Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Cofnodion y Cyngor 16 Chwefror 2023

Cofnodion cyfarfod Cyngor Prifysgol Caerdydd a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2023 am 9:00 yn Ystafell y Bwrdd, Adeilad sbarc I spark.

Yn bresennol: Patrick Younge (Cadeirydd), Is-ganghellor, Angie Flores Acuna, yr Athro Rudolf Allemann, Paul Baston, Gina Dunn [o gofnod 2104 ymlaen], Judith Fabian, yr Athro Fonesig Janet Finch, Michael Hampson, Christopher Jones, Jan Juillerat, Jeremy Lewis, Dr Joanna Newman, Suzanne Rankin, John Shakeshaft, Dr Pretty Sagoo, yr Athro Damian Walford Davies, Jennifer Wood, Agnes Xavier-Phillips.

Mynychwyr: Katy Dale [Cofnodydd], Millicent Ele, Rashi Jain, Sian Marshall, Susan Midha

[Cofnod 2112], Claire Morgan, Claire Sanders, Darren Xiberras a'r Athro Roger Whitaker.

2101 Croeso a materion rhagarweiniol

Croesawyd pawb i'r cyfarfod.

2102 Ymddiheuriadau am absenoldeb

Cafwyd ymddiheuriadau gan yr Athro Rachel Ashworth, yr Athro Marc Buehner a David Selway. Cadarnhawyd bod gan y cyfarfod gworwm.

2103 Datgan buddiant

Atgoffodd y Cadeirydd aelodau'r pwyllgor am eu dyletswydd i ddatgelu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl. Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

2104 Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2022 (22/385C) a chyfarfod arbennig y Cyngor a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2023 (22/397HC) yn gofnod gwir a chywir a chawsant eu cymeradwyo i'w llofnodi gan y Cadeirydd.

2105 Materion yn codi

Derbyniwyd a nodwyd papur 22/381, 'Materion yn Codi'. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.

2106 Eitemau gan y Cadeirydd

Derbyniwyd papur 22/384C, 'Adroddiad Gweithredu'r Cadeirydd Ers y Cyfarfod Diwethaf'. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.

Nodwyd

2106.1 bod y Cadeirydd wedi cymeradwyo newidiadau i'r Adroddiad Blynyddol a'r Datganiadau Ariannol, Adroddiad Ansawdd Blynyddol 2021-22 ac Aelodaeth a Chylch Gorchwyl Grŵp Gorchwyl a Gorffen yr Adolygiad Dwysiambraidd drwy Gamau Gweithredu y Cadeirydd;

2106.2 mewn perthynas â phapur Grŵp Gorchwyl a Gorffen yr Adolygiad Dwysiambraidd (papur rhif 22/378 a oedd wedi'i gynnwys ar Ddesg y Cyfarwyddwr er gwybodaeth), fod y bleidlais ar gyfer aelod o'r Senedd bellach wedi cau ac y cadarnhawyd bod yr Athro Rachel Ashworth wedi'i phenodi;

2106.3 bod y darpar Is-ganghellor wedi derbyn y penodiad;

2106.4 bod aelodau'r Cyngor wedi cael gwybod am yr Ornest Prifysgolion ar 26 Ebrill 2023 ac wythnos Raddio 17-21 Gorffennaf 2023; gofynnwyd i aelodau'r Cyngor nodi'r dyddiad a byddai rhagor o wybodaeth yn dilyn;

2106.5 bod y Cadeirydd wedi cyfarfod yn unigol ag aelodau'r Cyngor i roi adborth ar berfformiad, cefnogaeth a datblygiad; nid oedd y term “gwerthusiad” yn cael ei ffafrio gan nad oedd y cyfarfodydd hyn yn pennu tâl na gwobr.

2107 Adroddiad Yr Is-ganghellor i'r Cyngor

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 22/408C, 'Adroddiad yr Is-ganghellor i'r Cyngor'. Soniodd yr Is-ganghellor am yr eitem hon.

