Ewch i’r prif gynnwys

Y ddarlledwraig Beti George yn ymuno â’r fforwm ddementia

22 Ionawr 2018

Beti George

Mae Beti George, darlledwraig i’r BBC, yn ymuno â Phrifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i edrych ar ffyrdd o fynd i’r afael â dementia – problem gynyddol sy’n wynebu cenedl sy’n heneiddio.

Fe fydd Ms George yn eistedd gyda phanel arbenigol o ymchwilwyr a chlinigwyr i archwilio ‘Dementia - Arloesoedd mewn ymchwil, arferion a gofal’ mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd yn hwyrach yn y mis.

Fe gollodd y ddarlledwraig adnabyddus ei phartner a’i chyd-ddarlledwr David Parry-Jones i glefyd Alzheimer y llynedd. Fe ofalodd Ms George am ei phartner yn eu cartref am flynyddoedd lawer, a gwelodd effeithiau’r clefyd drosti hi ei hun. Fe gafodd profiad y ddau ei ddogfennu gan BBC Cymru ac S4C.

Dywedodd Ms George: “Roedd yr ymateb i “David and Beti: Lost for Words”, a ddarlledwyd ledled y DU ar y BBC, yn ysgubol. Fe wnaeth gyffwrdd â phobl. Roedd cannoedd yn cytuno bod angen chwyldro ym maes Gofal Dementia.”

Mae gan y Brifysgol arbenigedd o safon fyd-eang mewn dementia ac mae’n un o’r chwe chanolfan sy’n rhan o Sefydliad Ymchwil Dementia £250m Llywodraeth y DU.

Mae’r Athro Julie Williams, cyn-Brif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru, yn gweithio yn Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol Ysgol Meddygaeth y Brifysgol. Mae ei hymchwil nodedig wedi darganfod genynnau sy’n dueddol o ddioddef clefyd Alzheimer.

“Mae dementia yn broblem gynyddol ym maes iechyd cyhoeddus yng Nghymru,” meddai’r Athro Williams. “Yn ôl GIG Cymru, mae’n effeithio ar tua 42,000 o bobl ac un o bob pump dros 80 oed. Mae pawb yn gwybod bod ein poblogaeth yn heneiddio gan olygu mai cynyddu fydd yr her. Rhaid i ni fod mor arloesol â phosibl wrth fynd i’r afael â’r broblem. Golyga hyn fod rhaid gwneud y mwyaf o’r wybodaeth gwahanol sydd gennym fel ymchwilwyr, cleifion a chlinigwyr, a’u cyfuno er mwyn dysgu oddi wrth ein gilydd.

Mae Dr Annie Procter yn Ymgynghorydd Geneteg a Chyfarwyddwr Bwrdd Clinigol Gwasanaeth Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Dywedodd Dr Procter: “Mae pobl yn byw yn hirach ac oedran yw’r ffactor risg mwyaf ar gyfer datblygu dementia. Wrth weithio gyda'n gilydd, gallwn wella ein cyd-ddealltwriaeth o sut y gellir cynnig y gefnogaeth orau i’r rhai sy’n cael eu heffeithio a gallwn archwilio i achosion dementia ar y cyd er mwyn gwneud diagnosis, trin ac addasu ei effeithiau yn fwy llwyddiannus.”

Trefnir y digwyddiad gan Rwydwaith Arloesedd y Brifysgol, sydd wedi hyrwyddo rhyngweithio rhwng byd byd busnes a’r Brifysgol ers dros ddau ddegawd. Dathlir 20fed pen blwydd Gwobrau Arloesedd ac Effaith yr haf hwn.

Rhannu’r stori hon