Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Cofnodion Y Senedd 15 Mehefin 2022

Cofnodion Cyfarfod Senedd Prifysgol Caerdydd a Gynhaliwyd Ddydd Mercher 15 Mehefin 2022 am 2:15pm, drwy Zoom

Presenoldeb

Yr Athro Colin Riordan

A

Yr Athro Damien Murphy

Y

Yr Athro Rudolf Allemann

Y

Yr Athro Jim Murray

A

Yr Athro Stuart Allen

Y

Larissa Nelson

Y

Yr Athro Rachel Ashworth

A

Dr James Osborne

Y

Yr Athro Roger Behrend

A

Joanne Pagett

 

Tine Blomme

Y

Dr Jo Patterson

Y

Dr Paul Brennan

Y

Dr Juan Pereiro Viterbo

A

Yr Athro Kate Brain

Y

Dr Jamie Platts

A

Yr Athro Gill Bristow

A

Abyd Quinn-Aziz

Y

Yr Athro Marc Buehner

Y

Dr Caroline Rae

A

Dr Cindy Carter

A

Dr Emma Richards

A

Yr Athro David Clarke

Y

Kate Richards

Y

Kelsey Coward

 

Yr Athro Steve Riley

A

Yr Athro Trevor Dale

Y

Sebastian Ripley

Y

Dr Juliet Davis

A

Dr Josh Robinson

A

Yr Athro Lina Dencik

A

Sarah Saunders

A

Rhys Denton

A

Dr Andy Skyrme

A

Hannah Doe

Y

Yr Athro Peter Smowton

A

Dr Luiza Dominguez

Y

Dr Zbig Sobiesierski

Y

Gina Dunn

Y

Megan Somerville

Y

Helen Evans

Y

Helen Spittle

Y

Yr Athro Stewart Field

 

Tracey Stanley

Y

Yr Athro Dylan Foster Evans

Y

Yr Athro Ceri Sullivan

Y

Graham Getheridge

Y

Yr Athro Petroc Sumner

 

Chris Grieve

A

Yr Athro Peter Sutch

 

Yr Athro Mark Gumbleton

A

Yr Athro Patrick Sutton

 

Yr Athro Ian Hall

 

Orla Tarn

Y

Dr Thomas Hall

Y

Dr Catherine Teehan

Y

Yr Athro Ken Hamilton

Y

Gail Thomas

A

Dr Natasha Hammond-Browning

A

Dr Jonathan Thompson

Y

Yr Athro Ben Hannigan

Y

Dr Onur Tosun

A

Dr Alexander Harmer

Y

Dr Laurence Totelin

A

Yr Athro Adam Hedgecoe

Y

Charlotte Towlson

 

Yr Athro James Hegarty

A

Yr Athro Damian Walford Davies

Y

Yr Athro Mary Heimann

 

Dr Catherine Walsh

A

Dr Monika Hennemann

Y

Matt Walsh

Y

Yr Athro Joanne Hunt

A

Yr Athro Ian Weeks

Y

Yr Athro Nicola Innes

A

Yr Athro Keith Whitfield

A

Yr Athro Dai John

Y

Yr Athro David Whitaker

Y

Yr Athro Urfan Khaliq

Y

Yr Athro Roger Whitaker

Y

Yr Athro Alan Kwan

A

Yr Athro John Wild

A

Yr Athro Wolfgang Maier

 

Yr Athro Martin Willis

Y

Emmajane Milton

A

Yr Athro Jianzhong Wu

A

Claire Morgan

Y

  

Yn Bresennol:

Ms Katy Dale (cofnodion), Laura Davies, Dr Rob Davies, Ruth Davies, Rhodri Evans, Yr Athro Claire Gorrara, Dr Rob Gossedge, Tom Hay, Yr Athro Wenguo Jiang, Sue Midha, TJ Rawlinson, Dr Andrew Roberts, Yr Athro Karin Wahl-Jorgensen [o gofnod 971], Simon Wright (Ysgrifennydd), Yr Athro Helen Williams [o gofnod 974], Agnes Xavier-Phillips, Darren Xiberras [o gofnod 971]

964 Croeso a chyflwyniadau

Nodwyd mai'r Dirprwy Is-Ganghellor fyddai'n Cadeirio'r cyfarfod yn absenoldeb yr Is-Ganghellor. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, yn enwedig yr aelod o’r Cyngor a oedd yno’n arsylwr.

