Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Archwilio a Risgiau 25.02.2021

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Archwilio a Risgiau Prifysgol Caerdydd a Gynhaliwyd Ddydd Iau 25 Chwefror 2021 dros Zoom, am 10:00.

Yn bresennol: Michael Hampson (Cadeirydd), Dónall Curtin, Dr Janet Wademan ac Agnes Xavier-Phillips.

Mynychwyr: Yr Athro Colin Riordan (Is-Ganghellor), Katherine Brieger (ARUP, am funud 898.28) Jason Clarke (PwC), Clare Eveleigh (Uwch Archwilydd), Laura Hallez (Uwch Gynghorydd Risg), Phil Hodgson (ARUP, am funud 898. 28), Rashi Jain (Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Brifysgol), Alison Jarvis (Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ariannol), Vari Jenkins (Cadw Cofnodion), Karl Jones (Gwasanaethau TG, am gofnod 898.5), Faye Lloyd (Pennaeth Archwilio Mewnol) , Paul Merison (TIAA, am gofnod 898.5), Dr Jonathan Nicholls (arsylwr allanol), Ruth Robertson (Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol), Claire Sanders (Prif Swyddog Gweithredu) a Robert Williams (Prif Swyddog Ariannol).

892 Materion rhagarweiniol

Nodwyd y canlynol

892.1 y cafwyd ymddiheuriadau gan Jason Clarke, PwC, a Paul Benjamin;

892.2 bod y Cadeirydd wedi croesawu Dr Jonathan Nicholls, sy'n cynnal Adolygiad Effeithiolrwydd Llywodraethu 2021, fel arsylwr.  Rhoddodd Dr Nicholls gyflwyniad i'r Pwyllgor o'i brofiad proffesiynol.

893 Materion yn codi o’r cofnodion

Derbyniwyd ac ystyriwyd er gwybodaeth bapur 20/445, 'Materion yn codi o’r cyfarfod blaenorol.

Nodwyd y canlynol

893.1 bod gweithdrefnau wedi'u diwygio mewn perthynas â chofnod 867.5, yn dilyn adroddiad ARUP, i ddangos y bydd rheoliadau caffael yn cael eu hadolygu os bydd unrhyw newidiadau i gwmpas;

893.2 Hepgorwyd;

893.3 Hepgorwyd;

893.4 Hepgorwyd;

893.5 bod y tap bond £100M wedi'i gyhoeddi'n llwyddiannus yr wythnos diwethaf;

893.6 Hepgorwyd;

893.7 mewn perthynas â chofnod 878.6, mae'r gwahaniaeth yn y niferoedd a adroddwyd yn yr Adroddiad Cwynion a'r Llythyr Sicrwydd yn deillio o ddau fesur gwahanol.  Mae'r papur cyllid yn nodi nifer yr hawliadau myfyrwyr a staff a'r gwerth sydd arnynt sy'n amodol ar groniadau ar ddiwedd y flwyddyn, yn seiliedig ar y tebygolrwydd y bydd taliad i setlo yn dilyn.  Mae'r papur cwynion yn ymwneud â'r union hawliadau a dalwyd yn ystod y cyfnodau hynny;

893.8 bod y Prif Swyddog Gweithredu, mewn perthynas â chofnod 881.4, wedi cynnal trafodaeth lawn ynghylch risg gyda Bwrdd Gweithredol y Brifysgol a Phennaeth Archwilio Mewnol.  Mae'r tîm Archwilio Mewnol wrthi'n recriwtio ar gyfer Uwch Archwilydd ac mae gwaith yn mynd rhagddo i gyflawni gwaith y cytunwyd arno eisoes.  Unwaith y byddwn yn gwybod y capasiti ar gyfer gwaith, caiff trafodaethau pellach ynghylch meysydd gweithgarwch ychwanegol eu cynnal.  Bydd map sicrwydd lefel uchel yn helpu i nodi ar beth y bydd y gwaith yn canolbwyntio wrth symud ymlaen;

893.9 y bydd yr Adolygiad Blynyddol Archwiliad Allanol yn cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor a'r aelodau Cyllid yn gynnar yr wythnos nesaf.

