Cofnodion Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau 25 Mawrth 2021
- Dyddiad dod i rym:
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 144.2 KB)
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau Prifysgol Caerdydd a Gynhaliwyd Ddydd Iau 25 Mawrth 2021 am 10:00 drwy fideogynadledda
Yn bresennol: John Shakeshaft (Cadeirydd), yr Athro Colin Riordan, Hannah Doe, Tomos Evans, Yr Athro Karen Holford, Chris Jones, Jan Juillerat, Dr Steven Luke, yr Athro Stuart Palmer a David Simmons.
Y sawl oedd yn bresennol: Dev Biddlecombe, Ms Katy Dale (Cofnodion), Rashi Jain, Alison Jarvis, Sue Midha, Dr Jonathan Nicholls, Melanie Rimmer, Ruth Robertson, Claire Sanders a Rob Williams.
Ymddiheuriadau: Yr Athro Kim Graham
731 Croeso
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, yn enwedig Dr Jonathan Nicholls (a oedd yn cynnal Adolygiad Effeithiolrwydd Llywodraethu ar ran y Brifysgol) a Ruth Robertson (Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol).
732 Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Cafwyd ymddiheuriadau gan yr Athro Kim Graham.
733 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2021 (20/492C) fel cofnod cywir a gwir ac fe'u cymeradwywyd i gael eu llofnodi gan y Cadeirydd.
734 Materion yn Codi
Derbyniwyd papur 20/493, 'Materion yn Codi'.
Nodwyd Y Canlynol
734.1 y disgwylid y byddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Ystadau a gwarediadau ystadau yn cael ei chyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor, yn dilyn adolygiad yn yr Is-bwyllgor Ystadau a Seilwaith;
734.2 bod y Cadeirydd wedi ymgymryd â'r canlynol drwy Gam Gweithredu'r Cadeirydd:
.1 cymeradwyo newidiadau i'r Polisi Ffioedd Dysgu;
.2 cymeradwyo diwygiadau i'r Cynllun Ffioedd a Mynediad ar gyfer 2021/22 i ganiatáu eu cyflwyno i CCAUC.
735 Datgan Buddiannau
Atgoffodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor o'u dyletswydd i ddatgelu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl. Nodwyd datganiadau buddiant gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr ac Is-lywydd Addysg mewn perthynas â Chyfrifon Undeb y Myfyrwyr 2019/20 a Grant Bloc Undeb y Myfyrwyr.
736 Adroddiad gan yr Is-Ganghellor
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/494C, 'Adroddiad yr Is-Ganghellor i'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau'. Gwahoddwyd yr Is-Ganghellor i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
736.1 bod y Brifysgol yn parhau i adolygu'r ddarpariaeth addysg ddigidol a sut y byddai addysgu'n cael ei ddarparu wrth symud ymlaen, er mwyn sicrhau bod hyn yn gytbwys rhwng yr hyn yr oedd myfyrwyr ei eisiau a'r hyn y gallai staff ei ddarparu;
736.2 bod cyfradd uchel o gynigion cadarn diamod a oedd yn cyfeirio at fyfyrwyr a oedd yn gymwys ar gyfer y rhaglen astudio ac wedi derbyn cynnig gan y Brifysgol; roedd hyn yn uwch nag arfer a oedd yn gadarnhaol, ond roedd hefyd yn cynnwys nifer o fyfyrwyr gohiriedig ac felly nid oedd yn warant o fyfyrwyr yn dechrau astudio yn hydref 2021;
736.3 nad oedd canlyniadau gwerthuso modiwlau yn cydfynd yn uniongyrchol â data boddhad cwsmeriaid ac fe'u defnyddiwyd yn bennaf gan academyddion sy'n rhedeg cyrsiau i werthuso sut y cawsant eu derbyn; roedd y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect ynghylch Llais y Myfyrwyr i nodi ble mae adborth myfyrwyr yn cael ei gasglu a'i adolygu a byddai hyn yn rhoi darlun mwy cyfannol o foddhad myfyrwyr.
737 Adroddiad gan yr Is-Bwyllgor Buddsoddi a Bancio
Derbyniwyd ac ystyriwyd papurau 20/495C, 'Adroddiad gan Gadeirydd yr Is-bwyllgor Buddsoddi a Bancio'. Gwahoddwyd Cadeirydd yr Is-bwyllgor Buddsoddi a Bancio i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
737.1 bod y tap bondiau wedi'i gyhoeddi'n llwyddiannus;
737.2 y byddai'r Is-bwyllgor Buddsoddi a Bancio yn canolbwyntio yn y dyfodol ar sicrhau bod arian yn cael ei fuddsoddi'n ddoeth, bod rheolwyr cronfeydd yn cynhyrchu enillion da a bod cynnydd yn cael ei wneud ar y gronfa Ad-dalu Bondiau.