Cytunwyd i symud eitem 14 ar yr agenda (Proses Recriwtio ar gyfer Is-Ganghellor) cyn eitem 11 ar yr agenda (Adroddiad Dadansoddiad Canlyniadau a Throsolwg REF 2021).

965 Ymddiheuriadau am absenoldeb

Nodwyd

965.1  byddai'r ymddiheuriadau a dderbyniwyd yn cael eu cofnodi yn y cofnodion.

966 Datganiad Buddiannau

Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau o'r gofyniad iddynt ddatgelu unrhyw fuddiannau ariannol uniongyrchol neu anuniongyrchol a allai ddylanwadu ar eu barn. Dylid datgelu buddiannau cyn i eitem gael ei drafod, a dylai’r unigolyn dan sylw naill ai adael y cyfarfod neu beidio â chymryd rhan yn y drafodaeth, fel y bo’n briodol ar gyfer y rhan honno o’r agenda.

Nodwyd

966.1  ni wnaeth unrhyw aelod ddatgelu unrhyw fuddiannau.

967 Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Nodwyd

967.1  y dylid adolygu'r cofnodion ar gyfer gwallau teipio.

Penderfynwyd

967.2  cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Senedd ar 09 Mawrth 2022 (papur 21/831) yn amodol ar yr adolygiad uchod.

968 Materion sy’n codi

Nodwyd nad oedd unrhyw faterion yn codi.

969 Eitemau gan y Cadeirydd

Nodwyd nad oedd unrhyw eitemau gan y Cadeirydd.

970 Trafod a fydd y newidiadau i USS yn effeithio ar allu Prifysgol Caerdydd i recriwtio, cadw a dibynnu ar ewyllys da staff academaidd

Nodwyd

970.1 bod y Dirprwy Is-Ganghellor yn rhoi cyd-destun i'r eitem ar yr agenda:

.1  bod 14 aelod o’r Senedd wedi gofyn am gyfarfod arbennig o’r Senedd i drafod a phleidleisio ar y cynnig a ganlyn: “dylai’r Brifysgol fynnu’n gyhoeddus i’r USS gynnal gwerthusiad newydd sy’n gymharol ddarbodus, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, neu ddiweddaru gwerthusiad 2020 yng ngoleuni profiad, a gwneud cynnig digonol, cost-effeithiol i staff ar fyrder”;

.2  bod hyn wedi’i ddilyn gan gyfres o ymatebion gan, ac yn ôl at, Ysgrifennydd y Senedd ac Ysgrifennydd y Brifysgol a oedd yn canolbwyntio ar ddehongli pwerau’r Senedd, ac ar y berthynas rhwng y Senedd a’r Cyngor, a gyflwynwyd yn y Statud a’r Ordinhad;

.3  bod eitem agenda ddiwygiedig sy’n ganolog i’r drafodaeth (ac fel y'i cynhwysir yma) wedi ei chytuno gydag aelodau'r Senedd hynny;

.4  bod y Brifysgol ac UCU wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ar gynllun pensiwn yr USS a oedd yn gam hynod gadarnhaol;

.5  bod y mater, yn briodol, wedi’i godi yn y Pwyllgor Llywodraethu, lle penderfynwyd na thorrwyd yr Ordinhadau a’i bod yn bwysig ystyried sut yr oedd dehongliad y fframwaith cyfansoddiadol wedi’i gyfleu a dysgu o hyn yn gyd-destun adolygiad effeithiolrwydd y Senedd; byddai hyn yn sicrhau eglurder ar y berthynas rhwng y Cyngor a'r Senedd a nodwyd bod gwersi i'w dysgu o hyn;

970.2 bod yr eitem ar yr agenda wedi'i chyflwyno gan un o Aelodau’r Senedd a oedd wedi cynnig yr eitem, fel a ganlyn;

