Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Cofnodion Senedd 7 Mehefin 2023

Cofnodion Cyfarfod Senedd Prifysgol Caerdydd a gynhaliwyd ddydd Mercher 7 Mehefin 2023 am 2:15pm, yn ystafell 0.52 a 0.53 yn Adeilad Bute a thrwy Zoom.

Presenoldeb

Yr Athro Colin Riordan

P

Yr Athro Dai John

A

Angie Flores Acuna

P

Dr Nicholas Jones (cynrychiolydd)

P

Yr Athro Rudolf Allemann

A

Yr Athro Urfan Khaliq

P

Yr Athro Stuart Allen

P

Yr Athro Alan Kwan

P

Yr Athro Jon Anderson (cynrychiolydd)

P

Yr Athro Eshwar Mahenthiralingam

P

Yr Athro Rachel Ashworth

P

Emmajane Milton

P

Yr Athro Warren Barr

P

Claire Morgan

P

Yr Athro Roger Behrend

A

Yr Athro Damien Murphy

P

Dr Daniel Bickerton (cynrychiolydd)

P

Larissa Nelson

 

Yr Athro James Birchall (cynrychiolydd)

P

Rebecca Newsome

P

Yr Athro Kate Brain

P

Dr James Osborne

P

Yr Athro Gill Bristow

A

Joanne Pagett

 

Yr Athro Marc Buehner

P

Dr Juan Pereiro Viterbo

P

Andreas Buerki

P

Yr Athro Tim Phillips (cynrychiolydd)

P

Yr Athro Christine Bundy

P

Dr Jenny Pike

P

Dr Cindy Carter

P

Abyd Quinn-Aziz

P

Yr Athro David Clarke

P

Dr Caroline Rae

P

Susan Cousins

P

Michael Reade

P

Yr Athro Trevor Dale

P

Kate Richards

P

Dr Juliet Davis

P

Yr Athro Steve Riley

P

Yr Athro Lina Dencik

 

Dominic Roche

P

Rhys Denton

P

Dr Siwan Rosser (cynrychiolydd)

P

Rebecca Deverall

P

Noah Russell

P

Dr David Doddington

P

Sarah Saunders

P

Dr Luzia Dominguez

P

Yr Athro Katherine Shelton

A

Gina Dunn

P

Dr Andy Skyrme

P

Dr Derek Dunne

P

Yr Athro Peter Smowton

P

Helen Evans

P

Dr Zbig Sobiesierski

P

Olivia Evans

A

Helen Spittle

P

Yr Athro Stephen Fairhurst

P

Tracey Stanley

P

Yr Athro Dylan Foster Evans

A

Yr Athro Ceri Sullivan

P

Ashly Alva Garcia

P

Yr Athro Patrick Sutton

A

Graham Getheridge

 

Dr Catherine Teehan

P

Shreshth Goel

P

Grace Thomas

P

Dr Rob Gossedge (cynrychiolydd)

P

Dr Jonathan Thompson

P

Yr Athro Mark Gumbleton

A

Dr Onur Tosun

A

Dr Thomas Hall

P

Yr Athro Damian Walford Davies

P

Yr Athro Ken Hamilton

A

Dr Catherine Walsh

P

Dr Natasha Hammond-Browning

P

Matt Walsh

P

Deborah Hearle (cynrychiolydd)

P

Lisa Watkins

P

Yr Athro Adam Hedgecoe

P

Yr Athro Ian Weeks

P

Yr Athro James Hegarty

P

Yr Athro Keith Whitfield

P

Yr Athro Mary Heimann

P

Yr Athro David Whitaker

A

Dr Monika Hennemann

A

Yr Athro Roger Whitaker

P

Dr Jonathan Hewitt

A

Yr Athro John Wild

P

Yr Athro Joanne Hunt

 

Yr Athro Martin Willis

P

Yr Athro Aseem Inam

P

Yr Athro Jianzhong Wu

P

Yr Athro Nicola Innes

P

  

Yn Bresennol:

Katy Dale (cofnodion)

Ruth Davies

Dr Martin Chorley

Hannah Darnley

Laura Davies

Dr Rob Davies

Rhodri Evans

Yr Athro Claire Gorrara

Rashi Jain

Tom Hay

Luke Sloan

Yr Athro Wenguo Jiang

Yr Athro Andrew Lawrence

Yr Athro Stephen Lynch

Sian Marshall

Sue Midha

Yr Athro Omer Rana

TJ Rawlinson

Dr Andrew Roberts

Claire Sanders

Dr Henrietta Standley

Yr Athro Amanda Tonks

Yr Athro Jason Tucker

Yr Athro Karin Wahl-Jorgensen

Matt Williamson

Dr Liz Wren-Owens

Simon Wright (Ysgrifennydd)

Darren Xiberras

1015            Croeso a chyflwyniadau

Nodwyd

1015.1         croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a manylodd ar y broses ar gyfer y cyfarfod hybrid.

