Ewch i’r prif gynnwys

Ein staff

Mae ein trefniadau staff yn cyd-fynd â rheoliadau'r AGGCC.

Mae gennym:

  • Rheolwr y Feithrinfa
  • Dirprwy Reolwr sy'n gyfrifol am un o'r ystafelloedd
  • dau Arweinydd Adran ychwanegol
  • Nyrsys Meithrin amser llawn a Nyrsys Meithrin a Chynorthwywyr rhan-amser
  • un cogydd

Dyma ein cymarebau staff i blant:

  • Babanod o dan 2 oed: un oedolyn i bob tri o blant
  • Plant bach 2-3 oed: un oedolyn i bob pedwar o blant
  • Plant bach 3-5 oed: un oedolyn i bob wyth o blant

Mae gan y rhan fwyaf o staff gymwysterau NNEB,  BTEC, Diploma CACHE neu NVQ lefel 3 mewn Nyrsio Meithrin. Mae gan weddill y staff dystysgrifau gofal plant amrywiol gan gynnwys NVQ lefel 2 ac WPPA.  Mae gan bob aelod staff amser llawn a'r rhan fwyaf o'n staff rhan-amser, gymhwyster cymorth cyntaf. Ein nod yw rhoi hyfforddiant cymorth cyntaf i'r holl staff.

Rydym yn annog ein staff i ddysgu Cymraeg ac mae nifer o'r staff yn ddysgwyr brwd. Rydym yn cyflwyno Cymraeg sylfaenol i'r plant i gyd yn cynnwys y rhai hynny sy'n ddi-Gymraeg.

Mae'r feithrinfa wedi ymrwymo i hyfforddi staff. Cynhelir dau ddiwrnod hyfforddiant bob blwyddyn yn ogystal â hyfforddiant rheolaidd mewn gwasanaeth. Lle bo'n briodol, gwahoddir staff y Feithrinfa i seminarau a drefnir gan y Gwasanaethau Plant ac adrodd yn ôl i gydweithwyr.

Mae gennym statws Buddsoddwyr mewn Pobl.