.1  nodwyd bod gan y Senedd ddyletswydd a chyfrifoldeb i gynghori'r Cyngor sef y Corff Llywodraethol ynglŷn â bygythiadau i ansawdd academaidd a bod yr Ordinhad yn nodi y bydd y Senedd yn adolygu dyletswyddau ac amodau gwasanaeth a phenodi Staff Academaidd ac yn cyflwyno argymhellion i’r Cyngor;

.2  bod dicter a rhwystredigaeth eang wedi bod ynglŷn â'r newidiadau i gynllun USS oedd wedi arwain at fandad ar gyfer gweithredu diwydiannol; bod y gweithredu diwydiannol wedi'i dynnu'n ôl ar ôl i'r Brifysgol a'r UCU lleol gytuno i ddull rhagweithiol o ddatrys y mater;

.3 bod y newidiadau i gynllun USS yn golygu ei fod bellach yn waeth na Chynllun Pensiwn yr Athrawon (TPS) a gynigir gan brifysgolion ar ôl-'92, a olygai y gallai'r Brifysgol fod yn llai deniadol o bosibl i ymgeiswyr o safon uchel ac iau;

.4  bod erthygl wedi’i chyhoeddi yn Nature Briefing ym mis Mai 2022 a oedd yn nodi bod cynnydd mewn ymddiswyddiadau o fewn y byd academaidd, gydag academyddion yn gadael ar gyfer rolau mewn diwydiant a’r gwasanaeth sifil ac yn rhagweld y byddai rhwng hanner cant y cant a dwy ran o dair o weithwyr yn gadael y byd academaidd oherwydd anfodlonrwydd a lludded;

.5  nad oedd bwriad i drafod manylion technegol y prisiad;

.6  y byddai amrywiaeth aelodaeth y Senedd yn rhoi ystod eang o sylwadau i'r Cyngor ar y pwnc hwn;

970.3 bod yr eitem ar yr agenda wedyn wedi’i hagor i sylwadau gan y rhai a oedd yn bresennol, a gwnaed y pwyntiau canlynol;

970.4  o fewn disgyblaeth Llenyddiaeth Saesneg, teimlwyd na allai'r Brifysgol ddibynnu ar fod yn sefydliad Grŵp Russell yn unig er mwyn denu staff dawnus;

970.5  bod staff iau yn gallu symud rhwng swyddi a sefydliadau yn hawdd ac felly'n fwy tebygol o adael y sefydliad;

970.6  bod dibyniaeth ar ewyllys da staff i wneud gwaith i gefnogi myfyrwyr, ochr yn ochr ac ar ben eu llwyth gwaith arferol, ac roedd rhai yn adolygu’r ewyllys da hwn yng ngoleuni newidiadau’r USS;

970.7  bod rhai meysydd yn sylwi bod nifer y ceisiadau yn gostwng a bod pryder ynghylch gostyngiad hirdymor yn nifer ac ansawdd yr ymgeiswyr; nodwyd bod gan rai disgyblaethau meddygol a gofal iechyd ymgeiswyr o'r GIG, a gallai'r cynllun pensiwn mwy deniadol o fewn y GIG atal rhai ymgeiswyr rhag gwneud cais;

970.8  y byddai'r newidiadau hefyd yn effeithio ar staff sy'n gysylltiedig yn academaidd (e.e. llyfrgellwyr ac arbenigwyr);

970.9  bod effaith negyddol sylweddol ar grantiau a chydweithio rhyngwladol oherwydd Brexit ac y gallai'r newidiadau pensiwn gael effaith negyddol bellach ar y gallu i ddenu talent o Ewrop, gan fod cynlluniau pensiwn y DU eisoes yn llai ffafriol na'r rhai yn yr UE;

970.10 bod teimlad nad oedd sefydliadau'n amddiffyn staff a'r sector Prifysgolion yn ei gyfanrwydd ynglŷn â’r newidiadau i'r USS; roedd teimladau o anniddigrwydd a morâl isel hefyd;

970.11  bod y newidiadau i gynllun USS wedi digwydd ar adeg o gythrwfl o fewn y sector AU, a oedd wedi effeithio ar y gallu i gefnogi staff a myfyrwyr, ac mae'n debygol y byddai hyn yn cael ei adlewyrchu cyn hir yng ngallu'r Brifysgol i recriwtio a chefnogi myfyrwyr.

