Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Cofnodion Senedd 11 Tachwedd 2020

Cofnodion Cyfarfod Senedd Prifysgol Caerdydd a gynhaliwyd Ddydd Mercher 11 Tachwedd 2020, drwy fideogynhadledd.

Presenoldeb

Yr Athro Colin Riordan

P

Yr Athro Alan Kwan

P

Yr Athro Stuart Allan

P

Y Dr Catherine Laing

P

Yr Athro Rudolf Allemann

P

Yr Athro Wolfgang Maier

Yr Athro Stuart Allen

P

Yr Athro Paul Milbourne

P

Yr Athro Rachel Ashworth

P

Emmajane Milton

P

Dr Jonathan Ben-Artzi

P

Claire Morgan

P

Yr Athro Marc Buehner

P

Yr Athro Damien Murphy

Jane Chukwu

P

Yr Athro Jim Murray

P

Kelsey Coward

A

Larissa Nelson

Yr Athro Trevor Dale

P

Joanne Pagett

P

Dr Jane Davies

P

Dr Jo Patterson

P

Rhys Denton

P

Yr Athro Tîm Phillips

A

Hannah Doe

P

Jude Pickett

P

Georgina East

P

Dr Jamie Platts

P

Helen Evans

P

Dr Emma Richards

P

Luke Evans

P

Dr Steve Riley

P

Tomos Evans

P

Sebastian Ripley

P

Yr Athro Dylan Foster Evans

P

Dr Josh Robinson

A

Graham Getheridge

Sarah Saunders

P

Yr Athro Kim Graham

P

Dr Hannah Shaw

P

Yr Athro Kate Griffiths

P

Dr Andy Skyrme

P

Dr John Groves

P

Yr Athro Peter Smowton

P

Yr Athro Mark Gumbleton

P

Dr Zbig Sobiesierski

P

Yr Athro Ian Hall

P

Tracey Stanley

P

Dr Thomas Hall

P

Yr Athro Ceri Sullivan

P

Yr Athro Ken Hamilton

A

Yr Athro Petroc Sumner

P

Dr Natasha Hammond-Browning

P

Dr Catherine Teehan

Yr Athro Ben Hannigan

P

Dr Christoph Teufel

P

Dr Alexander Harmer

P

Gail Thomas

P

Ms Karen Harvey-Cooke

P

Dr Onur Tosun

P

Dr Athanasios Hassoulas

P

Dr Laurence Totelin

P

Yr Athro James Hegarty

A

Yr Athro Chris Tweed

P

Yr Athro Mary Heimann

P

Yr Athro Damian Walford Davies

P

Dr Monika Hennemann

P

Yr Athro Ian Weeks

P

Dr Kersty Hobson

P

Yr Athro Keith Whitfield

P

Yr Athro Karen Holford

P

Yr Athro David Whitaker

P

Yr Athro Joanne Hunt

P

Yr Athro John Wild

P

Yr Athro Nicola Innes

P

Alexandra Williams

P

Yr Athro Dai John

P

Yr Athro Martin Willis

P

Yr Athro Urfan Khaliq

P

Yr Athro Jianzhong Wu

P

Yn bresennol

Ms Katy Dale (Cofnodion), Hannah Darnley, Rob Davies, Rhodri Evans, Dr Rob Gossedge, Dr Julie Gwilliam, Rashi Jain, Yr Athro Martin Jephcote, Yr Athro Wenguo Jiang, Dr Emma Kidd, Sue Midha, Emily Pemberton (cofnod 896), TJ Rawlinson, Melanie Rimmer, Dr Andrew Roberts, Claire Sanders, Yr Athro Phil Stephens, Yr Athro Jason Tucker, Yr Athro Andrew Westwell, Dr Huw Williams (cofnod 896), Simon Wright (Ysgrifennydd)

878 Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, yn enwedig aelodau newydd a swyddogion sabothol. Nodwyd y byddai'r cyfarfod yn cael ei recordio i helpu i gynhyrchu'r rhestr bresenoldeb a'r cofnodion.

879 Ymddiheuriadau am absenoldeb

NODWYD y byddai'r ymddiheuriadau yn cael eu cofnodi yn y cofnodion.

