mai'r hyn a oedd yn achosi mwy o bryder oedd bod yr holl sychwyr a brofwyd dro ar ôl tro yn lledaenu llawer o facteria dros dri arwyneb yn olynol.

"Mae'r cynnydd yn yr heintiadau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd wedi rhoi pwyslais enfawr yn ddiweddar ar arferion glanhau a diheintio," meddai'r Athro Jean-Yves Maillard o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol. "Mae angen i ysbytai fod yn siŵr bod y cynhyrchion glanhau maent yn eu defnyddio yn ddiogel.

"Dyma'r adroddiad cyntaf ar effeithiolrwydd y sychwyr glanedol mwyaf cyffredin a gaiff eu defnyddio mewn ysbytai, ac mae wedi dod i'r amlwg i ni nad ydynt yn ddigon da yn y rhan fwyaf o achosion. Mae'r canlyniadau'n dangos amrywiadau enfawr.

"Er bod y sychwyr glanedol yn gallu cael gwared ar heintiau difrifol yn llwyddiannus, mae ein profion yn dangos eu bod yn eu trosglwyddo'n syth pan gaiff y sychwr ei ddefnyddio ar arwyneb gwahanol.

"Mae sychwyr gwlyb yn gynhyrchion da ar y cyfan, ond gellir gwella effeithiolrwydd y cynhyrchion hyn. Rhaid addysgu staff ysbytai i wneud yn siŵr bod y cynhyrchion hyn yn cael eu defnyddio'n gywir ac na fyddant yn achosi risg diangen i staff a chleifion – ni ddylid defnyddio'r un sychwr ar fwy nag un arwyneb."

Yn 2012, roedd 1,646 o farwolaethau'n gysylltiedig â haint Clostridium difficile yng Nghymru a Lloegr; roedd 292 o farwolaethau'n gysylltiedig ag MRSA; ac mewn astudiaeth o unedau gofal dwys yn Ewrop, canfuwyd bod Acinetobacter baumannii yn gyfrifol am 19% o achosion niwmonia sy'n gysylltiedig â pheiriant anadlu.

Ariannwyd y gwaith ymchwil gan Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd.