Cofnodion Pwyllgor Llywodraethu 15 Mawrth 2021
- Dyddiad dod i rym:
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 141.6 KB)
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Llywodraethu Prifysgol Caerdydd a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2021, drwy Zoom, rhwng 10:00.
Yn Bresennol: Judith Fabian (Cadeirydd), Tomos Evans, yr Athro Karen Holford, Jan Juillerat, yr Athro Stuart Palmer, yr Athro Colin Riordan, y Barnwr Ray Singh, Dr Andy Skyrme a'r Athro Ceri Sullivan
Y sawl oedd yn bresennol: Orosia Asby [Cyfarwyddwr Gwasanaethau a Safonau Biolegol] ar gyfer cofnod 834, Rashi Jain [Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Brifysgol], Vari Jenkins [Cofnodwr y Cofnodion], Andrew Lane [Uwch Ymgynghorydd Sicrwydd] ar gyfer cofnod 830, Dr Jonathan Nicholls [Ymgynghorydd Allanol] , TJ Rawlinson [Cyfarwyddwr Cyn-fyfyrwyr a Datblygu] ar gyfer cofnod 839, Ruth Robertson [Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol], Claire Sanders [Prif Swyddog Gweithredu], Chris Shaw [Pennaeth Dros Dro Gonestrwydd Ymchwil, Llywodraethu a Moeseg] ar gyfer cofnod 835, Greg Spencer [Dirprwy Gyfarwyddwr Cynfyfyrwyr a Datblygu] ar gyfer cofnod 839
826 Materion Rhagarweiniol
Nodwyd Y Canlynol
826.1 bod Dr Jonathan Nicholls, Ymgynghorydd Allanol ar gyfer yr Adolygiad o Effeithiolrwydd Llywodraethu, wedi ei groesawu i'r cyfarfod fel arsylwr;
826.2 y cafwyd ymddiheuriadau gan Dr Joanna Newman a Len Richards.
827 Materion yn Codi
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/470, a nododd gynnydd o ran y materion a gododd o'r cyfarfod blaenorol ar 22 Ionawr 2021.
Nodwyd Y Canlynol
y dylid oedi o ran y papur ar Fabwysiadu a Diffinio Gwrthsemitiaeth ac Islamoffobia, a hynny er mwyn caniatáu rhagor o amser i drafod ac ystyried y mater hwn gan gynnwys a ddylid gwneud argymhelliad i'r Cyngor yn nes ymlaen.
828 Datganiadau Buddiant
Nodwyd Y Canlynol
828.1 y byddai'r Cadeirydd yn ei heithrio ei hun o'r eitem sy’n ystyried adnewyddu ei thymor.
829 Adroddiad gan yr Is-Bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/471, ‘Adroddiad gan yr Is-Bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant’. Gwahoddwyd yr Athro Karen Holford, Cadeirydd yr Is-bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
829.1 bod yr Is-bwyllgor wedi ystyried Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019-20, a oedd yn cynnwys yr adroddiad ar ddata am staff a myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2019-20. Mae’r data am staff y gwasanaethau proffesiynol yn dangos y dylid sicrhau rhagor o amrywiaeth o ystyried ein hamgylchedd diwylliannol, ac mae gwaith yn parhau i fynd i'r afael â hyn;
829.2 bod yr Is-bwyllgor wedi cymeradwyo creu Grŵp Llywio Anabledd. Mae'r Brifysgol yn gweithio tuag at gael cydnabyddiaeth o fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd a bydd y Grŵp Llywio yn cefnogi'r gwaith hwn;
829.3 bod yr Is-bwyllgor wedi trafod y papur ar Fabwysiadu a Diffinio Gwrthsemitiaeth ac Islamoffobia. Yn dilyn cryn drafodaeth yn yr Is-bwyllgor, pleidleisiwyd ar y penderfyniad a phenderfynwyd argymell mabwysiadu'r diffiniadau i'r Pwyllgor Llywodraethu. Fodd bynnag, nodwyd nad oedd y bleidlais yn unfrydol.
830 Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019/20
Derbyniwyd ac ystyriwyd papurau 20/472, 'Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019/20', 20/484 'Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol Atodiad 1 Adroddiad Cynnydd', 20/485 'Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol Atodiad 2 Data am Fyfyrwyr' a 20/486 ' Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol Atodiad 2 Data am Staff '. Gwahoddwyd Andrew Lane, Uwch-ymgynghorydd Sicrwydd, i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
830.1 bod effaith COVID-19 wedi arwain at newidiadau angenrheidiol mewn gwasanaethau a bod y rhain wedi effeithio mewn ffordd gadarnhaol a niweidiol ar faterion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI). Mae'r adroddiad blynyddol yn rhoi manylion am effaith COVID-19 ar EDI a’r effaith ar gynnydd o ran amcanion ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol (SEP);
830.2 bod Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi eu cynnal i benderfynu beth yw’r effaith ar EDI ac i liniaru yn erbyn effaith andwyol a bydd rhagor o wybodaeth am effaith COVID-19 yn deillio o brosiect “straeon COVID” a gyflwynwyd gan y grŵp Llywio Cydraddoldeb Rhyw;
830.3 oherwydd pandemig COVID-19, bod y Brifysgol wedi gorfod symud tuag at amgylchedd dysgu a gweithio rhithwir a bod hyn wedi arwain at welliannau angenrheidiol yn y systemau sy'n darparu dysgu rhithwir a chyfarfodydd. Mae rhagor i'w wneud er mwyn sicrhau amgylchedd dysgu a gweithio cwbl hygyrch;
830.4 y cafwyd cynnydd sylweddol o ran presenoldeb ar gyfer rhwydweithiau EDI a grwpiau cyswllt/swyddogion EDI. Oherwydd cynnydd yn y diddordeb, mae rhwydweithiau a grwpiau EDI wedi cynnal cyfarfodydd mwy rheolaidd sy'n canolbwyntio ar Anabledd a Hygyrchedd, Recriwtio a Chydraddoldeb Hiliol o fewn ychydig fisoedd;
830.5 bod rhai myfyrwyr nad oedden nhw’n gymwys ar gyfer y Gronfa Caledi yn dal i gael trafferth i gael gafael ar ddysgu ar-lein oherwydd manyleb isel eu caledwedd TG neu eu mynediad at y rhyngrwyd. bod Asesiad o Effaith Cydraddoldeb ar y cyd â'r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr wedi ei gwblhau i adolygu'r Gronfa Galedi ac y byddai isafswm materion manylebau TG yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar y cynllun gweithredu nesaf;
830.6 yr hoffai'r Cyngor gael crynodeb lefel uchel o'r datblygiadau a wnaed yn ystod 2019/20 a’r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf;
830.7 bod cwblhau hyfforddiant gorfodol wedi cynyddu gan fod staff yn gweithio o bell, ond bod gwelliannau i'w gwneud o hyd. Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Proffesiynol a Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yn adolygu sut i gynorthwyo staff i gwblhau gofynion hyfforddi, gan gynnwys defnyddio Adolygiadau o Ddatblygiad Personol.
Penderfynwyd Y Canlynol
830.8 argymell Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019/20 i'r Cyngor i'w gymeradwyo;
831 Adroddiad gan yr Is-Bwyllgor Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd
Derbyniwyd ac ystyriwyd i’w drafod bapur 20/491, ‘Adroddiad gan yr Is-Bwyllgor Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd’. Gwahoddwyd Karen Holford, Cadeirydd yr Is-Bwyllgor Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
831.1 bod yr adroddiad yn rhoi sicrwydd o'r gwaith a wnaed i fodloni safonau rheoli iechyd a diogelwch ISO45001 ac ISO14001 a rhagori arnynt;
831.2 bod y Brifysgol yn anelu at gyflawni safon fyd-eang ISO45003 yn rhan o'i strategaeth lles ac yn ystyried ar hyn o bryd y ffordd orau o gyflawni hyn;
831.3 bod yr Is-bwyllgor wedi cymeradwyo'r strategaeth cynaliadwyedd amgylcheddol i adlewyrchu'r argyfwng hinsawdd ac ymrwymiad y Brifysgol i gyflawni sero-net o ran carbon.