1016            Ymddiheuriadau am absenoldeb

Nodwyd

1016.1         byddai'r ymddiheuriadau a dderbyniwyd yn cael eu cofnodi yn y cofnodion.

1017            Datgan buddiannau

Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau o'r gofyniad iddynt ddatgelu unrhyw fuddiannau ariannol uniongyrchol neu anuniongyrchol a allai ddylanwadu ar eu barn. Dylid datgelu buddiannau cyn i eitem gael ei drafod, a dylai’r unigolyn dan sylw naill ai adael y cyfarfod neu beidio â chymryd rhan yn y drafodaeth, fel y bo’n briodol ar gyfer y rhan honno o’r agenda.

Nodwyd

1017.1         ni wnaeth unrhyw aelod ddatgelu unrhyw fuddiannau.

1018            Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2023 (papur 22/674) fel cofnod gwir a chywir a chymeradwywyd eu llofnodi gan y Cadeirydd.

1019            Materion yn Codi

Nodwyd

1019.1         yn unol â chais y Senedd, wrth drafod yr Adroddiad Gwella Blynyddol yn ei gyfarfod ar 27 Ebrill 2023, roedd y Cyngor wedi cael gwybod am y mater a godwyd mewn perthynas â diffyg ymgysylltu canfyddedig â Phwyllgorau Addysg Ysgolion a Phrofiad Myfyrwyr a Byrddau Astudiaethau ar gyfrannu at strategaeth a’i datblygu [Cofnod 1011.10].

1020            Eitemau gan y Cadeirydd

Wedi derbyn ac ystyried papurau 22/688C 'Camau Gweithredu’r Cadeirydd' a 22/695 'Gwybodaeth i Fyrddau Arholi'. Siaradodd yr Is-ganghellor am yr eitem hon.

Nodwyd

1020.1         bod y Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr (fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd) wedi argymell cymeradwyo’r Wybodaeth i Fyrddau Arholi (a oedd yn cynnwys amrywio’r rheoliadau) gan ei bod yn cael ei hystyried yn frys a’i bod yn rhoi cyngor i fyrddau arholi o gamau i'w cymryd mewn ymateb i'r boicot marcio ac asesu. Roedd 3 rheswm allweddol am hyn:

.1       adborth gan uwch staff ac arholwyr allanol ar yr angen i ddarparu arweiniad clir ar y trefniadau ar gyfer Byrddau Arholi yn yr haf; nodwyd bod Byrddau Arholi eisoes ar y gweill;

.2       roedd myfyrwyr yn ceisio cyngor ar y camau y byddai'r Brifysgol yn eu cymryd, o ran yr ymateb i'r boicot marcio ac asesu, a lle na chafwyd y marcio o fewn y terfynau amser marcio;

.3       y swm sylweddol o waith yr oedd angen ei wneud er mwyn sicrhau bod Byrddau Arholi yn gweithio ac yn gweithredu’n esmwyth, gan gynnwys datblygu codio newydd yn y system cofnodion myfyrwyr;

1020.2         bod yr ymateb, i amrywio rheoliadau, yn debyg i'r ymateb a gafwyd yn y pandemig; roedd y Senedd wedi bod yn fodlon bod safonau academaidd yn cael eu cynnal o ran yr amrywiadau rheoleiddio a gyflwynwyd bryd hynny; roedd yr amrywiadau a wnaed yn yr achos hwn yn llymach ac yn llai hyblyg na'r rhai a wnaed yn ystod y pandemig;

1020.3         bod blaenoriaeth y Brifysgol yn parhau i fod i gynnal safonau academaidd ac enw da'r Brifysgol a gweithredu er budd myfyrwyr; teimlwyd bod y mesurau lliniaru yn gydbwysedd priodol; cadarnhawyd mai dim ond trwy gyflawni canlyniadau dysgu modiwlau y byddai credyd yn cael ei ddyfarnu a nodwyd nad oedd bob amser yn angenrheidiol o dan y rheoliadau presennol i bob asesiad gael ei gwblhau i ddangos cyflawniad canlyniadau dysgu modiwlau; byddai graddau'n parhau i gael eu dyfarnu lle'r oedd myfyrwyr yn cyflawni canlyniadau dysgu'r rhaglen a, lle bo'n briodol, yn bodloni gofynion PSRB, ac yn cael eu dosbarthu os oedd myfyrwyr yn cyflawni 340 credyd a oedd yn arfer presennol ac nad yw'n cael ei ddiwygio; nid oedd yr algorithm gradd a'r rheolau cydoddef yn cael eu newid;