738 Penderfyniadau a wnaed gan yr Is-Ganghellor o dan awdurdod dirprwyedig
Derbyniwyd a nodwyd papur 20/496C, 'Penderfyniadau a wnaed gan yr Is-Ganghellor o dan Awdurdod Dirprwyedig'.
739 Dangosfwrdd adnoddau dynol
Derbyniwyd a nodwyd papur 20/497C, 'Dangosfwrdd Adnoddau Dynol'. Gwahoddwyd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
739.1 bod yr adroddiad yn cyflwyno ciplun o'r Brifysgol ar adeg benodol; roedd y data yn yr adroddiad hwn fel yr oedd o 31 Ionawr 2021;
739.2 bod y cyfrif pen a'r CALl wedi gostwng 1.6% ac 1.4% yn ystod y deuddeg mis diwethaf:
739.3 bod y Brifysgol yn parhau i fod yn fwy na 30% y KPI Staff Academaidd Rhyngwladol sef % a bod hyn yn parhau'n sefydlog;
739.4 bod absenoldeb oherwydd salwch wedi gostwng o 2.6% i 1.9% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf;
739.5 oherwydd rheolaethau recriwtio, bu gostyngiad sylweddol yn nifer yr hysbysebion o'u cymharu â blynyddoedd blaenorol;
739.6 yn dilyn cais yn y cyfarfod diwethaf i adrodd ar staff dros dro, byddai adrodd ar staff dros dro fel y'u diffinnir yn y ffurflen HESA fel rhai annodweddiadol yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau o'r flwyddyn academaidd nesaf;
739.7 bod cynnydd mewn cystadleuaeth yn y farchnad lafur mewn rhai meysydd (e.e. TG) ond bod cyfleoedd a ddaw o ffyrdd newydd o weithio yn caniatáu recriwtio o gronfa ehangach; nid oedd y Brifysgol wedi gweld problemau o ran cadw staff ac roedd yn awyddus i ddatblygu'r rheini o fewn y gweithlu ochr yn ochr â chyflwyno sgiliau newydd;
739.8 nad oedd yn ymddangos bod newidiadau sylweddol ym mhatrwm absenoldeb sy'n gysylltiedig â straen oherwydd COVID-19; cymerwyd achosion o straen o ddifrif a chafodd manylion eu monitro drwy'r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd; nodwyd hefyd, yn ystod COVID-19, y bu cynnydd mewn straen y tu allan i'r gwaith (e.e., ariannol, iechyd) ac felly ni fyddai pob achos o straen yn gysylltiedig â gwaith.
Penderfynwyd Y Canlynol
739.9 i'r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ac Ysgrifennydd y Brifysgol drafod fformat yr adroddiad hwn ar gyfer y Cyngor yn y dyfodol;
739.10 i eglurder gael ei ddarparu ar y gwahaniaeth rhwng y categorïau absenoldeb oherwydd salwch o'r enw "pawb" a "phob un arall".
740 Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Bensiynau
Derbyniwyd a nodwyd papur 20/521C, 'Diweddariad pensiynau'. Gwahoddwyd y Prif Swyddog Ariannol i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
740.1 bod pensiynau wedi'u nodi fel risg ar gofrestr risgiau’r Brifysgol;
Cynllun Pensiwn Prifysgolion (USS)
740.2 [Hepgorwyd]
740.3 [Hepgorwyd]
740.4 bod trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda'r Cyd-bwyllgor Negodi (JNC) ynghylch diwygio budd-daliadau;
740.5 bod bwrdd USS yn cyfarfod i ystyried ymateb i UUK; disgwylid y byddai cyflogwyr yn cael papur ymgynghori gan UUK ar ôl y Pasg, gyda'r meysydd allweddol yn gymorth cyfamod, ailstrwythuro budd-daliadau a'r lefelau cyfraniadau y byddent yn barod i'w talu;
740.6 disgwylid y byddai USS yn dechrau ymgynghoriad ffurfiol gydag aelodau yn yr Hydref ac unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt a weithredir o Wanwyn 2022;
740.7 [Hepgorwyd]
740.8 [Hepgorwyd]
740.9 [Hepgorwyd]
740.10 bod hyn yn parhau yn fater anodd i'r sector cyfan;
Cynllun Pensiwn Prifysgol Caerdydd (CUPF)
740.11 [Hepgorwyd]
740.12 [Hepgorwyd]
740.13 [Hepgorwyd]
740.14 [Hepgorwyd]
740.15 [Hepgorwyd]
Penderfynwyd Y Canlynol
740.16 y byddai'r Prif Swyddog Ariannol ac Ysgrifennydd y Brifysgol yn trafod cyfarfod â Dr Pretty Sagoo.
741 Adroddiad Cyllid (Cyfrifon Rheoli Ariannol)
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/501C, 'Adroddiad Cyllid'. Gwahoddwyd y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
741.1 [Hepgorwyd]
741.2 [Hepgorwyd]
741.3 roedd y Brifysgol hefyd wedi elwa ar rywfaint o gyfalafu a chynnydd mewn cyllid grant;
- bod nifer o ddarpariaethau mewn perthynas â'r gwarged hwn:
.1 [Hepgorwyd]
.2 [Hepgorwyd]
.3 [Hepgorwyd]
.4 [Hepgorwyd]
.5 [Hepgorwyd]
741.5 y byddai'r gyllideb yn cael ei hadolygu eto ar ôl y Pasg a bod rhagolwg pellach yn cael ei gynnal.
742 Diweddariad ar Amcanestyniadau Ariannol 2021/22
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/522C, 'Amcanestyniadau Ariannol 2021/22'. Gwahoddwyd y Prif Swyddog Ariannol i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
742.1 ei fod yn gynnar iawn o hyd yn y cylch cynllunio a bod y papur yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfeiriad teithio ac amcangyfrifon gorau cyfredol;
742.2 [Hepgorwyd]
742.3 [Hepgorwyd]
742.4 bod llawer o rannau sy'n symud o hyd mewn perthynas â'r ffigurau hyn:
.1 sut yr edrychwyd ar y Brifysgol yn rhyngwladol am ei hymchwil a'i haddysgu;
.2 sut y byddai'r profiad dysgu yn edrych ar gyfer 2021/22;
.3 ei bod yn ymddangos bod myfyrwyr yn oedi cyn gwneud penderfyniad cadarn nes bod mwy o eglurder ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer 21/22; roedd niferoedd israddedigion a PGT myfyrwyr cartref yn edrych yn gryf ond roedd rhywfaint o ddirywiad yn y farchnad PGT Rhyngwladol;
742.5 bod trafodaethau'n cael eu cynnal gydag Ysgolion ar sefyllfa'r gyllideb ar gyfer 2021/22 a'r goblygiadau i niferoedd myfyrwyr;
742.6 y disgwylid y byddai dealltwriaeth gliriach o'r sefyllfa mewn pryd ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Mehefin; byddai diweddariad hefyd ar y blynyddoedd i ddod yn y cyfarfod hwnnw;
742.7 bod y Pwyllgor yn croesawu'r naratif a'r wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan y papur.
743 Diweddariad ar CIC
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/498C, 'Diweddariad ar Gampws Arloesedd Caerdydd'. Gwahoddwyd y Dirprwy Is-Ganghellor i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
743.1 na fu unrhyw bwysau cost pellach i'r prosiect, ac eithrio'r rhai mewn perthynas â COVID-19;
743.2 bod dyddiadau cwblhau diwygiedig wedi cael eu cynnwys yn y papur a byddai diweddariad ar lafar yn cael ei ddarparu i'r Cyngor yn ei gyfarfod ar 19 Ebrill;
743.3 [Hepgorwyd]
743.4 lle'r oedd risgiau wedi'u cau heb ddefnyddio'r gyllideb a ddyrannwyd neu wedi lleihau gwerth, bod gweddill yr arian yn cael ei symud i gyllideb wrth gefn ar gyfer y prosiect.