832 Datganiad Polisi ar Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd a Lles
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/474, 'Datganiad Polisi ar Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd a Lles'. Gwahoddwyd Karen Holford, Cadeirydd yr Is-Bwyllgor Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
832.1 bod y Datganiad Polisi ar Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd a Lles blynyddol yn adlewyrchu'r ymrwymiad i newid yn yr hinsawdd. Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i weithio tuag at gyflawni pob un o Nodau Datblygu Cynaliadwy Is-adran y Cenhedloedd Unedig (DSDG);
832.2 bod y Brifysgol yn ymrwymedig i gael data sy'n nodi a yw staff a myfyrwyr yn cymryd rhan yn y gefnogaeth o ran lles sy’n cael ei darparu mewn ymateb i COVID-19, ac mae arolwg cipolwg o’r staff ar y pwnc hwn yn cael ei gynnal yr wythnos hon. Gofynnwyd i Care First gyflwyno adroddiad dienw am nifer y staff sydd wedi cael cymorth tra eu bod ar absenoldeb salwch i ddychwelyd i'r gwaith;
832.3 nad oedd prif achos absenoldeb staff o reidrwydd yn gysylltiedig â’r gwaith a bod cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o absenoldeb sy'n gysylltiedig â materion y tu allan i'r gwaith;
Penderfynwyd Y Canlynol
832.4 cymeradwyo'r Datganiad Polisi ar Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd a Lles;
832.5 y dylid cyflwyno canlyniadau yr arolwg cipolwg o’r staff i'r Cyngor fel rhan o ddiweddariad yr arolwg o’r staff.
833 Adroddiad gan yr Is-Bwyllgor Safonau Biolegol a’r Cylch Gorchwyl
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/475C, 'Adroddiad gan yr Is-bwyllgor Safonau Biolegol'. Gwahoddwyd Orosia Asby, Cyfarwyddwr Gwasanaethau a Safonau Biolegol, i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
833.1 Hepgorwyd;
833.2 bod y Pwyllgor wedi cael ei sicrhau bod prosesau yn eu lle ac yn gweithio'n effeithiol i reoli mater trwyddedau prosiectau.
834 Adroddiad gan yr Is-Bwyllgor Gonestrwydd a Moeseg Ymchwil Agored
Derbyniwyd ac ystyriwyd Papur 20/476, ‘Adroddiad gan yr Is-Bwyllgor Gonestrwydd a Moeseg Ymchwil Agored’. Gwahoddwyd Chris Shaw, Pennaeth Dros Dro Gonestrwydd Ymchwil, Llywodraethu a Moeseg, i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
834.1 bod cyflwyno templedi Moeseg diwygiedig yr Ysgolion wedi cael eu gohirio tan fis Medi 2021 oherwydd effaith COVID;
834.2 bod cyfraddau cwblhau hyfforddiant gorfodol ym maes gonestrwydd ymchwil wedi cynyddu yn ystod y mis diwethaf a bod gwaith yn parhau i annog staff i’w gwblhau, gan ddefnyddio proses gyflwyno REF, rhwydweithiau ac Adolygiadau o Ddatblygiad Personol. y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi ynghylch pryd y bydd cyfathrebu â staff academaidd yn digwydd o fewn y cylch busnes;
834.3 bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi cadarnhau y gallai Data Personol barhau i gael ei drosglwyddo i'r UE ac oddi yno barhau yn ddigyfnewid am y tro.
835 Adolygiad o Effeithiolrwydd Llywodraethu
Gwahoddwyd Ruth Robertson, Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol, i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
835.1 bod yr ymgynghorydd allanol yn cynnal nifer o gyfarfodydd â rhanddeiliaid yn rhan o'r Adolygiad o Effeithiolrwydd Llywodraethu, i gynnwys cyfarfodydd un i un gyda chadeiryddion allweddol pwyllgorau ac uwch ddeiliaid swyddi, cyfarfodydd ag aelodau'r Cyngor, aelodau o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, y Senedd, a myfyrwyr ar draws disgyblaethau gwahanol a lefelau astudio. Arsylwyd nifer o Bwyllgorau'r Corff Llywodraethu ac mae disgwyl i grynodeb o'r canfyddiadau gael ei gyflwyno i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen, cyn cwblhau'r adroddiad terfynol y bwriedir ei orffen erbyn 21 Mai 2021.
836 Recriwtio Cadeirydd y Cyngor - Diweddariad
Gwahoddwyd Rashi Jain, Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Brifysgol, i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
836.1 bod y Cyfrin Gyngor wedi cymeradwyo'r newid yn y Statud i alluogi'r Brifysgol i ehangu nifer yr ymgeiswyr i gynnwys recriwtio allanol ar gyfer Cadeirydd y Cyngor ac mae'r broses gaffael ar y gweill i benodi asiantaeth i chwilio am ymgeiswyr;
836.2 bod cylch gorchwyl Pwyllgor Enwebiadau yn cael ei ystyried ar hyn o bryd;
836.3 y gall aelodaeth y Pwyllgor Enwebiadau amrywio yn ôl y Pwyllgor Dethol. Ar gyfer proses recriwtio Cadeirydd y Cyngor byddai'r ddau yn cael eu cadeirio gan Is-Gadeirydd y Cyngor;
836.4 y dylid rhoi ystyriaeth i aelod academaidd o'r Senedd neu aelod Senedd o'r Cyngor fel aelod o'r Pwyllgor Enwebiadau.
