Ewch i’r prif gynnwys

Pam gweithio gyda ni?

Os ydych chi eisiau meithrin talent eich gweithlu, gwneud defnydd o dechnoleg newydd neu gael gafael ar ein hymchwilwyr medrus, gallwn eich helpu i lwyddo ym myd busnes.

Mae gennym berthynas hir-dymor â chwmnïau lleol bach, cwmnïau byd-eang, sefydliadau llywodraethol ac elusennau. Maent oll wedi elwa o'n sgiliau, technoleg a gallu ymchwil.

Talent byd-eang

Y tu mewn i'r siambr profi melltio - bollt 100,000 amp i banel ffibr carbon wedi ei atgyfnerthu gan blastig.
Y tu mewn i'r siambr profi melltio - bollt 100,000 amp i banel ffibr carbon wedi ei atgyfnerthu gan blastig.

Mae ein hymchwilwyr wedi gweithio gyda busnesau a'r trydydd sector i gael effaith fyd-eang yn cynnwys ail-lunio'r ffordd mae'r BBC yn adrodd newyddiongwella gwaredu gwastraff niwclear a throbwyntiau mewn geneteg.

Byddwn yn parhau i gysylltu diwydiant â'n hacademyddion, gan fynd i'r afael ag anghenion busnesau a chyflymu'r broses o droi arloesedd yn dechnolegau a chynnyrch newydd, yn ogystal â gwasanaethau, deilliannau a busnesau newydd yng Nghymru a ledled y byd.

Rydym yn un o'r 20 prifysgol orau yn y DU, ac fe gadarnhaodd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 fod 90% o'n hymchwil gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.

Mae ein myfyrwyr yn cael eu hannog i greu swyddi, nid dim ond chwilio am swyddi. Trwy ennill profiad yn y gwaith, rhaglenni gradd sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, ac addysg rheoli a gweithredu, byddwn yn cyflwyno llif cyson o raddedigion medrus ar gyfer busnesau yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein graddedigion dawnus a brwdfrydig wedi sefydlu dros 135 o gwmnïau newydd yn y pedair blynedd diwethaf.

Prif gyfrannwr

Mae'r Brifysgol maint tref fechan gyda throsiant o tua £400m y flwyddyn. Mae cannoedd o'n technolegau a'n cyfleusterau ymchwil niferus yn barod i'ch helpu chi gyflawni eich nodau. Mae ein Campws Arloesedd yn trawsnewid ein diwylliant gweithio, gan greu canolbwynt ar gyfer gweithgarwch ymchwil a datblygu yng Nghymru. Mae ein pwyslais ar werth cymdeithasol arloesedd yn amlwg wrth i ni greu parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd. Rydym hefyd yn llogi llety a chyfleusterau cynadledda.

Rydym wedi ymrwymo i hybu twf economaidd a chynnydd cymdeithasol yng Nghymru, gan atgyfnerthu ein cyfrifoldeb sifig. Rydym yn arbenigo mewn troi ein gwaith ymchwil blaenllaw yn llwyddiant masnachol, ac rydym yn cynhyrchu 96.8% o'r holl elw eiddo deallusol a gynhyrchir mewn prifysgolion yng Nghymru.

Rydym yn aelod o GW4, sy'n dod â phedair prifysgol ymchwil blaenllaw De Orllewin Lloegr a Chymru at ei gilydd gyda throsiant cyfunol o fwy na £1biliwn. O ganlyniad, mae gennym fynediad i fwy o gyfleusterau ac arbenigedd ategol.

Rydym yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi'r DU, ac amcangyfrifir mai bron £3.7 biliwn oedd cyfanswm ein heffaith economaidd ar y DU yn 2020-21 — pan oedd y pandemig yn ei anterth.

Tîm ymroddedig ar gyfer ymgysylltu â busnes

Gwyddom fod anghenion busnes pawb yn wahanol. A bydd ein tîm ymgysylltu â busnes yn teilwra'r gwasanaethau i ddiwallu eich anghenion. Gallwn ddod ag atebion i'ch heriau a'ch helpu chi i gyflawni eich busnes a'ch nodau strategol.

O brosiectau tymor byr fel darganfod atebion uniongyrchol i broblemau gweithgynhyrchu neu weithredol, i gymorth gyda phrosiectau tymor hir ar wella proses, dyma'r brifysgol gall gefnogi eich busnes.

Os hoffech chi weithio gyda ni, cysylltwch â ni i ddarganfod sut gallwn ni eich helpu.