Penderfynwyd

970.12  bod datganiad yn cael ei roi i'r Cyngor sy’n dweud bod y Senedd yn poeni y byddai newidiadau i USS yn cael effaith negyddol ar allu'r Brifysgol i recriwtio, cadw, a dibynnu ar ewyllys da staff rhagorol.

971 Adroddiad gan yr Is-Ganghellor

Derbyniwyd papur 21/832C 'Adroddiad yr Is-Ganghellor i'r Senedd'. Siaradodd y Dirprwy Is-Ganghellor am yr eitem hon.

Nodwyd

971.1 mynegwyd pryder ynghylch y cynnydd mewn ffioedd PGT Rhyngwladol ac a fyddai hyn yn effeithio ar allu’r sefydliad i recriwtio myfyrwyr; nodwyd ymhellach bod y gostyngiad presennol mewn ffioedd ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig a addysgir i gynfyfyrwyr yn talu’r cynnydd mewn ffioedd yn unig ac nad oedd benthyciadau ar gyfer astudio Ôl-raddedig wedi’u cynyddu yn unol â’r codiadau mewn costau byw, sy’n golygu nad oedd myfyrwyr presennol yn cael eu cymell i astudio ymhellach; nododd ymateb fod y cynnydd hwn wedi ei ystyried yn ofalus, gan fod y Brifysgol yn ymwybodol o'r risg o godi ffioedd, a bod y cynnydd yn unol â sefydliadau tebyg eraill; nodwyd hefyd y gostyngiad yng ngwerth ffioedd israddedigion, ynghyd â'r ffaith bod rhai myfyrwyr rhyngwladol yn ystyried cwrs llai costus megis un o ansawdd is.

972 Barn y Myfyrwyr

Derbyniwyd papur 21/833 'Barn y Myfyrwyr 2022'. Siaradodd Llywydd Undeb y Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

972.1 bod Barn y Myfyriwr wedi'i ffurfio o adborth a dderbyniwyd trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys ymatebion o'r Wythnos Siarad Myfyrwyr, a oedd wedi'u casglu i amlygu pedair thema allweddol (Cyswllt Myfyrwyr, Lefydd ar gyfer Myfyrwyr ac Oriau Agor y Campws, Gweithredu Diwydiannol a Dysgu Cyfunol);

972.2  bod y Senedd wedi croesawu a chanmol y ddogfen;

972.3  roeddent yn mynd i gynnwys a pharhau gydag eitemau a oedd wedi gweithio'n dda;

972.4  gofynnwyd i’r ddogfen gael ei rhoi ar wefan Undeb y Myfyrwyr er mwyn gallu ei rhannu â chydweithwyr;

972.5  bod modd ychwanegu rhagor o fanylion at y gwaith partneriaeth rhwng staff a myfyrwyr;

972.6  bod y data ar ddysgu cyfunol yn cael ei groesawu yn dystiolaeth am farn myfyrwyr am y pwnc hwn;

972.7  ynglŷn â llefydd i astudio ar y campws, nodwyd bod ystâd bresennol y Brifysgol yn llawn, a bod problemau yn ymwneud â mynd i’r afael â hyn a allai effeithio ar yr amserlen i’w datrys;

972.8  bod y Rhag Is-Ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr wedi diolch i dîm Undeb y Myfyrwyr am y ddogfen adeiladol a meddylgar; nodwyd bod mwyafrif y materion a amlygwyd yn yr adroddiad eisoes yn hysbys neu'n cael eu gweithredu; nodwyd hefyd bod Barn y Myfyrwyr yn rhan o sicrwydd blynyddol CCAUC ac y byddai ymatebion ffurfiol i'r argymhellion yn cael eu llunio a'u rhannu gyda'r Senedd a'r Cyngor yn yr hydref.