744 Cyfrifon undeb y myfyrwyr 2019/20 ac adroddiad effaith
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/499C, 'Cyfrifon Undeb y Myfyrwyr 2019/20 ac Adroddiad Effaith'. Gwahoddwyd Prif Weithredwr Undeb y Myfyrwyr i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
744.1 bod Daniel Palmer (Prif Weithredwr Undeb y Myfyrwyr) wedi ymuno â'r cyfarfod i gyflwyno'r eitem hon;
744.2 bod y Cyfrifon Blynyddol yn cael eu derbyn yn hwyrach nag arfer, oherwydd oedi wrth archwilio'r cyfrifon oherwydd COVID-19;
744.3 bod Cyfrifon Blynyddol 2019/20 wedi cael eu cymeradwyo gan yr Ymddiriedolwyr a'u llofnodi gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr a'r Archwilwyr;
744.4 er gwaethaf y flwyddyn anodd, roedd Undeb y Myfyrwyr wedi perfformio'n dda, ac enillodd bleidlais i gael ei datgan yn Undeb Myfyrwyr Cymru y Flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol;
744.5 bod y rhan fwyaf o'r incwm blynyddol wedi'i godi erbyn y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020;
744.6 [Hepgorwyd]
744.7 [Hepgorwyd]
744.8 [Hepgorwyd]
744.9 [Hepgorwyd]
745 Grant Bloc Undeb y Myfyrwyr 2021/22
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/500C, 'Cais am Grant Bloc UM'. Gwahoddwyd Prif Weithredwr Undeb y Myfyrwyr i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
745.1 bod y cyfyngiadau symud estynedig parhaus wedi lleihau costau;
745.2 bod Undeb y Myfyrwyr yn optimistaidd o hyd am flwyddyn academaidd 2021/22 ac yn dychwelyd rhai gweithgareddau, er y disgwylir y byddai'n dychwelyd yn llawn i'r gwaith arferol; disgwylid y byddai'r gwasanaethau'n parhau mewn fformat cyfunol;
745.3 bod semester cyntaf y flwyddyn academaidd yn bwysig er mwyn creu sefyllfa ariannol gref a chynnig cymorth i fyfyrwyr;
745.4 bod diolch yn cael ei estyn i'r Brifysgol ac i'r Prif Swyddog Gweithredu am eu cefnogaeth;
745.5 [Hepgorwyd]
745.6 y byddai Undeb y Myfyrwyr yn croesawu unrhyw gymorth ariannol pellach pe bai ar gael;
745.7 [Hepgorwyd]
Penderfynwyd Y Canlynol
745.8 argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo Grant Bloc Undeb y Myfyrwyr ar gyfer 2021/22.
746 Ffurflen TRAC
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/503C ‘Ffurflen TRAC 19-20’. Gwahoddwyd y Prif Swyddog Ariannol i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd Y Canlynol
746.1 bod y ffurflen TRAC yn ofyniad blynyddol ac roedd yn ofynnol i'r ffurflen hon gael ei chyflwyno erbyn 31 Mawrth 2021;
746.2 bod cynnydd wedi bod yn y broses o adennill costau economaidd ar gyfer addysgu a ariennir gan y cyhoedd ond gostyngiad yn yr adferiad ar gyfer addysgu nad yw'n cael ei ariannu'n gyhoeddus; cafodd COVID-19 effaith ar hyn ond cafodd elfennau eraill effaith hefyd;
746.3 bu gwelliant yn y gyfradd adfer o ymchwil yn 19/20; cafwyd trafodaeth ar draws y sector ar gyfraddau adennill ar gyfer gorbenion gan fod llawer o sefydliadau'n gweld problem yn y maes hwn ac roedd UKRI yn ystyried a ddylid dal y rhain drosodd;
746.4 bod cynnydd wedi bod yn yr elw ar gyfer cynaliadwyedd a buddsoddi; oherwydd diffygion blaenorol, mae hyn yn is nag yr oedd y Brifysgol yn ei dargedu yn y dyfodol;
746.5 oherwydd COVID-19, casglwyd data dyrannu amser gan ddefnyddio arolygon dyrannu amser yn hytrach na'r model dyrannu llwyth gwaith, gan fod y model wedi'i oedi; yn y tymor hwy, byddai'r model dyrannu llwyth gwaith yn cael ei ddefnyddio a'i fireinio i greu barn fwy cyfannol;
746.6 bod y Brifysgol yn adolygu'r broses o ddyrannu adnoddau ar draws ysgolion a byddai'n dod â phapur ar hyn i gyfarfod yn y dyfodol.
Penderfynwyd Y Canlynol
746.7 i gymeradwyo'r ffurflen TRAC ar gyfer 2019/20.
747 Unrhyw Fater Arall
Nodwyd Y Canlynol
747.1 [Hepgorwyd]
747.2 [Hepgorwyd]
747.3 [Hepgorwyd]
748 Agenda’r Cyfarfod Nesaf
Derbyniwyd papur 20/502, 'Agenda'r cyfarfod nesaf'.
Nodwyd Y Canlynol
748.1 oherwydd y busnes i'w wneud, byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei ymestyn.
Tabl rheoli'r ddogfen
Teitl y ddogfen: | Cofnodion Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau 25 Mawrth 2021 |
---|---|
Dyddiad dod i rym: | 11 Awst 2022 |