Ewch i’r prif gynnwys

Pasbort i'r Ddinas: plant ysgol yn dathlu etifeddiaeth Paul Robeson yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu

Mae’r Ysgol Cerddoriaeth wedi croesawu disgyblion o Ysgol Gynradd Willowbrook, Caerdydd, i dalu gwrogaeth i waith yr ymgyrchydd hawliau sifil, y canwr, a’r actor Paul Robeson fel rhan o Fis Hanes Pobl Ddu.

Daeth 54 o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 i’r digwyddiad yn yr ysgol, a gynlluniwyd i gyfathrebu a bwrw goleuni ar faterion o hil a chenedligrwydd.

Dechreuodd y diwrnod gydag ail-greu pwll-glo o Dde Cymru, gyda seinwedd o ddŵr yn diferu, creigiau'n disgyn a bwyeill yn llifanu, a sŵn Robeson yn canu. Yna gwnaeth y plant fwynhau dwy sesiwn grŵp, lle gawsant y cyfle i chwarae offerynnau taro, ac i ddysgu cân.

Daeth y diwrnod i ben gyda’r darllediad radio cyntaf rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru, pan siaradodd Robeson â’r glowyr oedd wedi ymgasglu ym Mhorthcawl.

Arweiniwyd y sesiynau gan fyfyrwyr israddedig Owen Parsons ac Emily Burton, sef llysgenhadon cyntaf Paul Robeson yr ysgol.

Mis Hanes Pobl Ddu: Dathlu Paul Robeson

Croesawodd yr Ysgol Cerddoriaeth ddisgyblion o Ysgol Gynradd Willowbrook i gymryd rhan mewn gweithdy ymdrwythol, i dalu teyrnged i waith yr ymgyrchydd dros hawliau sifil, canwr ac actor, Paul Robeson yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu.

Dywedodd Dr Cameron Gardner, Uwch Ddarlithydd yr Ysgol Cerddoriaeth: “Fel Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yr ysgol, roeddwn i’n teimlo’n hynod falch o’n dau lysgennad Robeson, Emily, ac Owen, a’u cynhaliad cyntaf o allgymorth o fewn yr ysgol.

“Trwy eu cyfres o weithdai wedi’u cynllunio’n ofalus a’u cyflwyno’n dda, roedden nhw’n gallu dod â phlant ysgol gynradd at ei gilydd i ddathlu Paul Robeson a’r hanes o sut y daeth hawliau sifil i’r golwg yn Ne Cymru. Cymerodd pawb ran mewn creu cerddoriaeth a dysgu sut mae hyn yn darparu cyfrwng ar gyfer dod â chymunedau at ei gilydd,amlygu a gwneud cynnydd ar amrywiaeth o faterion cymdeithasol, gan gynnwys hil a thlodi.”

A minnau’n Gymrawd Anrhydeddus ac yn un o raddedigion Prifysgol Caerdydd, roedd hyn yn arbennig o agos at fy nghalon. Peth mor gyffrous oedd gweld ymateb y plant a phobl ifanc wrth iddyn nhw wylio a gwrando ar stori Robeson – rywsut, roedd y bobl ifanc nad oedden nhw erioed wedi clywed am Paul Robeson wedi’u cyffwrdd gan ei ysbryd. Credwn fod etifeddiaeth Paul Robeson yn parhau i ysbrydoli pobl i chwarae rhan yn y frwydr barhaus - ni waeth pa mor fach fydd hi - dros gydraddoldeb, hawliau dynol a dealltwriaeth ryngwladol.
Beverley Humphreys, Cadeirydd a chyd-sylfaenydd, Paul Robeson Trust

Gan dynnu ar berthynas gref yr ysgol ag Ymddiriedolaeth Paul Robeson Cymru, mae'r ysgoloriaeth yn adeiladu o esiampl Robeson i hyrwyddo potensial newid bywyd astudio a gweithio ym myd cerddoriaeth. Ei nod yw datblygu bywyd, gwaith a chof gwaddol Robeson, yn unol â gweledigaeth yr Ymddiriedolaeth, drwy ariannu myfyrwyr i roi cyflwyniadau, gweithdai, perfformiadau a chreu cyfansoddiadau.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymgymryd â'r rôl am gyfnod o un flwyddyn ac un semester, a ariennir gan Ymddiriedolaeth Paul Robeson Cymru.

Mae gallu hwyluso cyfleoedd a phrofiadau fel hyn yn hynod o bwysig i blant a phobl ifanc ein dinas. Rydym yn rhoi mynediad iddynt at adnoddau ac arbenigedd efallai na fyddent yn cael y cyfle i brofi fel arall. Mae dod â nhw i le cyhoeddus fel neuadd gyngerdd yn gwneud y profiad yn ystyrlon ac yn fwy dylanwadol. Mae cael y cyfle i fod yn y fath leoedd sydd o fewn eu dinas a thrwy fynediad at arbenigwyr yn eu maes, yn galluogi’r plant hyn i weld beth sydd ar gael iddynt yn eu dinas nhw ac yn agor posibiliadau pellach y gallent fynd ymlaen i anelu atynt yn y dyfodol.
Luke Mussa, Swyddog Llwyddiant Pasbort i’r Ddinas