973 Diweddariad am y Llys ac ymgysylltu â rhanddeiliaid

Derbyniwyd papur 21/834C 'Diweddariad am y Llys ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid'. Siaradodd y Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

973.1 bod y Cyngor, ym mis Gorffennaf 2021, wedi cymeradwyo nifer o argymhellion gan Weithgor y Llysoedd, a oedd yn cynnwys yr argymhelliad i ddiddymu'r Llys; roedd y Cyfrin Gyngor bellach wedi cymeradwyo’r cais i ddiwygio’r Siarter a Statudau i ddileu cyfeiriadau at y Llys a byddai cyfarfod olaf y Llys yn cael ei gynnal ym mis Medi 2022;

973.2 bod ystyriaeth ofalus wedi'i rhoi i sut roedd aelodau allanol y Llys yn parhau i ymgysylltu â'r Brifysgol a chyflwynwyd hyn yn y papur;

973.3  gwahoddwyd y Senedd i gynnig rhanddeiliaid eraill y dylid ymgysylltu â hwy hefyd; cynigiwyd Pafiliwn Grangetown a Phanel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC); nodwyd bod ymgysylltu sylweddol â Phafiliwn Grangetown ac y byddai hyn yn cael ei ffurfioli.

Penderfynwyd

973.4 bod unrhyw awgrymiadau pellach am randdeiliaid yn cael eu rhannu gyda TJ Rawlinson ac Ed Bridges.

974 Proses recriwtio ar gyfer Is-Ganghellor

Derbyniwyd papur 21/838C 'Proses Recriwtio ar gyfer Is-Ganghellor'. Siaradodd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol am yr eitem hon.

Nodwyd

974.1 bod cyfnod swydd yr Is-Ganghellor yn dod i ben ar 31 Awst 2023. Roedd Ordinhad 7 yn cynnwys manylion am y weithdrefn i gefnogi penodi olynydd a'r angen i sefydlu Cyd-bwyllgor o'r Cyngor a'r Senedd;

974.2 nad oedd Ordinhad 7 yn pennu categorïau ar gyfer aelodau Senedd y Cyd-bwyllgor; roedd y papur yn awgrymu sut y gellid sicrhau cynrychiolaeth briodol ar draws gwahanol grwpiau cyfansoddol y Senedd ac roedd yn seiliedig ar arfer y gorffennol; pwysleisiwyd mai'r Senedd oedd i benderfynu aelodaeth y Cyd-Bwyllgor, ac roedd ganddo’r pŵer i fabwysiadu dull gwahanol pe dymunir;

974.3 bod Ordinhad 7 yn rhagnodi na allai aelodaeth Cyngor y Cyd-Bwyllgor gynnwys gweithwyr neu fyfyrwyr y Brifysgol; roedd y papur yn cynnig cynnwys cynrychiolydd myfyrwyr yn aelodaeth y Senedd oherwydd pwysigrwydd profiad myfyrwyr a newid yn y sector i gynnwys cynrychiolaeth myfyrwyr ers gosod y cynsail yn 1999 a’i ailadrodd yn 2011; awgrymwyd felly y dylid cyfuno'r categorïau Dirprwy Is-Ganghellor a Rhag Is-Ganghellor i ganiatáu ar gyfer cynrychiolydd myfyrwyr; nodwyd hefyd y byddai cynrychiolwyr myfyrwyr yn cael eu heithrio o gategori 4, yn unol â'r categorïau eraill;

974.4 bod y ffurflen enwebu yn cynnwys maes ar gyfer categorïau ond nad oedd yn nodi'r rhain i ganiatáu i benderfyniad y Senedd gael ei gofnodi;

974.5 bod rhai o aelodau'r Senedd yn teimlo y byddai categorïau aelodaeth yn cyfyngu ar y gynrychiolaeth academaidd ar y Cyd-bwyllgor, gan y teimlwyd mai cynrychiolaeth reolaethol yn hytrach na chynrychiolaeth academaidd oedd rolau'r Dirprwy Is-Ganghellor, y Rhag Is-Ganghellor a Phenaethiaid Ysgol; heriwyd y farn hon gan aelodau eraill o'r Senedd;

974.6 bod ffyrdd posibl eraill o gynnwys cynrychiolaeth myfyrwyr ar y Cyd-bwyllgor, megis gwahodd aelod sy'n fyfyriwr i fod yn arsylwr; nodwyd bod diwygio'r Ordinhadau ar hyn o bryd yn cael ei ystyried yn anymarferol ond awgrymwyd y dylid diwygio'r rhain cyn unrhyw recriwtio yn y dyfodol;