1020.4         pe bai asesiadau'n cael eu marcio'n ddiweddarach, y marc modiwl uchaf a’i ddyfarnwyd a’i ailgyfrifwyd yn flaenorol fyddai’n cael ei gymryd, gan olygu na fyddai myfyrwyr dan anfantais; roedd risg isel ar gyfer rhywfaint o chwyddiant gradd ond nid oedd disgwyl i hyn fod y tu allan i ystod yr amrywiadau blynyddol mewn canlyniadau gradd;

1020.5         bod y Brifysgol yn dal i fod yn destun cwyn gan yr QAA; roedd risg isel iawn o bryder CMA gan fod y Brifysgol yn ceisio osgoi anfantais i fyfyrwyr o'r boicot marcio ac asesu ac roedd y Brifysgol yn cysylltu â'r OIA i sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith defnyddwyr; disgwylir y byddai cwynion gan fyfyrwyr sy’n cael eu heffeithio gan y boicot pe na bai asesiadau'n cael eu marcio;

1020.6         bod pryderon wedi'u codi gan aelodau'r Senedd ynghylch yr amrywiadau; roedd y pryderon hyn yn cynnwys:

.1       nad oedd defnyddio marciau asesiad rhannol i bennu canlyniad y modiwl cyfan wedi ystyried y llwybr ymadael neu y gallai myfyrwyr fod wedi gwneud mwy o ymdrech ar ddiwedd asesiad diwedd modiwl heb sylweddoli y byddai marc canol y modiwl yn cael ei ddefnyddio; nododd aelod o'r Senedd eu bod, wrth eu marcio, yn amcangyfrif bwlch o tua 5-7% rhwng marciau canol modiwl a diwedd modiwl;

.2       bod cadw'r marc uwch (ar ôl i asesiadau gael eu marcio) yn annheg ar fyfyrwyr a gafodd y marc cywir;

.3       gan nad oedd gofyniad i farcio'r holl bapurau, y byddai trawsgrifiadau'n anghyson ar draws cynlluniau gradd ac na fyddai safoni'n sicrhau cysondeb gan mai dim ond isadran y gellir ei safoni (yn hytrach na'r set lawn);

.4       pe bai asesiadau'n cael eu pwysoli tua diwedd y semester, byddai dosbarthiadau'n cael eu trosglwyddo tua 50% o gyfanswm y gwaith a gyflwynir yn y semester hwnnw;

.5       nad oedd hyn yn ystyried llwybr ymadael gradd, gyda myfyrwyr yn aml yn gwella yn eu blwyddyn olaf a semester olaf eu blwyddyn olaf;

.6       gan nad oedd pob gradd yn cael ei diogelu gan gyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol perthnasol, byddai hyn yn cyflwyno anghysondebau;

1020.7         bod Safbwynt y Myfyriwr wedi annog y Brifysgol i wella ei chyfathrebu ag UCU a sicrhau tryloywder yn ei chyfathrebiadau;

1020.8         bod rhai o aelodau'r Senedd o'r farn y dylai Cyfarfod Arbennig o'r Senedd fod wedi'i alw i ganiatáu i'r mater hwn gael ei drafod a gwneud penderfyniad cyn cyfarfod y Byrddau Arholi, yn hytrach na'i benderfynu drwy Gam Gweithredu'r Cadeirydd; dadleuwyd hefyd bod y Boicot Marcio ac Asesu yn hysbys ymlaen llaw ac felly y gellid bod wedi ystyried mesurau lliniaru ynghynt; nodwyd hefyd y dylai'r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd fod wedi cael cyfle i drafod y cynigion, fodd bynnag, nid oedd unrhyw bryderon wedi'u codi gan aelodau ASQC ar ôl derbyn y wybodaeth;

1020.9         bod rhai o aelodau'r Senedd yn teimlo ei bod yn annheg rhoi myfyrwyr yng nghanol yr anghydfod hwn; teimlai aelodau eraill ei bod yn annheg i fyfyrwyr gael eu heffeithio ymhellach yn eu hastudiaethau ac o bosibl yn methu â graddio neu symud ymlaen;

1020.10       bod rhai aelodau’n teimlo nad oedd y gymhariaeth â lliniaru yn ystod covid yn gymaradwy, o ystyried bod y pandemig y tu allan i reolaeth y Brifysgol ac nad oedd yn hysbys ymlaen llaw; nodwyd hefyd bod y streic a'r anghydfod cysylltiedig yn rhan o anghydfod cenedlaethol ac felly nid o dan reolaeth y Brifysgol yn unig; nodwyd y gallai trafodaethau ailddechrau unwaith y byddai'r cam gweithredu wedi'i oedi;