Nodwyd

2107.1 [Hepgorwyd]

2107.2 bod cyfarfod Neuadd y Dref wedi'i gynnal gyda staff ac wedi bod yn gyfle da i ofyn cwestiynau;

2107.3 [Hepgorwyd]

2107.4 [Hepgorwyd]

2107.5 bod niferoedd ceisiadau a chynigion myfyrwyr yn gadarnhaol;

2107.6 bod ffigyrau contractau a grantiau ymchwil yn dda a bod y cynnydd mewn dyfarniadau sydd yn yr arfaeth yr uchaf a gafwyd erioed; byddai gwybodaeth am yr arolwg diwylliant ymchwil yn cael ei rhannu fel rhan o'r Diwrnod Datblygu yn dilyn y cyfarfod;

2107.7 bod ysgoloriaethau'n cael eu defnyddio'n strategol mewn perthynas â recriwtio myfyrwyr rhyngwladol; byddai diweddariad pellach ar recriwtio myfyrwyr rhyngwladol yn cael ei ddarparu yn ddiweddarach yn y cyfarfod ac yn y Diwrnod Datblygu;

2107.8 bod pryderon wedi'u codi ynghylch newid i'r cynllun bwrsariaethau a oedd yn caniatáu i fyfyrwyr wario rhan o'u bwrsariaeth trwy borth, ar dechnoleg, llyfrau ac ati; mae hyn oherwydd bod myfyrwyr yn aml wedi bod angen yr arian at ddibenion eraill (e.e. rhent) a bod y newid wedi'i gyflwyno pan oedd y rhan fwyaf o’r bwrsariaethau wedi'u gwario; roedd y Brifysgol wedi tynnu'r newid yn ôl a byddai'n parhau i ymgynghori.

2108 Adroddiad Diweddaru DPA

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 22/336C, 'Adroddiad Diweddaru DPA.' Soniodd yr Is-ganghellor am yr eitem hon.

Nodwyd

2108.1 [Hepgorwyd]

2108.2 y byddai angen gwrthbwyso er mwyn cyrraedd y targed i gyflawni carbon sero net erbyn 2030; roedd y Brifysgol yn gweithio gyda phartner allanol i gostio'r gweithgaredd hwn a phennu camau hawdd eu cyflawni ar gyfer 2023/24; roedd y Brifysgol hefyd yn adolygu ffrydiau cyllido ar gyfer gweithgareddau yn y maes hwn ac yn recriwtio staff i fapio gweithgareddau; gofynnodd y Cyngor i gael gweld y cynllun hwn, gan gynnwys costau a chanran y gwrthbwyso;

2108.3 bod gan y Brifysgol bolisïau ar waith mewn perthynas â thanwyddau gwyrdd (e.e. biomas) a'i bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddiffiniadau o “ynni gwyrdd”;

2108.4 y byddai trafodaeth ar ddefnyddioldeb y DPA a'r sail ar eu cyfer yn cael ei chynnal gyda'r Is-ganghellor newydd;

2108.5 y byddai’n fuddiol clymu DPA 13 (EBIDA) i'r gyllideb flynyddol;

2108.6 bod arolwg staff yn cael ei ddatblygu ac y byddai'n cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn.

Penderfynwyd

2108.7 rhannu’r cynllun carbon sero net a gwrthbwyso â'r Cyngor wedi iddo gael ei ddatblygu;

2108.8 cynnal adolygiad o'r DPA a'u cyflwyno pan fyddai’r Is-ganghellor newydd wedi dechrau yn ei swydd;

2108.9 cynnwys y DPA EBIDA a gwybodaeth am ei gyflawni ym mhapur y gyllideb flynyddol.

2109 Strategaeth Ystadau

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 22/347CR, 'Strategaeth Drosiannol Ystadau 2023-2025.' Siaradodd y Dirprwy Is-ganghellor am yr eitem hon.

Nodwyd

2109.1 bod y papur wedi cael ei adolygu gan Fwrdd Gweithredol y Brifysgol a'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau, a bod adborth wedi'i gynnwys yn y papur;

2109.2 bod y ddogfen hon wedi'i datblygu ar gyfer y flwyddyn interim 2023-24, oherwydd bod yr Uwchgynllun Ystadau yn dod i ben a'r Is-ganghellor newydd yn dechrau yn ei swydd;

2109.3 bod pwyslais ar yr ystad fel galluogwr strategaeth sefydliadol, yn hytrach nag adnodd goddefol; roedd y ddogfen yn adlewyrchu'r cyd-destun ariannol, strategol ac amgylcheddol ac yn ceisio symud oddi wrth brosiectau cyfalaf graddfa fawr i wneud yn fawr o'r ystad etifeddol;