Penderfynwyd y canlynol

893.10 rhannu'r papur Sefyllfa Ariannol a gafwyd gan y Cyngor ym mis Chwefror, â'r Pwyllgor.

893.11 rhannu'r gwaith mapio yn erbyn gofynion Côd Rheolaeth Ariannol CCAUC â'r pwyllgor (cofnod 876.3)

894 Datganiadau buddiant

894.1 Ni chafwyd unrhyw ddatgan buddiant.

895 Cofrestr risgiau

Cafwyd ac ystyriwyd ar gyfer papur trafod 20/446C, 'Cofrestr Risgiau'. Gwahoddwyd yr Is-Ganghellor i siarad am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

895.1 Hepgorwyd;

895.2 bod y Cyngor wedi trafod manteision gwireddu prosiectau cyfalaf unwaith y bydd adeiladau'n weithredol.  Bydd yr Is-bwyllgor Ystadau a Seilwaith a'r Is-bwyllgor Buddsoddi a Bancio yn adolygu risgiau er mwyn sicrhau bod buddsoddiadau'n creu'r manteision a ragwelir.  Byddai unrhyw faterion a oedd yn peri risg sylweddol yn cael ei gyflwyno'r Pwyllgor Archwilio a Risgiau;

895.3 Hepgorwyd;

895.4 ei bod hi'n bwysig adlewyrchu'r risgiau a nodwyd yn gywir gydag iaith gytbwys ac ystyriol;

Penderfynwyd y canlynol

895.5 y Prif Swyddog Ariannol a'r Uwch Gynghorydd Risgiau i adolygu'r manteision a wireddwyd yn y gofrestr risgiau;

895.6 yr Is-Ganghellor, y Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Brifysgol a'r Uwch Gynghorydd Risg i ailystyried y cyfeiriad at Tsieina yn y Gofrestr Risgiau er mwyn adolygu a yw risgiau'n cael eu hadlewyrchu'n briodol;

895.7 Uwch Gynghorydd Risgiau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu'r gofrestr risgiau a'r amserlen yng nghyfarfod mis Mehefin.

Gadawodd yr Uwch Gynghorydd Risgiau y cyfarfod ar ôl yr eitem hon.

896 Digwyddiadau byw

Cafwyd ac ystyriwyd ar gyfer papur trafod 20/447HC, 'Digwyddiadau Byw'.  Gwahoddwyd yr Is-Ganghellor i siarad am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

896.1 y gall y Tasglu wythnosol y Coronafeirws symud i gyfarfodydd bob pythefnos, yn dibynnu ar anwadalwch y sefyllfa.

896.2 Hepgorwyd;

896.3 Hepgorwyd;

896.4 nad oes adroddiad ymgyfreitha i'r Pwyllgor Archwilio a Risgiau ar hyn o bryd.  Gallai adroddiad ar ymgyfreitha sydd â photensial i gael effaith ariannol fawr helpu i amlygu goblygiadau ar gyfer enw da a gellid ei dderbyn fel rhan o'r adroddiadau a chyfrifon;

Penderfynwyd y canlynol

896.5 Y Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Brifysgol i adolygu argaeledd a chyfrifoldeb adroddiadau ymgyfreitha a dychwelyd argymhelliad i'r Pwyllgor Archwilio a Risgiau i'w ystyried.