1020.11       bod cynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r mesurau lliniaru a gynigiwyd; hyd yma ni chodwyd unrhyw bryderon mewn perthynas â'r mesurau lliniaru gan Arholwyr Allanol;

1020.12       y cwestiynwyd beth fyddai'r effaith ar fyfyrwyr o ganlyniad i gael gwared ar y mesurau lliniaru a'r angen i ddeall effaith hynny;

1020.13       teimlai Llywydd Undeb y Myfyrwyr mai cynnal y mesurau lliniaru oedd y dull gweithredu a ffafrir, o ystyried bod y pandemig a'r gweithredu diwydiannol eisoes wedi effeithio'n sylweddol ar fyfyrwyr yn eu hastudiaethau a'i bod yn annheg iddynt gael eu heffeithio ymhellach neu fethu â graddio; ychwanegodd nad oedd yn teimlo y byddai'r mesurau lliniaru hyn yn peryglu safonau academaidd, nac ychwaith y byddai graddau a roddir o dan y mesurau lliniaru hyn yn llai gwerthfawr na rhai eraill;

1020.14       bod y mesurau lliniaru yn rhoi awdurdod i Fyrddau Arholi a fyddai wedyn yn gwneud argymhellion i'r Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd, dan Gadeiryddiaeth y Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr;

1020.15       bod rhai aelodau o'r Senedd yn teimlo bod y mesurau lliniaru yn briodol a bod hyder mewn Byrddau Arholi i'w cymhwyso'n briodol o ystyried eu dealltwriaeth o'u myfyrwyr;

1020.16       bod y Cynigion a ganlyn wedi’u rhoi i bleidlais gan aelodau’r Senedd:

.1       dychwelyd i fersiwn flaenorol y Rheoliadau Academaidd;

.2       hysbysu'r Cyngor o'r diffygion yn nhrefn lywodraethol yr eitem hon a'i chynnwys yn yr Adolygiad Dwysiambr;

1020.17       na dderbyniwyd Cynnig 1, gyda 76 aelod yn bresennol, 15 yn pleidleisio o blaid a 46 yn erbyn;

1020.18       na dderbyniwyd Cynnig 2, gyda 76 aelod yn bresennol, 34 yn pleidleisio o blaid a 28 yn erbyn;

1020.19       bod yr Is-Ganghellor wedi cadarnhau y byddai'r trafodaethau hyn yn cael eu hadrodd i'r Cyngor drwy'r adroddiad gan y Senedd.

1021            Adroddiad yr Is-Ganghellor

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 22/675C 'Adroddiad yr Is-Ganghellor i'r Senedd'. Siaradodd yr Is-ganghellor am yr eitem hon.

Nodwyd

1021.1         y newyddion cadarnhaol am gyfanswm gwerth y dyfarniadau ymchwil, a oedd eisoes £10m cyn y flwyddyn flaenorol, dim ond 9 mis o'r flwyddyn gyfredol;

1021.2         y gofynnwyd a fyddai mecanweithiau cymorth ariannol i fyfyrwyr yn cael eu cynyddu yn unol â ffioedd dysgu; cadarnhawyd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor, y byddai'r cynnydd yn y gronfa caledi yn cael ei gynnal hyd at 2023/24; byddai Llywodraeth Cymru yn cynyddu benthyciadau cynhaliaeth i fyfyrwyr 9%.

1022            Adroddiad gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cwmpasu Adolygiad Dwysiambr

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 22/676 'Adroddiad gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cwmpasu Adolygiad Dwysiambrl'. Siaradodd y Dirprwy Is-ganghellor am yr eitem hon.

Nodwyd

1022.1         bod yr adolygiad wedi deillio o’r Adolygiad o Effeithiolrwydd Llywodraethu (neu Adolygiad Nicholls) yn 2021;

1022.2         y byddai'r adolygiad yn edrych i mewn i'r berthynas rhwng y Cyngor a'r Senedd a byddai'r Grŵp Tasg a Gorffen yn cwmpasu'r adolygiad hwn (heb gynnal yr adolygiad ei hun);

1022.3         Ymgynghorwyd â’r Senedd ar aelodaeth a chylch gorchwyl y grŵp Gorchwyl a Gorffen ym mis Tachwedd 2022;

1022.4         bod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi cyfarfod ym mis Mai ac wedi nodi pum maes allweddol ar gyfer cwmpas yr adolygiad, ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer ymgyngoreion ac adolygwyr; teimlai'r Grŵp ei bod yn well cael adolygydd allanol; nodwyd bod yr amserlen yn dibynnu ar benodiad yr adolygydd allanol ond y gobaith oedd y byddai modd ei chwblhau'n gynt;

1022.5         bod yr adolygiad wedi'i gomisiynu gan y Cyngor ac felly byddai i’w gymeradwyo ganddynt; rhannwyd y papur gyda'r Senedd ar gyfer ymgynghoriad a byddai unrhyw adborth yn cael ei drafod gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ei gyfarfod nesaf;

1022.6         holwyd a ellid ymestyn maes olaf y cwmpas i adolygu rôl holl aelodau'r Senedd ar y Cyngor (h.y cynnwys yr Is-Ganghellor, y Dirprwy Is-Ganghellor, Dirprwy Is-Ganghellor y Coleg a chynrychiolwyr Myfyrwyr).

