Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigedd pynciau a gwybodaeth

Mae gan y tîm gryn arbenigedd pynciol o ganlyniad i'r traddodiad hirsefydlog o wybodaeth Ewropeaidd yng Ngwasanaeth Llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd.

Un o elfennau craidd cenhadaeth y Ganolfan yw sicrhau bod yr arbenigedd hwnnw ar gael i'n defnyddwyr yn y Brifysgol a thu hwnt.

Rydyn ni’n cefnogi academïau doethurol, myfyrwyr ôl-raddedig a chanolfannau ymchwil i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ddod â'u gweithgareddau ymchwil i ben yn llwyddiannus. Mae'r tîm hefyd yn datblygu nifer o seminarau a gweithdai i fyfyrwyr, ac mae modd cynnwys y rhain ym modiwlau perthnasol y cyrsiau gwahanol ledled y Brifysgol. Ymhlith y sesiynau hyn mae’r canlynol:

  • Gwybodaeth am yr UE – Cyflwyniad i adnoddau ar-lein
  • cyflwyniad i sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd
  • y drefn ddeddfwriaethol yn yr Undeb Ewropeaidd
  • y sefyllfa wleidyddol yn Ewrop
  • cyflwyniad i hanes integreiddio a gwleidyddiaeth yr UE
  • twyllwybodaeth yng nghyd-destun materion Ewropeaidd

Gallwn ni lunio gweithdai a seminarau pwrpasol eraill ar gais. Mae hyn yn amodol ar argaeledd. Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â'r tîm yng Nghanolfan Gwybodaeth Ewrop.

Mae'r Ganolfan yn cynnal adolygiadau o dystiolaeth a llenyddiaethau, yn ogystal â mapio’r gyfundrefn bolisïau ar faterion sy'n ymwneud ag Ewrop, ei gwledydd a phob agwedd ar hyn. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o Wasanaeth Adolygu Tystiolaeth (ERS) ehangach Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol (mae’r amodau a’r telerau’n berthnasol).

Mae aelodau o'r tîm ar gael i ddod i ddigwyddiadau allanol a siarad ynddynt yn arbenigwyr gwybodaeth, ac fel arall i ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol. Mae Canolfan Gwybodaeth Ewrop hefyd yn cynnal cyfres flynyddol o ddigwyddiadau cyhoeddus ar bynciau perthnasol.

Cysylltu â ni

Canolfan Wybodaeth Ewropeaidd