2109.4 bod y papur yn ystyried y ffactorau cyd-destunol a ganlyn:

  • pwysau cyllidebol gwirioneddol
  • yr argyfwng hinsawdd
  • ffyrdd newydd o weithio
  • cysylltedd seilwaith digidol y Brifysgol
  • ffyrdd newydd o addysgu
  • yr angen i gyfuno'r ystad yn unol â'r Uwchgynllun Ystadau a sicrhau cydbwysedd rhwng rhydd-ddaliad a lesddaliad
  • meincnodi gyda sefydliadau tebyg
  • yr angen i fonitro'r defnydd o le mewn ffordd well
  • cynllunio niferoedd myfyrwyr fesul 3 blynedd
  • y strategaeth sefydliadol newydd a’r Is-ganghellor newydd
  • lleoliad yr ysbyty newydd;

2109.5  y byddai'r Broses Gynllunio Integredig yn greiddiol i waith yn y maes hwn ac i sicrhau prosiectau a gweithgareddau wedi'u cynllunio, yn hytrach na rhai  ad-hoc;

2109.6 mai nod y strategaeth drosiannol oedd sicrhau:

  • lleihad o ran lle (space)
  • bod prosiectau cynnal a chadw ystadau yn cael eu cyflawni’n yn gyfannol ac yn strategol
  • adnabyddiaeth o’r ystad
  • bod yr ystad yn cael ei chlymu â strategaeth fel mecanwaith cyflawni
  • gwelliant o ran defnydd
  • bod y targed carbon sero net yn cael ei gyflawni
  • gwelliant o ran hygyrchedd;

2109.7 bod amcanion tymor byr yn cynnwys gweithredu polisi rheoli lle a lleihad o ran lle, cyflawni prosiectau cynnal a chadw cydlynol a chyflawni Cynllun Cydraddoldeb y Strategaeth;

2109.8 [Hepgorwyd]

2109.9 bod y strategaeth yn seiliedig ar gynlluniau cyfredol ar gyfer niferoedd recriwtio myfyrwyr (na fyddai'r niferoedd yn cynyddu ac y byddai'r gronfa o fyfyrwyr yn fwy amrywiol);

2109.10 y byddai darparu llety i fyfyrwyr a phreswylfeydd hefyd yn elfen hollbwysig o'r strategaeth;

2109.11 [Hepgorwyd]

2109.12 [Hepgorwyd]

2109.13 bod sylwadau wedi'u rhannu ymlaen llaw gan aelod, a oedd yn argymell ychwanegu cynllun rheoli asedau (yn unol ag ISO 55000) at y strategaeth;

2109.14 y gellid meddwl am godi tâl am le a'r effaith y gallai hyn ei chael ar ddefnydd;

2109.15 bod y strategaeth hefyd yn gofyn am newid diwylliannol/ymddygiadol (h.y. rhannu mannau a desgiau);

2109.16 bod posibilrwydd o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth;

2109.17 y byddai’r seilwaith digidol yn hanfodol er mwyn cyflawni’r strategaeth;

2109.18 bod y Brifysgol yn adolygu strwythur y tîm Ystadau er mwyn sicrhau y byddai hyn yn cyflawni'r hyn sydd ei angen.

Penderfynwyd

2109.19 cymeradwyo’r Strategaeth Drosiannol Ystadau 2023-2025;

2109.20 y byddai Llywydd Undeb y Myfyrwyr a’r Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Myfyrwyr yn trafod camau a gweithgareddau gwella posibl i fyfyrwyr ar safle Parc y Mynydd Bychan.

