Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Telerau ac Amodau (2024/25)

  • Diweddarwyd ddiwethaf:

Dim ond i fyfyrwyr sy’n dechrau addysg uwch am y tro cyntaf, ac sy’n dechrau ym mlwyddyn gyntaf cwrs israddedig cymwys y mae’r telerau a’r amodau hyn yn berthnasol.

Myfyrwyr a staff presennol: ar gyfer carfannau blaenorol o fyfyrwyr,cyfeiriwch at y flwyddyn berthnasol ar fewnrwyd y myfyrwyr.

1. Amodau cymhwysedd

Mae’n rhaid i’r myfyriwr fod:

  • yn dechrau blwyddyn 1 mewn cwrs israddedig amser llawn ym Mhrifysgol Caerdydd yn 24/5. Nid yw’r cynllun hwn yn cwmpasu cyrsiau TAR na’r rhai sy’n cael eu hariannu gan y GIG.
  • fod yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr y DU ar gyfer costau byw (fel y'i diffinnir yn y rheoliadau cymorth cyllid i fyfyrwyr)
  • ag incwm aelwyd fel yr aseswyd gan awdurdod eu dyfarniad yn llai na £35,000, a’i fod wedi rhoi caniatâd i rannu’r wybodaeth hon â’r Brifysgol
  • yn rhwymedig i dalu ffioedd dysgu o £9,000, ac yn talu isafswm o £6,000 yn 2024/25 (nid yw cael Grant Talu Ffioedd Dysgu gan Lywodraeth Cymru yn eithrio rhywun rhag bod yn gymwys).
  • fod yn bresennol ar eich cwrs.

2. Gwerth y dyfarniad

  • Mae Bwrsariaeth Prifysgol Caerdydd yn daliad arian parod o £500 y flwyddyn i bob myfyriwr cymwys.
  • Bydd myfyrwyr yn cael eu hailasesu bob blwyddyn ar gyfer Bwrsariaeth Prifysgol Caerdydd a rhaid iddynt fodloni'r meini prawf cymhwysedd.
  • Bydd penderfyniadau ynghylch dyfarniadau bwrsariaeth ar gyfer 2025/26 yn cael eu cyhoeddi yn 2025.

3. Amodau’r dyfarniad

  • Telir y fwrsariaeth erbyn diwedd y semester cyntaf.
  • Telir y fwrsariaeth gan ddarparwr 3ydd parti, Study Plus.  Bydd yr holl ohebiaeth ar gyfer eich bwrsariaeth naill ai’n dod drwy’ch cyfrif SIMS neu student.info@cardiffstudyplus.co.uk
  • Y dyddiad presenoldeb gofynnol yw ychydig cyn y dyddiad talu, a rhaid i fyfyrwyr fod wedi ymrestru'n llawn ac yn bresennol ar y dyddiad hwnnw.
  • Os na chaiff incwm aelwyd ei gadarnhau i’r Brifysgol gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr cyn 15 Mehefin 2025, ni ellir dyfarnu bwrsariaeth.
  • Rhaid tynnu arian bwrsariaeth i gyfrif banc o'ch cyfrif Study Plus erbyn 30 Mehefin 2025.

4. Gweithdrefnau’r fwrsariaeth

  • Nid oes angen gwneud cais penodol.  Bydd eich cymhwysedd yn cael ei benderfynu drwy'r asesiad o incwm aelwyd a gynhelir drwy eich cais am Fenthyciad Myfyriwr yn y DU.
  • Gwnewch yn siŵr nad ydych yn ticio'r blwch ar y ffurflen asesu i atal eich caniatâd i rannu'r wybodaeth hon â ni. Os gwnewch hyn, ni fyddwch yn gallu cael eich ystyried ar gyfer bwrsariaeth Prifysgol Caerdydd.

5. Eithrio rhag talu bwrsariaeth

  • Rhaid i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf gael asesiad cyflawn terfynol o incwm eu haelwyd gan eu corff cyllido myfyrwyr yn y DU cyn y gellir cadarnhau bwrsariaeth.
  • Ni thelir bwrsariaeth i fyfyrwyr sy’n Gohirio eu Hastudiaethau. Os byddwch yn dychwelyd i'ch cwrs cyn diwedd y flwyddyn academaidd, caiff eich bwrsariaeth ar gyfer y flwyddyn honno ei hadfer.
  • Os byddwch yn tynnu'n ôl o'ch cwrs, bydd eich bwrsariaeth yn dod i ben.
  • Rhaid i fyfyrwyr fod yn talu o leiaf £6,000 o ffioedd dysgu yn 2024/25.
  • Ni ellir dyfarnu bwrsariaethau ar ôl 15 Mehefin 2025.
  • Rhaid tynnu arian bwrsariaeth i lawr o'u cyfrif Study Plus i gyfrif banc y myfyriwr erbyn 30 Mehefin 2025.
  • Nid yw incwm aelwyd sydd dros £35,000 yn gymwys ar gyfer bwrsariaethau prifysgololion.  Os yw incwm eich aelwyd yn gostwng mwy na 15% yn ystod y flwyddyn academaidd, gallwch gysylltu â’ch awdurdod dyfarnu i drafod a oes modd ailasesu eich cyllid myfyrwyr yn ystod y flwyddyn gyfredol. Os byddwn yn derbyn hysbysiad o'r newid i incwm eich aelwyd cyn 15 Mehefin 2025, bydd eich cymhwysedd am fwrsariaeth yn cael ei ailasesu.
  • Bydd unrhyw fyfyrwyr sy’n gohirio eu cais tan 2025/26 yn cael eu hystyried o dan unrhyw gynllun bwrsariaeth sydd ar gael bryd hynny.

Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â'r cynllun at studentconnect@caerdydd.ac.uk