974.7 bod Llywydd Undeb y Myfyrwyr o blaid sicrhau cynrychiolaeth myfyrwyr, gan fod myfyrwyr yn brif randdeiliad i’r Brifysgol, a nododd fod hyn yn arfer mewn sefydliadau tebyg eraill;

974.8  y byddai'n anodd sicrhau cynrychiolwyr aelodaeth amrywiol y Senedd heb gategorïau; nodwyd hefyd a ellid ystyried cydbwysedd ar draws y colegau;

974.9  y byddai materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i'r broses;

974.10 y byddai aelodau’r Senedd yn pleidleisio dros y cynigion yn y papur gyda thri phwynt yn cael eu hegluro:

1. y byddai categori 3 (cynrychiolydd y myfyrwyr) yn cael ei benderfynu gan gynrychiolwyr y myfyrwyr ar y Senedd, ac;

2. na fyddai categori 4 yn cynnwys cynrychiolwyr myfyrwyr yn yr un modd ag nad yw eisoes yn cynnwys y Dirprwy Is-Ganghellor, y Rhag Is-Ganghellor a Phenaethiaid Ysgol;

3. pe bai mwyafrif yn pleidleisio yn erbyn y cynigion o fewn y papur, y byddai ail gynnig yn cael ei gyflwyno a phleidleisio arno, sef bod aelodaeth y Cyd-bwyllgor yn cael ei ffurfio o un aelod sy'n fyfyriwr i'w benderfynu gan fyfyrwyr sy'n aelodau o'r Senedd a tri aelod o'r Senedd;

974.11 pleidleisiwyd ar y cynigion yn y papur gyda 44 aelod yn bresennol, pleidleisiodd 23 o blaid, 17 yn erbyn a 4 yn ymatal.

Penderfynwyd

974.12 bod cyfansoddiad aelodaeth y Senedd o Gyd-bwyllgor y Cyngor a’r Senedd i’w gymeradwyo drwy bleidlais syml gan y mwyafrif fel a ganlyn:

1. Un o blith y Dirprwy Is-Ganghellor a Rhag Is-Gangellorion (a benodwyd gan y Dirprwy Is-Ganghellor a Rhag Is-Gangellorion);

2. Pennaeth Ysgol (a benodwyd gan Benaethiaid Ysgol);

3. Aelod sy’n fyfyrwyr (a benodwyd gan aelodau sy’n fyfyrwyr);

4. Aelod o'r Senedd (nad yw'n Ddirprwy Is-Ganghellor, Rhag Is-Ganghellor, Pennaeth Ysgol nac yn fyfyrwyr sy’n aelod;

974.13  bod y Senedd wedi awgrymu bod y Cyngor yn adolygu Ordinhad 7 i gynnwys y posibilrwydd o aelodaeth i fyfyrwyr o fewn aelodau'r Cyngor o'r Cyd-bwyllgor, cyn recriwtio Is-Ganghellor yn y dyfodol.

975 Adroddiad Dadansoddiad Canlyniadau a Throsolwg REF 2021

Derbyniwyd papur 21/835C 'Adroddiad Dadansoddiad Canlyniadau a Throsolwg REF 2021'. Siaradodd y Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter am yr eitem hon.

Nodwyd

975.1 diolchwyd i'r holl staff a gyfrannodd at gyflwyniad REF y Brifysgol;

975.2 bod canlyniadau REF 2021 yn hynod gadarnhaol i'r Brifysgol;

975.3 bod cynnydd wedi bod mewn 3* a 4* o gyflwyniadau a bod 100% o staff cymwys y Brifysgol wedi cyflwyno i REF 2021;

975.4 bod y Brifysgol yn safle 14 am Bŵer Ymchwil, a oedd yn lleoliad cadarnhaol ar gyfer maint y sefydliad, ac yn 19eg ar gyfer Ansawdd ar 3.36; roedd gan y Brifysgol Dangosydd Perfformiad Allweddol o gyrraedd y 12 Uchaf ar gyfer Pŵer Ymchwil a fyddai wedi bod yn raddfa ansawdd gyffredinol o 3.56; nodwyd ei bod yn afrealistig i wella’r sgôr ansawdd o ystyried bod cyflwyniad y Brifysgol wedi dyblu mewn maint a bod y Brifysgol wedi gallu gwella ei Chyfartaledd Pwynt Gradd o 3.27 yn 2014 er gwaethaf y cynnydd ym maint y cyflwyniad;