Penderfynwyd

1022.7         i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ystyried yr adborth a godwyd ym mhwynt 1022.6.

1023            Safbwynt Myfyrwyr 2023

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 22/677, 'Barn y Myfyriwr 2023'. Siaradodd Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Is-lywydd Ôl-raddedig, Is-lywydd Parc y Mynydd Bychan a'r Is-lywydd Lles ac Ymgyrchoedd am yr eitem hon.

Nodwyd

1023.1         bod y Safbwynt Myfyrwyr wedi'i ddatblygu trwy ddata a gasglwyd trwy baneli Staff Myfyrwyr, Wythnos Siarad a fforymau eraill; Roedd yr Wythnos Siarad wedi arwain at tua 6000 o sylwadau unigol;

1023.2         bod Safbwynt Myfyriwr yn ystod y flwyddyn wedi'i gyflwyno ar Gost Byw a bod hyn wedi bod yn enghraifft wych o gydweithio; y gobaith oedd gwneud mwy o'r rhain yn y blynyddoedd i ddod;

1023.3         bod Crynodeb y Weithrediaeth hefyd yn cynnwys adborth cyffredinol a'r gobaith yn y blynyddoedd i ddod fyddai'r unig ddogfen a gyflwynwyd ac y byddai'n ymdrin â Safbwyntiau Myfyrwyr a grëwyd drwy gydol y flwyddyn;

Safbwynt Myfyrwyr ar Dai

1023.4         bod nifer cynyddol o fyfyrwyr yn cael trafferth dod o hyd i lety yng Nghaerdydd;

1023.5         roedd Undeb y Myfyrwyr wedi cynnal arolwg Ymchwil Tai mewn partneriaeth â Shelter Cymru a dderbyniodd 457 o ymatebion (y gyfradd ymateb fwyaf a welwyd); cynhaliwyd hyn gyda myfyrwyr Caerdydd i sicrhau ei fod yn gynrychioliadol; roedd yr arolwg wedi nodi materion ynghylch peidio â rhoi sylw i waith cynnal a chadw gan gynnwys difrod, lleithder a dodrefn wedi torri;

1023.6         mai’r argymhellion oedd i’r Brifysgol:

.1       fabwysiadu agwedd “dyletswydd gofal” tuag at bob myfyriwr sy'n dod yn ddigartref oherwydd diffyg llety;

.2       gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau academaidd eraill yng Nghaerdydd (nid Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn unig) i ddeall tueddiadau twf yn y dyfodol, a'r effaith ar y galw am lety myfyrwyr yn y ddinas;

.3       canolbwyntio'n fwy manwl ar gyflwr eiddo a gwasanaethau cwsmeriaid a brofir mewn neuaddau sy'n eiddo i'r Brifysgol;

.4       datblygu strategaeth gyfathrebu/addysg i sicrhau bod myfyrwyr newydd a myfyrwyr blwyddyn gyntaf sy'n gadael neuaddau'r Brifysgol yn ymwybodol o'u hawliau cyfreithiol;

1023.7         bod gan y Brifysgol gyfrifoldeb i'w myfyrwyr a'u bod yn ffurfio rhan fawr o boblogaeth Caerdydd;

Safbwynt Myfyrwyr ar Ystadau a Chyfleusterau

1023.8         bod mannau astudio ac adeiladau yn cael eu hadlewyrchu yn y Safbwynt Myfyrwyr bob blwyddyn;

1023.9         bod adborth ar deithio wedi nodi'r costau uwch yn y maes hwn; argymhelliad felly oedd bod y Brifysgol yn adolygu ei darpariaeth teithio, yn enwedig o amgylch gwasanaethau bysiau, cyfleusterau storio a beiciau, a pharcio sy'n addas i fyfyrwyr;

1023.10       yr ail argymhelliad oedd gwella amlder glanhau ar draws ystâd y Brifysgol gan ganolbwyntio'n benodol ar doiledau a mannau lle mae hylendid yn hollbwysig; gwelwyd hyn yn arbennig mewn llyfrgelloedd ac ardaloedd lle roedd myfyrwyr yn treulio llawer o amser, ond fe'i nodwyd ar draws y campws cyfan;