897 Adroddiad Cynnydd 2020-2021 yn erbyn Rhaglen Archwilio Mewnol

Cafwyd ac ystyriwyd er mwyn gwneud penderfyniad bapur 20/448C, ‘Adroddiad Cynnydd yn Erbyn Rhaglen Archwilio Mewnol. Gwahoddwyd Faye Lloyd, Pennaeth Archwilio Mewnol, i siarad am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

897.1 bod y tîm Archwilio Mewnol yn recriwtio ar gyfer swydd wag ar hyn o bryd felly efallai y bydd perygl o beidio â chwblhau'r cynllun archwilio mewnol yn unol â'r amserlen;

897.2 bod yr holl adroddiadau archwilio mewnol wedi'u cyflawni yn unol â'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol y cytunwyd arnynt, a oedd yn cynnwys yr ymatebion rheoli;

897.3 Hepgorwyd;

Penderfynwyd y canlynol

897.4 Hepgorwyd;

898 Pwyntiau Trafod ar gyfer Adroddiadau Archwilio Mewnol

Derbyniwyd ac ystyriwyd ar gyfer papur trafod 20/449C, ‘Pwyntiau Trafod ar gyfer Adroddiadau Archwilio Mewnol’. Gwahoddwyd Faye Lloyd, Pennaeth Archwilio Mewnol, i siarad am yr eitem hon.

Côd Ymarfer UUK ar gyfer Rheoli Tai Myfyrwyr

Nodwyd y canlynol

898.1 bod pwyslais allweddol yn yr adroddiad ar sicrhau diogelwch tân.

Ffarmacolegol CTR

Nodwyd y canlynol

898.2 y bydd archwiliad ar ddiogelwch gwybodaeth ar gyfer yr uned treialon clinigol.

Penderfynwyd y canlynol

898.3 byddai aelodau'r Pwyllgor yn adolygu'r adroddiad i benderfynu a oedd angen eglurhad pellach ynghylch diogelwch data personol.

Yswiriant

Nodwyd y canlynol

898.4 bod yr adroddiad yn nodi'r gwelliannau sy'n ofynnol o ran y sgiliau a'r rheolaeth sydd ar gael yn y Brifysgol, a fydd yn cael eu datblygu dros yr haf;

Cydymffurfiaeth PCI-DSS

Nodwyd y canlynol

898.5 Ymunodd Paul Merison, TIAA, a Karl Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, TG y Brifysgol, â'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.  Rhoddodd Paul Merison grynodeb o'r adroddiad a'r argymhellion;

898.6 y bydd angen cyllid pellach a phrosiect i hwyluso gwelliannau, ond gwnaed cynnydd sylweddol;

898.7 bod seilwaith TG da ar gyfer canfod materion.  Crëwyd gweithgorau ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â phrosesu trafodion PCI-DSS ac mae unigolion yn ymgymryd â hyfforddiant gorfodol;

Aeddfedrwydd Seiberddiogelwch

Nodwyd y canlynol

898.8 Rhoddodd Paul Merison grynodeb o'r adroddiad a'r argymhellion, ac yna rhoddodd Karl Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, TG y Brifysgol, gyflwyniad;

898.9 bod adran TG y Brifysgol yn gweithio i gyflawni o leiaf asesiad aeddfedrwydd lefel 3 ar draws yr ystod o feysydd, a fydd yn gofyn am gamau gweithredu yn erbyn Ymwybyddiaeth Addysg Defnyddwyr, Rheoli Cyfryngau Symudol, Ffurfweddiad Diogel, Rheoli Digwyddiadau a Monitro a Gweithio o Gartref;

898.10  nad yw gweithredu Rheolaeth Cyfryngau Symudol llym o reidrwydd yn briodol yng nghyd-destun y Brifysgol, lle mae myfyrwyr yn ogystal â staff yn defnyddio'r rhwydwaith TG. Mae mesurau ar waith i liniaru risgiau dyfeisiau nad ydynt yn cael eu rheoli megis sganio rhwydwaith yn rheolaidd

898.11 y bydd y Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Brifysgol yn cael gwybod am unrhyw faterion y mae angen eu huwchgyfeirio;

898.12 bod y Pwyllgor wedi cwestiynu'r risg sy'n gysylltiedig ag unigolion sy'n defnyddio cyfrif ebost y Brifysgol ar gyfer negeseuon ebost personol;

898.13 bod Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yn adolygu cydymffurfiaeth hyfforddiant diogelwch gwybodaeth ac yn archwilio cyfleoedd i roi pwyslais drwy Adolygiadau Datblygiad Personol a gorfodi;