2110 Profiad Myfyrwyr

Derbyniwyd ac ystyriwyd papurau 22/382 'Adroddiad gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr Ionawr 2023’ a 22/398 ‘Diweddariad ACM’. Siaradodd Llywydd Undeb y Myfyrwyr a'r Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

Adroddiad gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr

2110.1 y bu lefel uchel o ymgysylltiad ag Undeb y Myfyrwyr gan fyfyrwyr, ond eu bod yn gwario cryn dipyn yn llai (diffyg o tua £600k); roedd trafodaethau'n cael eu cynnal mewn perthynas â'r dyraniad Grant Bloc i Undeb y Myfyrwyr;

2110.2 bod y Brifysgol wedi ymateb yn gadarnhaol i’r argyfwng costau byw a bod Undeb y Myfyrwyr wedi rhoi nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar waith i gynorthwyo myfyrwyr, ynghyd ag ymwybyddiaeth gynyddol o’r cymorth a’r cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n ei chael hi’n anodd;

2110.3 bod pob cynnig wedi ei gymeradwyo yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diweddar, gan gynnwys “cops oddi ar y campws”; roedd grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi'i sefydlu i archwilio'r ymgysylltu â'r heddlu ac roedd hyn yn cynnwys cynrychiolaeth o'r Brifysgol;

2110.4 bod bar balconi newydd wedi'i lansio ym mis Rhagfyr a'i fod yn boblogaidd;

2110.5 bod y cyfnod enwebu ar gyfer etholiadau'r gwanwyn wedi dod i ben; enwebwyd 57 o ymgeiswyr, gan gynnwys 5 o'r swyddogion sabothol presennol; byddai etholiadau’n cael eu cynnal ddechrau mis Mawrth;

2110.6 bod nifer o ymgyrchoedd a digwyddiadau wedi cael eu cynnal, gan gynnwys yr wythnos gymdeithasol sobr gyntaf a fu'n boblogaidd iawn; nodwyd bod y digwyddiadau di-alcohol wedi bod yn gadarnhaol ac yn ffordd dda o ennyn diddordeb myfyrwyr eraill;

2110.7 ei fod wedi'i fandadu yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diweddar i gefnogi streic; roedd y swyddogion sabothol yn deall bod hwn yn fater cenedlaethol ac nad oedd gan y Brifysgol lawer o ddylanwad ar y penderfyniadau, ac roedd hyn yn cael ei gyfathrebu; fodd bynnag, roedd hwn yn argyfwng cenedlaethol a oedd yn effeithio ar nifer o sectorau; y teimlad cyffredinol oedd bod myfyrwyr yn gefnogol ond yn teimlo’n rhwystredig oherwydd y  tarfu ar addysgu;

ACM

2110.8 bod Grŵp Goruchwylio Perfformiad Addysg wedi'i sefydlu yn dilyn adolygiad gan yr uned Archwilio Mewnol a’r Pwyllgor Archwilio a Risg; roedd y grŵp yn adolygu data yn ystod y flwyddyn i weld gwelliannau a nodi meysydd posibl ar gyfer monitro neu weithredu pellach ond yn parhau ag atebolrwydd yn yr ysgolion a'r colegau;

2110.9 bod ACM eleni wedi'i lansio a bod y cyfraddau ymateb ar hyn o bryd yn dda; roedd cwestiynau diwygiedig ac roedd yr ateb canol wedi'i ddileu, gan ofyn i fyfyrwyr ateb yn gadarnhaol neu'n negyddol; disgwylid felly y byddai meysydd negyddol blaenorol yn gwaethygu, ond y byddai meysydd cadarnhaol yn perfformio'n well;

2110.10 bod grŵp penodol wedi'i sefydlu i adolygu'r meysydd sy'n peri pryder o fewn yr Ysgol Fusnes; bu llawer iawn o gynnydd yn y pynciau Economeg ond efallai na fydd hyn yn cael ei adlewyrchu eto yng nghanlyniadau eleni;

2110.11 bod gan brosiectau fesurau llwyddiant wedi’u cadarnhau erbyn hyn ac y byddai adroddiadau ar ddangosyddion rhagfynegi yn dilyn;

2110.12 y byddai arolygon byr yn rhoi rhywfaint o syniad o  newidiadau mewn rhai meysydd, ond y byddai effaith mesurau ar ganlyniadau ACM i'w gweld dros gyfnod hwy o amser; byddai streicio’n debygol o gael effaith hefyd;

2110.13 bod Adroddiad Gwella Blynyddol wedi cael ei ddatblygu a oedd yn dangos effaith y gwaith a wnaed, sut y cafodd ei werthuso a'i lwyddiannau; byddai hwn yn cael ei rannu gyda'r Cyngor;

2110.14 bod archwiliad mewnol wedi amlygu cynnydd posibl yn y risg o wallau mewn marciau, oherwydd prosesau a chanllawiau cyfyngedig; roedd gwaith yn cael ei wneud i ddatrys hyn, gan gynnwys cyfarwyddiadau i ysgolion i’w hadolygu;

