Ewch i’r prif gynnwys

Cymrodyr er Anrhydedd a VIPS

Byddwch yn rhannu eich diwrnod gyda llawer o westeion nodedig, gan gynnwys Cymrodyr er Anrhydedd eleni, aelodau o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, a Swyddogion Anrhydeddus.

Gallwch ddisgwyl gweld amrywiaeth eang o westeion yn y Digwyddiadau Graddio, neb llai na'ch cyd-raddedigion a'u cefnogwyr, Pennaeth Ysgolion, academyddion, staff yr ysgolion a’r gwasanaethau proffesiynol a nifer o bobl eraill gan gynnwys:

Cymrodyr er Anrhydedd 2023

Gweler y rhestr lawn o Gymrodyr er Anrhydedd 2023.

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol (UEB)

Y Bwrdd yw uwch dîm rheoli'r Brifysgol, a bydd nifer o'r aelodau hyn o’r staff yn ymuno â chi ar gyfer y Graddio. Ymhlith yr aelodau presennol mae: Y Llywydd ac Is-Ganghellor Yr Athro Colin Riordan, Y Dirprwy Is-Ganghellor Yr Athro Damian Walford Davies, Y Rhag Is-Gangellorion a’r Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr TJ Rawlinson.

Swyddogion Anrhydeddus

Bydd ein Swyddogion Anrhydeddus hefyd yn bresennol, gan gynnwys y Canghellor, y Farwnes Jenny Randerson, Cadeirydd y Cyngor.