Penderfynwyd y canlynol

898.14 Y Prif Swyddog Gweithredu i adolygu'r Polisi TG er mwyn penderfynu i ba raddau y mae'r defnydd o gyfrifon ebost at ddefnydd personol yn cael ei annog;

898.15 Aelod o'r Pwyllgor i rannu eu dogfennau a holi cwestiynau am Seiberddiogelwch;

898.16 Y Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Brifysgol i roi cynllun amlinellol i'r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf, i nodi sut y caiff cynnydd a pherfformiad yn erbyn argymhellion Seiberddiogelwch eu monitro a'u hadrodd yn ôl i'r Pwyllgor Archwilio a Risgiau;

Gadawodd Karl Jones a Paul Merison y cyfarfod ar ddiwedd yr eitem hon

Llywodraethu Data Addysg

Nodwyd y canlynol

898.17 bod archwiliad ar lywodraethu addysg yn cael ei gynllunio maes o law, a fydd yn mynd i'r afael â risg academaidd ac yn archwilio sut y defnyddir y data sydd ar gael;

898.18 nad oes adroddiad dilynol wedi'i gynllunio ar gyfer yr adroddiad hwn;

898.19 bod adroddiadau sy'n llawn data ar gael ac y gellir rhoi rhagor o ystyriaeth i ba Bwyllgorau sy'n eu cael;

898.20 y byddai'n ddefnyddiol yn y dyfodol i benderfynu sut mae'r data'n helpu i gynorthwyo ein sefyllfa gystadleuol;

898.21 y byddai Adroddiad yr Is-Ganghellor yn cynnwys unrhyw bwyntiau perthnasol y dylid eu rhannu â'r Senedd.

CIC

Nodwyd y canlynol

898.22 bod Katherine Brieger a Phil Hodgson o ARUP wedi ymuno â'r cyfarfod i gyflwyno adroddiad dilynol ar CIC;

898.23 bod Katherine Brieger wedi cyflwyno'r canfyddiadau allweddol a'r argymhellion pellach a nodwyd yn yr adroddiad;

898.24 bod angen amserlen ar gyfer yr argymhellion sy'n weddill;

898.25 bod y broses o benodi rheolwr prosiect newydd ar waith;

898.26 bod y mesurau sy'n ofynnol mewn ymateb i gyfyngiadau Covid wedi creu taliadau ychwanegol i gontractwyr;

898.27 pwysigrwydd ymgorffori'r gwersi a ddysgwyd a'r gweithdrefnau mewn gwybodaeth sefydliadol ar gyfer y dyfodol.  Bydd Swyddfa Rheoli'r Prosiect yn adlewyrchu canfyddiadau yn y ddogfen er mwyn eu defnyddio yn y dyfodol;

898.28 bod rhai agweddau ar y model pum achos ar gyfer achosion busnes yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd.  Mae adolygiad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i benderfynu a ellid defnyddio'r model llawn;

898.29 y bydd adroddiad dilynol ARUP yn cael ei ystyried gan yr Is-bwyllgor Ystadau a Seilwaith.

Penderfynwyd y canlynol

898.30 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am y cynnydd yn erbyn argymhellion adroddiad CIC yng nghyfarfod mis Hydref.

899 Camau dilynol ar yr adroddiad argymhellion a blaenoriaeth uchel

Derbyniwyd ac ystyriwyd er mwyn gwneud penderfyniad bapur 20/450, ‘Camau dilynol ar yr adroddiad argymhellion â blaenoriaeth uchel’. Gwahoddwyd Faye Lloyd, Pennaeth Archwilio Mewnol, i siarad am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

899.1 bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud a bod yr amgylchedd rheoli yn gwella;

899.2 bod adroddiad ar gynnal a chadw Ystadau yn mynd i'r Cyngor drwy'r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd, gan fod gwaith cynnal a chadw statudol yn fater iechyd a diogelwch.  Bydd yn adrodd bod argymhellion ar waith a bod cynnydd yn cael ei wneud.