2110.15 bod y Dirprwy Is-ganghellor a Llywydd Undeb y Myfyrwyr wedi ymweld â Phrifysgol Gorllewin Llundain ac wedi nodi meysydd posibl o arfer gorau i'w gweithredu;

2110.16 bod gwaith yn cael ei wneud i gau'r ddolen adborth i fyfyrwyr a rhannu straeon newyddion da (e.e. drwy ohebiaeth at fyfyrwyr gan y Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Myfyrwyr, gan gynnwys cyflawniadau penodol a newyddion o'u hysgol);

2110.17 nad oedd yr ACM yn cynnwys myfyrwyr ôl-raddedig a bod y Brifysgol yn cynnal ei harolwg ei hun o fyfyrwyr ôl-raddedig a addysgir, yn y gwanwyn ac yn ystod cyfnodau goruchwylio.

Penderfynwyd

2110.18 darparu diweddariad i’r Cyngor ar y camau a gymerwyd i leihau'r risg o gynnydd mewn gwallau marcio.

2111 Adroddiad Cyllid

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 22/330C, 'Adroddiad Cyllid'. Soniodd y Prif Swyddog Ariannol am yr eitem hon.

Nodwyd

2111.1 [Hepgorwyd]

2111.2 [Hepgorwyd]

2111.3 [Hepgorwyd]

2111.4 [Hepgorwyd]

2111.5 y byddai fersiynau o'r papur yn y dyfodol yn cynnwys STIP o fewn ffigyrau'r gyllideb derfynol;

2111.6 [Hepgorwyd]

2111.7 bod colledion o fuddsoddiadau wedi gwella ym mis Tachwedd a'r gobaith oedd y byddai'r rhain yn parhau i wella yn ffigyrau mis Ionawr;

2111.8 [Hepgorwyd]

2111.9 yr arbedion presennol ar gostau cyflog oherwydd swyddi gwag a'r angen i reoli pwysau a ddaw yn sgil cynnydd mewn costau staff yn y dyfodol;

2111.10 [Hepgorwyd]

2112 Diweddariad ar Waith Cysylltiedig â Hunanladdiadau Myfyrwyr

Cafwyd diweddariad llafar gan y Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr.

Nodwyd

2112.1 bod hon yn eitem ofidus a heriol i bawb dan sylw;

2112.2 [Hepgorwyd]

2112.3 [Hepgorwyd]

2112.4 [Hepgorwyd]

2112.5 [Hepgorwyd]

2112.6 [Hepgorwyd]

2112.7 [Hepgorwyd]

2112.8 [Hepgorwyd]

2112.9 [Hepgorwyd]

2112.10 [Hepgorwyd]

2112.11 [Hepgorwyd]

2112.12 [Hepgorwyd]

2113 Adolygiad Recriwtio Myfyrwyr

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 22/389C, 'Adolygiad Recriwtio Myfyrwyr.' Siaradodd y Dirprwy Is-ganghellor Gweithgarwch Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr a’r Coleg  Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg am yr eitem hon.

Nodwyd

2113.1 ei bod yn bwysig nodi bod myfyrwyr rhyngwladol yn cyfoethogi diwylliant y Brifysgol ac yn cynorthwyo yn  ei llwyddiant;

2113.2 bod y strwythur cyllido yn golygu bod y Brifysgol yn ddibynnol ar fyfyrwyr rhyngwladol, gan mai dyma'r unig faes lle gallai'r Brifysgol gynyddu ei hincwm;

2113.3 y bu gostyngiad yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol a dderbyniwyd ar gyfer y flwyddyn academaidd 22/23; roedd hyn oherwydd mater penodol o fewn y tîm derbyniadau, a oedd wedi cael sylw bellach.