975.5 bod yr asesiad o effaith yn gosod y Brifysgol yn yr 11eg safle yn gyffredinol ac yn gosod Caerdydd ar y brig yn y gwledydd datganoledig;

975.6 bod Caerdydd yn cyfrif am 58.13% o'r allbynnau 4* a gyflawnwyd yng Nghymru;

975.7 bod yna broblem ar draws y sector o ran rhagweld canlyniadau REF yn gywir a byddai hyn yn cael ei ystyried yn rhan o'r gwaith dilynol;

976.8 bod yr Athro Ken Hamilton wedi gadael y cyfarfod yn ystod yr eitem hon.

976 Adroddiad y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd i'r Senedd

Derbyniwyd papur 21/836 'Adroddiad y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd i'r Senedd'. Siaradodd y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

976.1 bod yr adroddiad yn cyflwyno'r materion allweddol a ystyriwyd gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC) yn ei gyfarfod ym mis Mai;

976.2 bod yr adroddiad yn cyflwyno nifer o fân newidiadau i reoliadau, yr argymhellwyd eu cymeradwyo gan ASQC;

976.3 bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr Amgylchiadau Esgusodol a'r pwysau cysylltiedig ar lwyth gwaith staff; byddai adolygiad ac ymgynghoriad pellach yn cael ei gynnal gyda staff gyda’r nod o weithredu newidiadau i’r polisi ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23; croesawyd unrhyw gynigion ar gyfer gwelliannau;

976.4 bod ASQC wedi cymeradwyo disgrifiad o’r rôl ar gyfer ymgynghorydd Allanol ar gyfer Safonau Academaidd a byddant yn dechrau recriwtio ar gyfer y rôl yn ystod haf 2022; bydd deiliad y swydd yn cynnig craffu allanol a chyngor arbenigol ar ganlyniadau gradd, sicrhau ansawdd a safonau academaidd;

976.5 bod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd i adolygu geiriad trawsgrifiadau canlyniadau a chyfathrebiadau cysylltiedig wedi adrodd i ASQC; Roedd ASQC wedi cymeradwyo’r argymhellion a oedd wedi’u rhoi ar waith o 1 Mehefin 2022;

976.6 mewn ymateb i bryderon a godwyd ynghylch cael gwared ar fodiwlau annibynnol yn gategori, byddai’r newid i Reoleiddio yn digwydd o 2023/24 a fyddai’n rhoi’r cyfle i Ysgolion yn 2022/23 adolygu’r nifer fach o raglenni a oedd yn cynnwys rhaglenni rhad ac am ddim ac i benderfynu a ellid cynnig y modiwlau yn fodiwlau dewisol; roedd hyn er mwyn sicrhau cydlyniant rhaglenni ac osgoi problemau gydag amserlennu;

976.7 bod yr Athro Urfan Khaliq a'r Athro Adam Hedgecoe wedi gadael y cyfarfod yn ystod yr eitem hon.

Penderfynwyd

976.8 bod geiriad adran 2.4 o adran 2A (Polisi Cyflwyno Traethodau Gradd Ymchwil) o'r Rheoliadau, Polisïau a Gweithdrefnau Ymchwil Ôl-raddedig yn cael ei adolygu gan fod gofyn am gyflwyno data mewn fformat PDF yn ei gwneud hi'n anodd cyrchu a thynnu data a manylion;

976.9 cymeradwyo'r diwygiadau i reoliadau a pholisïau, a nodir ym mhapur 21/844, yn amodol ar y gwelliant a amlinellwyd yn 976.8.