900 Adolygiad o'r Rheoliadau Cyllid - y Wybodaeth Ddiweddaraf

Cafwyd a nodwyd papur 20/457C, 'Adolygiad Rheoliadau Ariannol – Y Wybodaeth Ddiweddaraf'. Gwahoddwyd Alison Jarvis, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ariannol, i siarad am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

900.1 y cynhaliwyd ymgynghoriad â rhanddeiliaid ar draws y Brifysgol i ddeall sut y defnyddir polisïau cyllid mewn gwahanol feysydd gweithgarwch i sicrhau bod polisïau'n effeithiol.  Adolygwyd yr awdurdod a dirprwyaeth o gyfrifoldeb i sicrhau bod polisïau ariannol yn cael eu hystyried ar y lefel gywir a bod arferion yn cael eu hymgorffori a bod anghenion hyfforddi'n cael eu nodi.

901 Y wybodaeth Ddiweddaraf am gontract Archwilio Allanol

Cafwyd ac ystyriwyd ar gyfer papur argymhelliad 20/458C, 'Contract Archwilio Allanol. Gwahoddwyd Rob Williams, y Prif Swyddog Ariannol, i siarad am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

901.1 y disgwylir i'r tendr agored ddechrau mis Mawrth a'i gwblhau erbyn diwedd Haf 2021;

901.2 y bydd y contract am gyfnod cychwynnol o 5 mlynedd.

Penderfynwyd y canlynol

901.3 y byddai Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risgiau ac un aelod lleyg annibynnol yn aelod o'r panel recriwtio;

901.4 y dylai'r Prif Swyddog Ariannol ystyried a ddylid cynnwys gwybodaeth am eiddo deallusol wrth baratoi'r gofynion ar gyfer y tendr archwilio allanol.

902 Adolygiad o Gyfansoddiad ac Aelodaeth 2020/2021

Cafwyd ac ystyriwyd ar gyfer papur argymhelliad 20/452, 'Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Risgiau'. Gwahoddwyd Rashi Jain, Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Brifysgol, i siarad am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

902.1 y byddai diwylliant (eitem 1g o'r Cylch Gorchwyl) yn cael ei drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol i benderfynu ar y ffordd orau i'r Pwyllgor gefnogi'r maes gweithgarwch hwn;

902.2 bod eitem 3d yn cael ei dileu hyd nes y cwblheir y gwaith ar y cynllun dirprwyo ar gyfer cymeradwyaethau polisïau

902.3 bod Polisi Cyfathrebu Mewn Argyfwng y Brifysgol, a adolygwyd y llynedd, yn rhan annatod o reoli digwyddiadau, a chaiff ei reoli ar y cyd â'r Tîm Cyfathrebu.

Penderfynwyd y canlynol

902.4 sicrhau bod y cylch gorchwyl yn adlewyrchu'r diweddariadau diweddaraf i God Ymarfer Archwilio AU CUC;

902.5 bod y Pwyllgor, yn amodol ar y gwelliannau uchod, yn argymell y Cylch Gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Pwyllgor Archwilio a Risgiau ar gyfer 2020/21, i'r Cyngor ei gymeradwyo;

902.6 cadarnhau pryd y cafodd y Polisi Cyfathrebu Mewn Argyfwng ei adolygu ddiwethaf a dosbarthu copi i aelodau'r Pwyllgor.

903 Unrhyw fater arall

Sicrwydd Academaidd

903.1 bod Cadeirydd y Pwyllgor wedi siarad â Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio ym Mhrifysgol Southampton i drafod rôl y Pwyllgor ym maes sicrwydd academaidd;

903.2 Bod y system sicrhau ansawdd yn Lloegr bellach yn wahanol iawn i'r system yng Nghymru, lle mae sicrwydd yn parhau gyda'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd; Mae'r Cyngor yn cael ei sicrwydd o ganfyddiadau'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd;

903.3 bod aelod lleyg o'r Cyngor ar y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd, a byddai'n codi unrhyw faterion yr oedd angen tynnu sylw'r Pwyllgor Archwilio a Risgiau atynt;

903.4 y gellid cysylltu â'r Rhag Is-Ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor os oedd angen rhagor o wybodaeth arnynt am system sicrwydd academaidd y Brifysgol.

