Ewch i’r prif gynnwys

Prif Weithredwr Innovate UK yn archwilio cyfleoedd newydd i Gymru

15 Chwefror 2018

Dr Ruth McKernan CBE

Ceir darlith gyhoeddus yng Nghaerdydd gan Brif Weithredwr Innovate UK (IUK). Bydd yn amlinellu arloesedd yng Nghymru yn y dyfodol yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer busnes a’r byd academaidd.

Bydd Dr Ruth McKernan CBE yn trafod cefnogaeth IUK ar gyfer arloesedd ledled y DU, gan ganolbwyntio'n arbennig ar weithgareddau yng Nghymru.

Prifysgol Caerdydd, yr Ymgyrch dros Wyddoniaeth a Pheirianneg (CaSE) a Chymdeithas Ddysgedig Cymru (LSW) sy’n cynnal y digwyddiad rhad ac am ddim hwn.

Yn ystod y sgwrs, bydd Dr McKernan yn amlinellu’r cyfleoedd newydd sydd ar gael o fewn Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol a thrwy ffurfio Ymchwil ac Arloesedd y DU.

"Yn Innovate UK, rwy'n cael gweld y bobl a'r prosiectau gwych yr ydym yn eu cefnogi ledled y DU," meddai Dr McKernan. "Wrth ymweld â Chaerdydd, mae'n amlwg i mi, bod Cymru'n wlad arloesol.
Adeiladodd Cymru y chwyldro diwydiannol gyda glo a haearn, ac wrth inni fynd i mewn i'r pedwerydd chwyldro diwydiannol, gall ddatgelu ei photensial eto - boed hynny mewn awyrennau, ynni adnewyddadwy, gwyddorau bywyd ac mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd. Gan weithio gyda'r sectorau gwych hyn, mae Innovate UK yn falch o gefnogi arloesedd yng Nghymru. "

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol CaSE, Dr Sarah Main: "Mae gwyddoniaeth a pheirianneg yn hanfodol i ddyfodol Cymru. Mae'n gwneud synnwyr i adeiladu ar allu rhagorol y genedl ym meysydd gwyddoniaeth a pheirianneg i ddarparu economi gref, swyddi gwerth uchel, a bywydau iachach, hapusach.CaSE yw’r grŵp eiriolaeth annibynnol blaenllaw ar gyfer y sector gwyddoniaeth a pheirianneg ledled y DU, ac rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Ddysgedig Cymru a Phrifysgol Caerdydd i groesawu Dr Ruth McKernan i Gymru ar gyfer y ddarlith graff ac amserol hon."

Ychwanegodd yr Athro Peter Halligan, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru: "Er gwaethaf tan-ariannu hanesyddol, mae Cymru wedi dangos cryfderau mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd, awyrofod, uwch-ddeunyddiau a gweithgynhyrchu, dur, ynni, gwyddoniaeth data bio-wyddorau a gwasanaethau ariannol a phroffesiynol. Rhaid gwneud yn siŵr bod gan Gymru’r gallu i ymchwilio yn y dyfodol i ennill mwy o gyllid cystadleuol i adeiladu sylfaen arloesol gryfach a chynaliadwy. Bydd angen datblygu synergedd â pholisi diwydiannol y DU a gynlluniwyd i yrru strategaethau twf rhanbarthol a thanio systemau arloesedd lleol sy'n caniatáu mwy o dwf economaidd, cynhyrchiant a ffyniant cymdeithasol. "

Cynhelir 'Strategaethau Newydd i gefnogi Arloeswyr Blaenllaw y DU' ddydd Mercher 28 Chwefror rhwng 18:30 a 20:00 yn Adeilad Hadyn Ellis, CF24 4HQ, gyda derbyniad diodydd o 17:30 ymlaen.

Rhaid i bawb sy'n mynd gofrestru yma i gael eu derbyn.

Rhannu’r stori hon