977 Adroddiad y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr i'r Senedd

Derbyniwyd papur 21/837 'Adroddiad y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr i'r Senedd'. Siaradodd y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

977.1 diolchwyd i aelodau'r Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am eu cefnogaeth yn ystod ei flwyddyn gyntaf ar waith;

977.2 bod y Fframwaith Polisi ar Bartneriaethau Gwella Addysgol trwy Rannu Myfyriol (y cyfeirir ato’n Rhannu Myfyriol), a oedd yn disodli'r Polisi Adolygu gan Gymheiriaid, yn cael ei gyflwyno i'w gymeradwyo, yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, a oedd wedi cymeradwyo agweddau datblygiadol a chefnogol ar y polisi;

977.3 bod Polisi Amserlennu diwygiedig hefyd yn cael ei gyflwyno i'w gymeradwyo, gyda'r nod o leihau nifer y newidiadau hwyr i amserlenni addysgu;

977.4 bod archwiliad mewnol wedi'i gynnal ar y camau a gymerwyd i fynd i'r afael â risgiau'r ACF a'i fod wedi rhoi sicrwydd cyfyngedig; o hyn, roedd fframwaith gweithredol wedi'i ddatblygu ar gyfer goruchwylio ymatebion i adborth myfyrwyr a phrosesau cynllunio gweithredu dilynol, ac roedd hyn wedi'i gymeradwyo gan y Pwyllgor.; byddai'r fframwaith yn dod i rym o fis Gorffennaf 2022 ac yn cynnwys gweithgareddau Gwasanaethau Proffesiynol;

977.5 bydd y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn cael ei chynnal ar 29 a 30 Mehefin, yn canolbwyntio ar thema llwyddiant myfyrwyr, ac anogir aelodau'r Senedd i fod yn bresennol.

Penderfynwyd

977.6 cymeradwyo'r Fframwaith Polisi ar Bartneriaethau Gwella Addysgol trwy'r Polisi Rhannu Myfyriol ac Amserlennu, a nodir ym mhapur 21/845.

978 Unrhyw Fater Arall

Nodwyd

978.1  diolchwyd i’r aelodau sy’n gadael y Senedd:

  • Hannah Doe (Llywydd Undeb y Myfyrwyr)
  • Chris Grieve (Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli)
  • Sebastian Ripley (Is-lywydd Parc y Mynydd Bychan)
  • Megan Somerville ( Is-lywydd Chwaraeon a Llywydd yr Undeb Athletaidd)
  • Charlotte Towlson (Is-lywydd Lles ac Ymgyrchoedd)
  • Orla Tarn (Is-lywydd Ôl-raddedigion)
  • Yr Athro Ian Hall (Pennaeth yr Ysgol Earth)
  • Yr Athro Peter Sutch (Pennaeth dros dro’r Ysgol LAWPL)
  • Yr Athro Steward Field (Pennaeth dros dro’r Ysgol LAWPL)
  • Yr Athro Jonathan Thompson (Pennaeth dros dro’r Ysgol MATHS)
  • Yr Athro Wolfgang Maier
  • Yr Athro Ben Hannigan
  • Dr Jamie Platts
  • Dr Emma Richards
  • Dr Josh Robinson
  • Dr Alexander Harmer
  • Kelsey Coward
  • Gail Thomas

978.2  bod cyfarfodydd y Senedd ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 wedi'u cadarnhau a'u bod ar 30 Tachwedd 2022, 1 Mawrth 2023 a 14 Mehefin 2023, i gyd am 2:15pm.

979 Eitemau a Dderbyniwyd i'w Cymeradwyo

Cymeradwyodd y Senedd y papurau canlynol:

Papur 21/844 Rheoliadau a Pholisïau a Argymhellir gan Bwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd

Papur 21/845 Polisïau a Argymhellir gan Bwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr

980 Eitemau a Dderbyniwyd er Gwybodaeth

Nododd y Senedd y papurau canlynol:

21/839 Partneriaeth â Phrifysgol Technoleg Dalian

21/840 Partneriaeth ryngwladol gyda Phrifysgol Namibia sy’n ymdrin â’r Genhadaeth ddinesig.

21/841 Cofnodion ASQC 17 Mai 2022

21/760 Cofnodion E&SEC 30 Mawrth 2022

21/842 Cofnodion E&SEC 23 Mai 2022

21/843 Teitlau Emeritws ac Emerita a ddyfarnwyd ers 1 Ebrill 2021

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Cofnodion Y Senedd 15 Mehefin 2022
Dyddiad dod i rym:05 Hydref 2022