Tudalennau Clawr y Pwyllgor

Nodwyd y canlynol

903.6 bod cynnig gan Ysgrifennydd y Pwyllgor yn nodi, er mwyn cefnogi'r pwyllgor i fonitro'r gwaith o reoli risgiau, y dylai tudalen glawr papur pwyllgor gynnwys cyfeiriad penodol at unrhyw oblygiadau o ran risgiau yn y papur

Penderfynwyd y canlynol

903.7 y byddai tudalen glawr papur y pwyllgor yn nodi unrhyw oblygiadau o ran rheoli risgiau yng nghynnwys y papur sy'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor.

Adolygu'r Gofrestr Risg

Nodwyd y canlynol

903.8 nad oedd unrhyw faterion a oedd yn gofyn am ystyriaeth bellach o ddifrifoldeb y risgiau a nodwyd yn y gofrestr.
Penderfynwyd y canlynol

903.9 y byddai eitem sefydlog o dan Unrhyw Fater Arall i ofyn i'r Pwyllgor a oes unrhyw beth y mae'r Pwyllgor wedi'i glywed yn ystod y cyfarfod sydd wedi newid eu barn o ran difrifoldeb y risgiau a nodir yn y gofrestr.

904 Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cafwyd er gwybodaeth bapur 20/289, 'Cofnodion – Y Pwyllgor Archwilio a Risgiau 16 Tachwedd 2020' a phapur 20/385C 'Cofnodion – Y Pwyllgor Archwilio a Risgiau 18 Ionawr 2021'. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.

Penderfynwyd y canlynol

904.1 y cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2020 a'r 18 Ionawr 2021 fel cofnod gwir a chywir.

905 Agenda’r cyfarfod nesaf

Cafwyd ar gyfer papur 20/453, 'Agenda'r Cyfarfod Nesaf'. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

905.1 bod y Pwyllgor yn fodlon ar yr agenda dros dro.

906 Fframwaith Adrodd am Ddigwyddiadau Difrifol

Cafwyd er gwybodaeth bapur 20/451, Fframwaith Adrodd am Ddigwyddiadau Difrifol'.

Nodwyd y canlynol

906.1 bod y papur yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y fframwaith.

907 Adroddiad ar Anghysondebau Ariannol

Gwahoddwyd Alison Jarvis, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ariannol, i siarad am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

907.1 nad oes unrhyw anghysondebau ariannol i'w hadrodd.

908 Derbyn Cofnodion y Pwyllgor Llywodraethu

Nodwyd y canlynol

908.1 bod cofnodion y Pwyllgor Llywodraethu ar 9 Tachwedd 2020 a'r 22 Ionawr 2021 wedi cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor;

908.2 y byddai cofnodion a gafwyd er gwybodaeth y Pwyllgor yn cael eu dosbarthu yn y dyfodol ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo gan y Cadeirydd, ac na fyddent wedi'u cynnwys yn llyfr y cyfarfodydd.

909 CÔD Ymarfer Pwyllgor Archwilio AU CUC (Mai 2020)

Cafwyd er gwybodaeth bapur 20/455 'Côd Ymarfer Pwyllgor Archwilio CUC HE'.

Nodwyd y canlynol

909.1 bod y Pwyllgor wedi derbyn y crynodeb o'r newidiadau o Gôd Archwilio AU blaenorol CUC.

910 Cyfarfod yn y Dirgel

Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Risgiau, cynhaliwyd cyfarfod yn y dirgel. Dim ond aelodau’r Pwyllgor Archwilio a Risgiau a’r Pennaeth Archwilio Mewnol oedd yn bresennol.