837 Matrics Sgiliau, Aelodaeth ac Amserlen Arfaethedig i leihau nifer yr Aelodau Lleyg
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/477C 'Matrics Sgiliau, Aelodaeth ac amserlen arfaethedig i leihau nifer yr Aelodau Lleyg. Gwahoddwyd Rashi Jain, Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Brifysgol, i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
837.1 mai 31 Rhagfyr 2021 yw diwedd tymor Cadeirydd y Cyngor, nid 31 Ionawr 2022 fel y nodwyd yn y papur;
837.2 bod ystyriaeth wedi'i rhoi i'r sgiliau sydd eu hangen ar draws y Corff Llywodraethol i gyd-fynd â strategaethau'r Brifysgol. Penderfynwyd y byddai arbenigedd mewn seilwaith digidol a chyfraith eiddo yn fanteisiol;
837.3 bod Perett Laver wedi gwahodd ceisiadau am raglen brentisiaeth genedlaethol ym maes llywodraethu gyda’r amcan o greu cyfleoedd i fynd i'r afael ag anghydbwysedd yn oedran yr aelodau yn y strwythurau llywodraethu.
Penderfynwyd Y Canlynol
837.4 bod y matrics sgiliau yn cael ei ddiweddaru i gynnwys sgiliau'r corff llywodraethu sydd eu hangen i gyd-fynd â strategaethau'r Brifysgol;
837.5 y byddai nifer aelodau lleyg y Cyngor yn cael ei leihau o 15 i 13 yn ystod y ddwy flynedd nesaf, yn unol ag argymhellion Adolygiad Powell; gan leihau’r nifer i 14 yn 2021/22 ac 11 yn 2022/23, ac y byddai hyn yn galluogi recriwtio dau aelod lleyg ychwanegol;
837.6 Hepgorwyd;
837.7 y bydd ymgynghori â'r unigolion eraill sy'n gymwys i'w hailbenodi ar Bwyllgorau'r Brifysgol, a'u hargymell i'r Cyngor, pe byddent yn dymuno aros am ail dymor;
837.8 Hepgorwyd;
837.9 Hepgorwyd;
Gadawodd y Cadeirydd y cyfarfod.
837.10 Hepgorwyd;
Ailymunodd y Cadeirydd â'r cyfarfod.
837.11 Hepgorwyd;
837.12 Hepgorwyd;
837.13 cyflwyno cynigion i weithredu'r newidiadau yng nghategorïau aelodaeth y Cyngor o ran staff y Senedd/staff academaidd yng nghyfarfod mis Mehefin;
837.14 y byddai Ysgrifennydd y Brifysgol yn ystyried y cyfle sy’n codi yn sgîl rhaglen y prentisiaethau llywodraethu ar y cyd â’r Is-bwyllgor EDI.
838 Côd Ymarfer Cyllid Allanol
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/478 'Côd Ymarfer Cyllid Allanol'. Gwahoddwyd TJ Rawlinson, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau â Chynfyfyrwyr, i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
838.1 bod y Cyngor wedi dirprwyo cyfrifoldeb am aelodaeth Panel Cynghori Arianwyr i'r Rhag Ganghellor y Parchedig Ganon Gareth Powell.
Penderfynwyd Y Canlynol
838.2 argymell y Côd Ymarfer Cyllid Allanol i'r Cyngor i'w gymeradwyo.
839 Crynodeb o Adolygiadau ac Argymhellion Llywodraethu - adroddiad cynnydd
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/479 'Crynodeb o Adolygiadau ac Argymhellion Llywodraethu - adroddiad cynnydd'. Gwahoddwyd Ruth Robertson, Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol, i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
839.1 y cafwyd pum adolygiad sylweddol o lywodraethu ers 2017 gyda chamau gweithredu yn yr arfaeth;
839.2 bod camau gweithredu yn sgîl Adolygiad Sefydliadol 2018 CCAUC ar y gweill ac mai’r bwriad oedd eu cwblhau y flwyddyn academaidd hon;
839.3 bod pob argymhelliad yn Adolygiad Powell 2019 wedi cychwyn, ac y bydd y Cynllun Dirprwyo yn flaenoriaeth i’w gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn academaidd hon;
839.4 bod y cynnydd yn unol â’r camau gweithredu a nodwyd yn Ymrwymiad i Weithredu y Siarter Lywodraethu yn ofyniad adrodd blynyddol i CCAUC.
