Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Polisi rhoddion llyfrgell

  • Diweddarwyd ddiwethaf:

Sylwer nad yw'r polisi hwn yn effeithio ar y posibiliad o wneud rhodd i’r Casgliadau Arbennig ac Archifau. Os hoffech chi roddi eitemau i’r Casgliadau Arbennig, cysylltwch â specialcollections@caerdydd.ac.uk

Diolch i chi am ystyried gwneud rhodd. Nid bwriad y Llyfrgell yw ceisio am roddion ar ffurf ddeunydd wedi’i argraffu. Yr unig ddeunydd y gallwn ni ei dderbyn yw’r hyn sy'n cefnogi ymchwil ac addysgu cyfredol yn y Brifysgol, sy'n unol â'n blaenoriaethau o ran datblygu’r casgliadau.

Bydd unrhyw rodd a dderbynnir gennym yn dod yn eiddo Prifysgol Caerdydd. Mae Gwasanaeth y Llyfrgell yn cadw'r hawl i sicrhau bod eitemau: ar gael; bod modd cael hyd iddyn nhw; a bod modd eu defnyddio, eu cadw neu’u gwaredu yn ôl eu crebwyll eu hunain.

Yr hyn na allwn ei dderbyn

Yn gyffredinol, ni allwn ni dderbyn yr eitemau a ganlyn:

  • dyblygiadau
  • rhifynnau wedi’u hargraffu o eitemau sydd gennyn ni yn electronig
  • ôl-rediadau o gyfnodolion wedi’u hargraffu
  • gwerslyfrau sydd wedi dyddio
  • deunydd mewn fformatau sydd wedi hen ddarfod neu sydd ddim yn hygyrch bellach
  • eitemau nad ydynt mewn cyflwr ardderchog

Pam fod ein polisi rhoddion mor llym?

Diffyg lle — mae gennyn ni dros filiwn o eitemau wedi’u hargraffu ac o ganlyniad hefyd i’r galw cynyddol am ragor o fannau astudio, gallwn ni dderbyn rhodd a rhoi lle iddo ar y silff yn unig ar yr amod y bydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at ymchwil ac addysgu cyfredol.

Cost — mae yna lawer o gostau cudd ynghlwm wrth brosesu a storio pob rhodd a dderbyniem. Nid yw pob cost yn ariannol, ond gall ymdrin â rhoddion dynnu amser i ffwrdd oddi wrth y staff a chymryd lleoedd storio y gellir eu defnyddio ar gyfer eitemau pwysig eraill.

Beth os na allwn dderbyn eich llyfrau?

Ceir sawl elusen a menter gymdeithasol sy’n croesawu hen lyfrau i’w gwerthu ac ail-ddosbarthu. Felly, anogwn yn gryf ichi ystyried anfon eich llyfrau atyn nhw yn lle er mwyn ceisio gwneud gwahaniaeth.

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Polisi rhoddion llyfrgell
Statws y ddogfen:Cymeradwywyd