1023.11       y trydydd argymhelliad oedd darparu cynhyrchion mislif am ddim mewn lleoliad niwtral o ran rhyw ym mhob adeilad ar draws y campws; roedd hyn yn seiliedig ar adborth gan staff a myfyrwyr;

1023.12       roedd y pedwerydd argymhelliad yn canolbwyntio ar osod mwy o ystafelloedd cyffredin, gweddi a synhwyraidd ar draws y campws; roedd hyn eto i'w weld yn aml mewn llyfrgelloedd, ond hefyd mewn adeiladau hygyrch ac yn adeiladau Mynydd Bychan;

1023.13       argymhelliad pump oedd i'r Brifysgol barhau i adolygu ei chyfleusterau chwaraeon a'i champfeydd ar draws yr ystâd gan sicrhau ei bod yn parhau i fod yn fforddiadwy ac yn hygyrch i fyfyrwyr, a oedd yn arbennig o bwysig o ystyried y cynnydd presennol mewn costau;

1023.14       y dylai argymhelliad 6 (dylai'r Brifysgol adolygu a gwella ergonomeg eu hadeiladau) yn canolbwyntio ar ddefnyddio mannau astudio a darparu tegelli a socedi plygiau; nodwyd y byddai arwyddion ar sut a ble y gallai myfyrwyr addasu tymheredd ystafelloedd yn datrys nifer o sylwadau gan fyfyrwyr;

1023.15       nododd yr argymhelliad terfynol y dylai'r Brifysgol gynnal adolygiad o'i hygyrchedd; roedd prif faes hyn yn ymwneud â lifftiau gan eu bod yn aml yn anhygyrch neu ddim yn gweithio; nodwyd hefyd capsiynau/isdeitlau, hygyrchedd drysau a storfeydd ar gyfer eitemau trwm;

Safbwynt Myfyrwyr ar Asesu ac Adborth

1023.16       bod asesu ac adborth yn gyson yn rhoi sgorau isel yn yr NSS a'u bod hefyd wedi'u codi yn ystod yr Wythnos Siarad;

1023.17       bod ffactorau allanol wedi arwain at fyfyrwyr yn teimlo'n diffyg grymuso o ran mynd ar drywydd heriau yn eu taith academaidd.

1023.18       Amlygwyd pum elfen allweddol o brofiad asesu: ansawdd adborth; amserlennu asesu; canllawiau asesu; amseroedd asesu a newidiadau; ac amgylchiadau esgusodol; nodwyd ffactorau allanol hefyd (fel streic ac AI);

1023.19       nid oedd myfyrwyr yn teimlo bod adborth yn cefnogi ac yn hyrwyddo dysgu effeithiol oherwydd ei fod yn hwyr a ffactorau eraill; felly cynigiwyd argymhelliad i'r Brifysgol ddatblygu cynllun cyfathrebu wedi'i deilwra i fynd i'r afael â chamdybiaethau ynghylch trawsnewid adborth asesu;

1023.20       roedd clystyru asesiadau hefyd wedi cael effaith, ochr yn ochr â myfyrwyr nad oeddent yn teimlo'n barod (oherwydd effeithiau covid); roedd yr argymhellion yn awgrymu diwedd ar glystyru asesiadau, yn ogystal â gweithredu gwelliannau i gefnogaeth ac arweiniad yn ymwneud ag asesiadau;

1023.21       y diolchodd y Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr bawb a fu'n ymwneud â chynhyrchu'r ddogfen; byddai'r ymateb sefydliadol yn cael ei rannu â'r Senedd yn ei gyfarfod nesaf ac roedd gwaith eisoes ar y gweill i fynd i'r afael â'r materion a godwyd; roedd hefyd yn braf nodi'r cynnydd yn erbyn argymhellion o Safbwyntiau Myfyrwyr blaenorol ac y byddai'r camau a gymerwyd mewn ymateb i'r Safbwyntiau Myfyrwyr diweddaraf yn cael eu goruchwylio gan Bwyllgor Llais Myfyrwyr a Phartneriaeth a fyddai'n adrodd ymlaen i'r Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr a'r Senedd.

1024            Lansio rhaglen Cefnogi Rhagoriaeth Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 22/678 'Lansio'r Rhaglen Cefnogi Rhagoriaeth Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd'. Siaradodd y Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter am yr eitem hon.