Penderfynwyd Y Canlynol
839.5 mynd i'r afael â'r gyfres o safonau a rennir (Adolygiad o Effeithiolrwydd Llywodraethu 2017) yn unol â’r camau gweithredu yn yr Ymrwymiad i Weithredu;
839.6 gohirio’r Map Llywodraethu Digidol (Adolygiad o Effeithiolrwydd Llywodraethu 2017);
839.7 mynd i'r afael â gwaith i gefnogi holl aelodau'r Cyngor o ran eu cefnogi i gymryd rhan amlwg ym mywyd y Brifysgol (Adolygiad o Effeithiolrwydd Llywodraethu 2017) yn rhan o'r Ymrwymiadau i Weithredu;
839.8 blaenoriaethu'r Ymrwymiadau i Weithredu y mae'n rhaid cyfeirio'n benodol atynt yn Adroddiad Blynyddol y Brifysgol, ynghyd â'r rheiny sy'n ychwanegu'r gwerth mwyaf;
839.9 adolygu cynnydd yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Llywodraethu ym mis Medi 2021.
840 Datganiad Ynghylch Annibyniaeth
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/488 'Datganiad ynghylch Annibyniaeth'. Gwahoddwyd Ruth Robertson, Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol, i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
840.1 ei bod yn ofynnol yn ôl y Siarter Lywodraethu i'r Brifysgol fabwysiadu dull cadarn o reoli annibyniaeth a gwrthdaro buddiannau. Roedd Grŵp Ysgrifenyddion a Chlercod Cymru wedi dosbarthu canllawiau sy’n ymgorffori diffiniad o annibyniaeth ac egwyddorion annibyniaeth. Roedden nhw hefyd wedi cyhoeddi canllawiau gweithdrefnol ynghylch sicrhau annibyniaeth ond nid oedd hyn yn hollol gyson â geiriad yr egwyddorion.
Penderfynwyd Y Canlynol
840.2 mabwysiadu’r Diffiniad o Annibyniaeth, Egwyddorion Annibyniaeth a'r broses ddiwygiedig ar gyfer Sicrhau Annibyniaeth.
841 Newidiadau Mewn Ordinhadau
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/481 'Newidiadau mewn Ordinhadau'. Gwahoddwyd Ruth Robertson, Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol, i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
841.1 y rhoddwyd gwybod i’r Senedd ynghylch newidiadau yn Ordinhad 8 yn ei chyfarfod ar 24 Chwefror.
Penderfynwyd Y Canlynol
841.2 argymell i'r Cyngor gymeradwyo’r newidiadau yn Ordinhad 8.
842 Unrhyw Fater Arall
Adrodd ar gynnydd cynaliadwyedd yn y cwricwlwm
Nodwyd Y Canlynol
842.1 bod y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr, sydd wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Deon Cynaliadwyedd, yn adrodd am gynaliadwyedd yn y cwricwlwm.
Penderfynwyd Y Canlynol
842.2 gofyn i'r Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr ystyried sut y bydd adrodd yn digwydd ym maes cynaliadwyedd yn y cwricwlwm drwy ASQC a/neu'r Senedd, ac a all eitem sefydlog ar yr agenda gefnogi ffocws yn y maes hwn.
Adolygiad Llywodraethu o Gynaliadwyedd Amgylcheddol
Nodwyd Y Canlynol
842.3 y bydd diweddariad yn cael ei roi i'r Pwyllgor Llywodraethu ar y Papur Gwyn er mwyn i'r Cyngor ystyried panel ar sero-net ar gyfer carbon.
843 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Gwahoddwyd yr aelodau i adolygu cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2021, ac i gynnig sylwadau neu awgrymu newidiadau fel y bo’n briodol.
Penderfynwyd Y Canlynol
843.1 y cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2021 yn gofnod gwir a chywir o'r cyfarfod.
844 Agenda’r Cyfarfod Nesaf
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/482, 'Agenda’r Cyfarfod Nesaf'. Siaradodd Judith Fabian, Cadeirydd y Pwyllgor, am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
844.1 bod yr aelodau wedi cytuno ar agenda’r Pwyllgor Llywodraethu a drefnwyd ar gyfer 16 Mehefin 2021.
Tabl rheoli'r ddogfen
Teitl y ddogfen: | Cofnodion Pwyllgor Llywodraethu 15 Mawrth 2021 |
---|---|
Dyddiad dod i rym: | 11 Awst 2022 |