Cefndir
Cyflwynir yr ŵyl eleni ochr yn ochr â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ar y thema "lles gydol oes".
Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal mewn prifysgolion ledled y DU yn rhan oŴyl Gwyddorau Cymdeithasolgenedlaethol ESRC ac mae’n rhoi cyfle cyffrous i ni ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o’r ymchwil gwyddorau cymdeithasol ragorol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu a rhannu ein hymchwil a gwybodaeth o’r radd flaenaf sy’n llywio datblygiad polisïau, gwasanaethau ac arloesedd, ac sy’n mynd i’r afael â heriau cymdeithasol mawr yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Ariennir yr Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol gan yr ESRC, sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).