Ewch i’r prif gynnwys

Croeso i Ŵyl 2022

Dr Dawn Knight

Cyflwyniad i'r ŵyl gan Dawn Knight.

Croeso cynnes i bawb a fydd yn ymuno â ni i ddathlu Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd 2023. Ein thema eleni yw Lles Gydol Oes.

Ar y cyd â Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe byddwn ni’n cynnal digwyddiadau ledled Cymru fydd yn dathlu sut mae'r gwyddorau cymdeithasol yn ysbrydoli ac yn cyfoethogi ein bywydau bob dydd ac yn cyfrannu at les.

Nod Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol yw creu cysylltiadau parhaus rhwng cymunedau ac unigolion a'r ymchwil a wnawn. I wneud hyn, byddwn ni’n cynnal 17 o ddigwyddiadau sy'n dangos y gorau o’r ymchwil ddiweddaraf yn y gwyddorau cymdeithasol sy'n ymwneud â lles gan gydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn cynnwys ystod o weithdai, digwyddiadau wyneb yn wyneb a rhyngweithiol gan gynnwys sesiynau ymgysylltu ag ysgolion ar gyfraith iechyd a moeseg, byw gyda sychder ac ymchwilio i system fwyd Cymru. Bydd trafodaeth gyhoeddus hefyd gan banel ar Les Gydol Oes yng Nghymru a fydd yn dod ag arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd, Abertawe a Bangor at ei gilydd i gynnal trafodaethau fydd yn ysgogi'r meddwl ac i rannu arbenigedd y gellir ei roi ar waith fydd yn dangos y berthynas symbiotig rhwng y gwyddorau cymdeithasol a lles gydol oes.

Cynhelir yr Ŵyl drwy gydol mis Hydref a Thachwedd er mwyn i gynifer o bobl â phosibl gael y cyfle i ymuno â ni. Mae'r ŵyl yn gyfle cyffrous i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o'r ymchwil ragorol yn y gwyddorau cymdeithasol sy'n mynd i'r afael â heriau lles ac iechyd. Mae pob un o’n digwyddiadau yn gofyn i ymchwilwyr a chymunedau ehangach ystyried beth yw gwneud gwahaniaeth: sef meddwl a bod yn eiriolwyr dros newid – yma yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol – a phennu agendâu. Yn y byd cyfnewidiol sydd ohoni, dyw ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol erioed wedi bod mor bwysig er gwellhad ein cymunedau lleol a byd-eang.

Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r ŵyl!

Dawn Knight