Nodwyd

1024.1         mai nodau allweddol y rhaglen oedd:

.1       sicrhau bod y sefydliad yn cadw ffocws hirdymor ar ansawdd ymchwil; roedd hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer allbynnau a oedd yn rhan greiddiol o ymarferion asesu;

.2       i sicrhau cynllunio hirdymor ar gyfer asesiadau ymchwil yn y dyfodol;

1024.2         bod y rhaglen yn anelu at sicrhau perchnogaeth leol gref o fewn ysgolion, lle roedd ysgolion yn teimlo eu bod wedi'u grymuso a bod ganddynt yr asiantaeth i greu amgylchedd lle roedd allbynnau'n ffynnu a lle gallai unigolion gyrraedd eu llawn botensial;

1024.3         bod ymrwymiad i gyflawni nifer o ffrydiau gwaith, gan gynnwys:

  • Rhaglen o weithgarwch gwella ansawdd allbwn;
  • System ddata newydd ar gyfer adolygu allbynnau gan gymheiriaid;
  • Prosesau i sicrhau cydymffurfiaeth mynediad agored;
  • Cefnogaeth ar gyfer adolygiadau o effaith;
  • Cynllun absenoldeb ymchwil;
  • Cefnogaeth bellach i ddatblygiad Ymchwilwyr ar Gychwyn eu Gyrfa;

1024.4         y byddai hwn yn cael ei redeg ochr yn ochr â'r IPP;

1024.5         bod gwaith wedi dechrau drwy Gyfarwyddwyr Ymchwil (a oedd yn sylfaenol i'r rhaglen) a bod fframwaith cychwynnol wedi'i ddatblygu i roi cyfeiriad; byddai hyn yn cael ei fireinio ymhellach, yn enwedig gan fod rheolau ar gyfer asesu yn y dyfodol yn fwy hysbys;

1024.6         ei bod yn bwysig deall meddyliau a phryderon staff ymchwil;

1024.7         ei bod yn bwysig sicrhau bod ymchwil yn weladwy a bod cynllun cyfathrebu yn cael ei ddatblygu.

1025            Adolygu trefniadau Llywodraethu Addysg

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 22/679, ‘Adolygiad o Drefniadau Llywodraethu Addysg'. Siaradodd y Rhag Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

1025.1         bod y Senedd wedi cytuno ar welliannau i'r strwythur llywodraethu addysg ym mis Mehefin 2021; roedd hyn wedi cynnwys cytundeb i adolygu'r strwythur unwaith y byddai wedi bod ar waith am flwyddyn;

1025.2         y byddai'r adolygiad yn cael ei gynnal ar ddiwedd blwyddyn academaidd 2022/23 ac y byddai adroddiad i'r Senedd yn hydref 2023; roedd y Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr yn arbennig o awyddus i adolygu'r effeithiau ar adrodd mewn pwyllgorau lefel ysgol a Byrddau Astudiaethau.

1026            Adroddiad y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd i'r Senedd

Derbyniwyd papur 22/680 'Adroddiad Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC'). Siaradodd y Rhag Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

1026.1         bod y newidiadau polisi llawn y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad yn cael eu cynnwys fel papur ar wahân yn ddiweddarach yn y llyfr cyfarfod; diolchwyd i gydweithwyr academaidd a Gwasanaethau Proffesiynol a oedd wedi cynorthwyo yn y gwaith hwn; diolchwyd hefyd i Ddeon y Gymraeg am eu cymorth yn y gwaith o sicrhau bod asesiadau cyfrwng Cymraeg yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg;

1026.2         y byddai adolygiad o'r polisi Amgylchiadau Esgusodol yn cael ei gynnal unwaith y byddai digon o ddata ar gael o flwyddyn academaidd 2022-23;

1026.3         bod yr holl gamau gweithredu o'r archwiliad ar ail-sefyll arholiadau yn ystod y flwyddyn wedi'u cau;

1026.4         bod Grŵp Gorchwyl a Gorffen (dan gadeiryddiaeth Dr Andrew Roberts) wedi'i sefydlu mewn perthynas â'r archwiliad o'r broses hysbysu canlyniadau ac i roi sicrwydd ar unwaith ynghylch cywirdeb y marciau;

1026.5         bod gwybodaeth am y rhaglen wedi'i gadarnhau erbyn yr 28ain o Ebrill a oedd yn dangos gwelliant sylweddol a diolchwyd i bawb a gymerodd ran;

1026.6         y diolchodd aelod o'r Senedd i'r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd a chydweithwyr yn y Gwasanaethau Proffesiynol am waith ar y PhD a'r llwybr perfformio yn yr Ysgol Cerddoriaeth;

1026.7         y holwyd a allai'r newid i ganiatáu i gyfnodau arholi gael eu defnyddio at ddibenion academaidd heblaw arholiadau roi disgresiwn pellach i Benaethiaid Ysgolion, er mwyn atal clystyru arholiadau a rhoi egwyl i staff a myfyrwyr rhwng arholiadau ac asesiadau; y gobaith oedd y byddai hyn hefyd yn lleihau nifer yr estyniadau hunan-ardystio; cytunwyd y byddai hyn yn cael ei ymchwilio ac y byddai diweddariad yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod nesaf;

1026.8         o ran astudio ac ymgysylltu â myfyrwyr, y cafwyd adborth gan CCAUC ar bolisïau ymgysylltu a bod y Brifysgol wedi gweithio i ymateb i hyn; roedd y Brifysgol hefyd yn edrych yn ehangach ar gymorth wedi'i bersonoli a sut roedd myfyrwyr yn cael eu cefnogi a'u cynnwys drwy brosiect o dan y portffolio Addysg a Phrofiad Myfyrwyr.

