Ewch i’r prif gynnwys

Adnoddau print

Ers ei sefydlu ym 1973, datblygodd Canolfan Dogfennau Ewrop (EDC) gasgliad o ddeunyddiau print sy’n canolbwyntio ar y llu o ddimensiynau sy’n perthyn i Ewrop, ei gwledydd a'i rhanbarthau, a'i sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd y casgliad yn cynnwys detholiad o gyhoeddiadau swyddogol, adroddiadau, cyfnodolion, gwerslyfrau a chyfeirlyfrau.

Yn sgîl ail-lansio'r uned hon, sef Canolfan Gwybodaeth Ewrop, cafwyd y cyfle i adolygu'r casgliad hwn, gan gadw at ganllawiau llyfrgellyddol ehangach ar reoli casgliadau a manteisio ar y byd digidol. Tra y bydd yr adolygiad yn mynd rhagddo, gallwch chi ddod o hyd i lawer o eitemau yn y casgliad print hwn o hyd drwy ddefnyddio gatalog chwilio llyfrgell y Brifysgol. Os bydd angen cymorth arnoch chi i ddod o hyd i adnoddau print y casgliad, neu os bydd angen cymorth arnoch chi i olrhain deunydd heb ei gatalogio, cysylltwch â'r Ganolfan a bydd y tîm yn hapus i gynorthwyo yn hyn o beth.

Dim ond yn y Llyfrgell y cewch ddefnyddio casgliad y Ganolfan ac ni ellir benthyca deunydd. Gellir sganio neu lungopïo cyhoeddiadau yn unol â rheoliadau cyfredol hawlfraint.

Cysylltu â ni

Canolfan Wybodaeth Ewropeaidd