Ewch i’r prif gynnwys

Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru

30 Ionawr 2018

Peter Halligan

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi penodi’r Athro Peter Halligan yn Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru. Mae’r Athro Halligan yn seicolegydd ac yn niwrowyddonydd o fri rhyngwladol.

Yn ei rôl newydd, bydd yr Athro Halligan yn rhoi cyngor gwyddonol annibynnol i Brif Weinidog Cymru a bydd yn arwain y gwaith o ddatblygu polisïau Llywodraeth Cymru ym maes gwyddoniaeth. Bydd hefyd yn hyrwyddo gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth fel pynciau i’w hastudio er mwyn helpu i adeiladu sylfaen wyddonol gref yng Nghymru.

Mae’r Athro Halligan, Athro Anrhydeddus o Ysgol Seicoleg y Brifysgol, wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol am ei waith ymchwil. Mae hefyd wedi chwarae rhan bwysig mewn nifer o ddatblygiadau arloesol gan gynnwys sefydlu Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), Canolfan Ymchwil a Delweddu Tomograffeg Gollwng Positronau Diagnostig Cymru (PETIC), Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol Cymru (WICN), Cyfres Darlithoedd Nodedig Hadyn Elli a Sefydliadau Ymchwil Prifysgol Caerdydd.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Mae’r Athro Peter Halligan yn wyddonydd ardderchog. Mae hefyd yn seicolegydd ac yn niwrowyddonydd byd enwog ac mae ei waith ymchwil yn cael ei gydnabod a’i barchu’n rhyngwladol. Mae ei benodiad yn hwb enfawr i'r sector gwyddoniaeth ac ymchwil sydd ar dwf yng Nghymru."

Meddai’r Athro Halligan: "Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ymgymryd â’r rôl bwysig hon a gweithio gyda'r gymuned wyddonol i wneud yn siŵr bod tystiolaeth ymchwil yn cael ei hystyried pan mae’r Llywodraeth yn llunio polisïau. Rydw i hefyd yn gobeithio adeiladu ar gynnydd fy rhagflaenwyr wrth ddatblygu adnoddau ymchwil ac arloesedd Cymru, i geisio codi proffil Cymru a thyfu ei gallu economaidd."

Rhannu’r stori hon