Penderfynwyd

1026.9         cymeradwyo'r newidiadau i reoliadau a pholisïau academaidd y manylir arnynt yn adran 1 o'r adroddiad;

1026.10       adolygu a allai Penaethiaid Ysgol gael disgresiwn pellach i ganiatáu i gyfnodau arholi gael eu defnyddio at ddibenion academaidd heblaw arholiadau.

1027            Adroddiad y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr i'r Senedd

Derbyniwyd papur 22/681 'Adroddiad y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr i'r Senedd'. Siaradodd y Rhag Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

1027.1         bod adolygiad o'r polisi gwella modiwlau wedi'i gynnal, dan arweiniad yr Athro Luke Sloan, a bod hwn wedi'i ailenwi'n werthuso modiwlau; roedd ymgynghori sylweddol wedi'i gynnal fel rhan o'r adolygiad ac roedd y polisi wedi'i symleiddio; roedd y polisi bellach yn cynnwys digwyddiadau canol modiwl a byddai ysgolion yn gallu penderfynu sut i gasglu'r adborth hwn (gan nodi nad oedd angen i hwn fod yn arolwg ac nid oedd hyn yn cael ei annog o ystyried nifer yr arolygon sydd eisoes ar waith); roedd gwaith nawr yn cael ei wneud i gefnogi ysgolion i roi hyn ar waith;

1027.2         bod ymholiad wedi'i godi ynghylch rheoli ymgysylltiad ag adolygiadau modiwl, a oedd yn isel mewn rhai ysgolion; nodwyd bod cyfraddau ymateb yn amrywio a bod ymgysylltiad yn cael ei olrhain, yn enwedig o amgylch arolygon mwy fel yr NSS, a bod mwy o ymgysylltu ag ysgolion a oedd yn defnyddio swyddogion ymgysylltu; roedd Pwyllgor Llais y Myfyrwyr o fudd i'r maes hwn ac roedd y Brifysgol yn adolygu sut y cyfathrebir â myfyrwyr ar eu hadborth;

1027.3         roedd yr adroddiad hefyd yn nodi:

.1       diweddariad ar 'Addysg ar gyfer Cynaliadwyedd' yn unol â chais y Senedd;

.2       bod y Pwyllgor wedi cymeradwyo diweddariadau i'r Fframwaith Dysgu Cyfunol a bod grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi'i sefydlu i adolygu hyn o 2024/25 ymlaen; byddai hyn yn cynnwys ymgynghori;

.3       bod y Pwyllgor wedi cymeradwyo canllawiau ynghylch defnyddio AI a fyddai’n cael eu cyhoeddi a’u rhannu.

Penderfynwyd

1027.4         cymeradwyo'r Polisi Gwella Modiwlau.

1028            Unrhyw fater arall

Nodwyd

1028.1         diolchwyd i'r aelodau hynny o'r Senedd a fynychodd eu cyfarfod diwethaf;

1028.2         dymunodd y Senedd yn dda i'r Is-Ganghellor a oedd yn mynychu ei gyfarfod olaf cyn ymddeol.

1029            Eitemau a gafwyd i’w cymeradwyo

Penderfynwyd

1029.1         cymeradwyo'r papurau canlynol:

22/689 Newidiadau i Reoliadau a Pholisïau Academaidd

22/666 Cod Ymarfer Uniondeb Ymchwil a Llywodraethu

1030            Eitemau a gafwyd er gwybodaeth

Nododd y Senedd y papurau canlynol:

22/682 Cofnodion ASQC – 25 Mai 2023

22/541 Cofnodion E&SEC – 29 Mawrth 2023

22/683 Cofnodion E&SEC - 18 Mai 2023

22/684C Adroddiad gan y Pwyllgor Cymrodoriaethau a Graddau er Anrhydedd

22/687 Camymddygiad Ymchwil Academaidd - Polisi a Gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i honiadau

22/685 Teitlau Emeritws ac Emerita wedi’u dyfarnu ers 1 Ebrill 2022

22/686 Amserlen o fusnes ar gyfer Blwyddyn 2023-24