2113.4 bod swyddfa ryngwladol y Brifysgol yn llai na swyddfeydd sefydliadau eraill ond yn effeithlon iawn;

2113.5 bod y cyfle i drafod recriwtio myfyrwyr rhyngwladol yn cael ei groesawu;

2113.6 bod y Brifysgol yn ceisio cynyddu diddordeb mewn meysydd lle'r oedd hyn yn gyfyngedig, gan leihau dibyniaeth ar Tsieina ar yr un pryd; roedd hyn yn golygu mwy o ymgyrchoedd a gweithio gyda chwmni deori i wella’r nifer sy’n ymgeisio; roedd gwaith hefyd yn cael ei wneud o ran Addysg Drawswladol, ac roedd llawer o ddiddordeb wedi bod gan golegau celfyddydau breiniol;

2113.7 bod angen ystyried recriwtio myfyrwyr rhyngwladol yng nghyd-destun y strategaeth recriwtio myfyrwyr (h.y. nid cynyddu niferoedd ond cynyddu amrywiaeth myfyrwyr);

2113.8 bod y Brifysgol yn adolygu'r amser a gymerir i ymateb i geisiadau, gan fod y gyfradd trosi ar gyfer cynigion yn isel;

2113.9 bod y Brifysgol yn derbyn nifer o geisiadau twyllodrus, sy’n cael eu hanfon at asiantaeth i'w gwirio;

2113.10 bod recriwtio a derbyniadau yn fater i'r brifysgol gyfan a bod gwaith ar y gweill gydag ysgolion i amlygu meysydd twf;

2113.11 bod myfyrwyr Cartref ôl-raddedig a addysgir yn parhau i fod yn faes lle gallai'r Brifysgol dyfu; roedd hyn yn heriol wrth i'r farchnad swyddi ddod yn fwy deniadol;

2113.12 bod partneriaethau strategol wedi symud i ganolbwyntio ar gydweithio ar ymchwil a gwella enw da'r Brifysgol, yn hytrach nag ar recriwtio myfyrwyr yn unig;

2113.13 y gallai fod cyfleoedd i weithio gyda’r tîm cyn-fyfyrwyr i estyn allan at ddarpar fyfyrwyr;

2113.14 bod ceisiadau gan fyfyrwyr israddedig Cartref yn ddigyfnewid oherwydd cyfraddau gadael a chystadleuaeth yn y farchnad;

2113.15 bod y Brifysgol yn parhau i warchod ansawdd o ran recriwtio israddedigion rhyngwladol.

2114 Adroddiad gan y Pwyllgor Dileu Swyddi i'r Cyngor

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 22/386C, 'Adroddiad gan y Pwyllgor Dileu Swyddi i'r Cyngor'. Gwahoddwyd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol i ymuno â'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.

Nodwyd

2114.1 bod yr achos busnes yn canolbwyntio ar ailstrwythuro ac yn creu swyddi newydd ochr yn ochr â diswyddo arfaethedig;

2114.2 bod y Pwyllgor Dileu Swyddi yn gweithredu o fewn awdurdod a roddwyd gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2022;

2114.3 y cafwyd trafodaeth ar yr angen i'r Cyngor adolygu a chymeradwyo dileu swyddi; roedd yr undebau wedi gofyn am adolygiad o gontractau ffactor perthnasol penagored a fyddai hefyd yn cynnwys adolygiad o Statudau ac Ordinhadau; nodwyd hefyd bod y ffaith fod y Cyngor yn adolygu diswyddiadau yn rhoi ymdeimlad o sicrwydd i staff.

Penderfynwyd

2114.4 [Hepgorwyd]

2114.5 cynnal adolygiad o'r llwybr cymeradwyo diswyddiadau, i benderfynu a oedd hyblygrwydd o ran bod angen i'r Cyngor gymeradwyo ceisiadau o'r fath.

Gadawodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y cyfarfod ar ddiwedd yr eitem hon.

2115 Unrhyw Fater Arall

Nodwyd nad oedd unrhyw faterion eraill.

2116  Eitemau a gafwyd i’w cymeradwyo

Penderfynwyd

2116.1 cymeradwyo'r papurau canlynol:

  • Papur 22/380 Diwygiadau i'r Strategaeth Ehangu Cyfranogiad
  • Papur 22/388 Cyfansoddiad y Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd

2117 Eitemau a gafwyd er gwybodaeth

Nodwyd y papurau canlynol:

  • Papur 22/387C Adroddiad gan y Senedd
  • Papur 22/396C Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau
  • Papur 22/399C Adroddiad gan y Pwyllgor Taliadau i'r Cyngor
  • Papur 22/265C Adroddiad gan y Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd
  • Papur 22/383 Selio Trafodion