BAJS 2025, Cynhadledd 50 Mlynedd
Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o gynnal cynhadledd BAJS 2025, yn nodi 50 mlynedd ers cynhadledd gyntaf BAJS yng Nghaergrawnt yn 1975.
Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda gwybodaeth berthnasol.
Dyddiad ac amser
Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal rhwng 3 a 5 Medi 2025. Bydd y ddesg gofrestru yn agor am 11am ddydd Mercher 3 Medi, gyda'r paneli cyntaf yn cael eu cynnal ar ôl cinio, am 1pm.
Bydd y paneli terfynol yn cael eu cynnal tan 3:30pm ddydd Gwener 5 Medi.
Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol BAJS yn cael ei gynnal yn syth ar ôl y paneli terfynol.
Lleoliad
Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd Cyfeiriwch at yr wybodaeth i ymwelwyr i gael cyngor ar hygyrchedd a pharcio.
Mae man tawel / ystafell weddi yn y lleoliad.
Cofrestru
Rydyn ni’n cynnig ffioedd cofrestru ‘bargen gynnar’ tan 31 Mai 2025
- Cyradd Iawn: £95
- Myfyrwr (gan gynnwys ymchwilwyr doethurol) a phobl di-gyflog: £65
O 1 Mehefin bydd y cyfraddau canlynol yn berthnasol:
- Cyfradd Iawn: £115
- Myfrwyr a phobl di-gyflog: £75
Rhaid i’r rhai sy’n cyflwyno yn y gynhadledd fod yn aelodau cyfredol o BAJS. Nid oes angen i’r rhai nad ydyn nhw’n cyflwyno fod yn aelodau o BAJS.
Trefn y sesiynau
Bydd y sesiynau panel yn para 90 munud.
Uchafswm yr amser a neilltuir ar gyfer papurau unigol, gan gynnwys sesiwn holi ac ateb, yw 30 munud. Ar gyfer papurau unigol, gofynnwn i gyflwynwyr siarad am ddim mwy nag 20 munud, i ganiatáu o leiaf 10 munud i gynnal sesiwn holi ac ateb.
Rhaglen y gynhadledd
Bydd rhaglen dros dro y gynhadledd ar gael ar ddechrau mis Mehefin.
Llety
Mae gan Gaerdydd ystod eang o opsiynau o ran llety sy'n addas i bob cyllideb. Rydyn ni’n argymell trefnu llety cyn gynted ag y bo modd. Gellir dod o hyd i opsiynau ar wefan Croeso Caerdydd.
Mae Radisson Blu yn cynnig pris arbennig ar 3 a 4 Medi (£91 ar gyfer ystafell sengl, £101 ar gyfer ystafell ddwbl/dau wely, brecwast wedi'i gynnwys) i’r rhai sy’n dod i’r gynhadledd. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y cynnig hwn, cysylltwch â bajs2025@caerdydd.ac.uk. Sylwch mai dim ond i'r rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer y gynhadledd y mae'r cynnig hwn ar gael.
Cymorth ariannol
Nid yw trefnwyr y gynhadledd yn gallu cynnig cymorth ariannol i'r rhai sy'n dod i'r gynhadledd.
Hygyrchedd
Os oes gennych chi ofynion penodol o ran hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Tywydd
Mae'r tymheredd yng Nghaerdydd ym mis Medi yn tueddu i amrywio rhwng 10 a 19 gradd Celsius. Fodd bynnag, does dim modd rhagweld beth fydd y tywydd, ac felly rydyn ni’n argymell edrych ar ragolygon y tywydd cyn teithio.
Cydnabyddiaeth
Hoffen ni ddiolch i Sefydliad Japan am gefnogi’r gynhadledd hon yn hael.
Cysylltu â ni
Gallwch chi gysylltu â threfnwyr y gynhadledd drwy e-bostio bajs2025@caerdydd.ac.uk.