880 Cofnodion

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod y Senedd a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2020 (papur 19/830) yn gofnod cywir.

881 Materion yn codi

Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

882 Datgan buddiant

Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau o'r gofyniad iddynt ddatgelu unrhyw fuddiannau ariannol uniongyrchol neu anuniongyrchol a allai ddylanwadu ar eu barn. Dylid datgelu buddiannau cyn i eitem gael ei drafod, a dylai’r unigolyn dan sylw naill ai adael y cyfarfod neu beidio â chymryd rhan yn y drafodaeth, fel y bo’n briodol ar gyfer y rhan honno o’r agenda.

NODWYD na wnaeth unrhyw aelod ddatgelu unrhyw fuddiannau.

883 Cyfansoddiad ac Aelodaeth 2020-21

Derbyniwyd papur 20/190 'Cyfansoddiad ac Aelodaeth 2020-21'. Cyflwynwyd y papur gan yr Is-Ganghellor.

Nodwyd y canlynol

883.1 nid oedd nifer y cyfarfodydd y flwyddyn wedi'u rhagnodi a bod Ordinhad 11 yn darparu'r posibilrwydd o alw cyfarfod arbennig neu eithriadol o'r Senedd.

884 Adroddiad gan yr Is-Ganghellor

Derbyniwyd papur 20/191 ‘Adroddiad yr Is-Ganghellori'r Senedd’. Cyflwynwyd y papur gan yr Is-Ganghellor.

Nodwyd y canlynol

884.1 mae Claire Morgan a'r Athro Ian Weeks yn cael eu croesawu yn eu rolau parhaol fel Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr a Rhag Is-Ganghellor Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd yn y drefn honno;

884.2 mae’r ffigurau ar gyfer canran y targed recriwtio a gyflawnwyd yn Atodiad A yr adroddiad wedi gwella ychydig ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi: r ffigurau israddedig cenedlaethol (IUG) wedi symud i 64% (o 49% a adroddwyd) ac roedd ôl-raddedigion rhyngwladol a addysgir (PGT) wedi symud i 59% (o 21% a adroddwyd);

884.3 mae myfyrwyr yn parhau i wneud cais am astudio o bell ac roedd ansicrwydd o hyd ynghylch niferoedd terfynol y myfyrwyr oherwydd bod nifer o raglenni yn dechrau ym mis Tachwedd.

885 Newyddion Diweddaraf am Covid-19

Derbyniwyd papur 20/205HC 'Papur Briffio COVID-19'. Cyflwynwyd y papur gan yr Is-Ganghellor.

Nodwyd y canlynol

885.1 [Hepgorwyd]

885.2 [Hepgorwyd]

885.3 [Hepgorwyd]

885.4 [Hepgorwyd]

885.5 [Hepgorwyd]

885.6 [Hepgorwyd]

885.7 [Hepgorwyd]

886 Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC)

Derbyniwyd papurau 20/192 'Adroddiad gan Gadeirydd ASQC' a 20/193 'Cofnodion Cyfarfod ASQC 14 Hydref 2020'. Cyflwynodd Claire Morgan y papur.

Nodwyd y canlynol

886.1  mae nifer o eitemau a drafodwyd yng nghyfarfod diwethaf ASQC wedi cael eu cynnwys fel eitemau sylweddol o fewn yr agenda;

886.2 y gofynnwyd i'r Senedd gymeradwyo'r Polisi Monitro ac Adolygu; ni fyddai'r Polisi yn newid unrhyw weithdrefnau unigol ond yn crynhoi diben y gweithdrefnau mewn dogfen bolisi gyffredinol a oedd yn amlinellu'r dull o fonitro ac adolygu;

886.3 mae newidiadau i bolisïau, a gyflwynwyd o ganlyniad i darfu ar COVID-19 ac a gymeradwywyd gan ASQC, wedi'u nodi yn yr adroddiad.

Penderfynwyd y canlynol

886.4 cymeradwyo’r Polisi Monitro ac Adolygu.

887 Adroddiad Blynyddol Gan y Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd

Derbyniwyd papurau 20/194C 'Adroddiad Blynyddol Dyrchafiadau Academaidd 2019-20'. Cyflwynodd yr Athro Karen Holford y papur.

Nodwyd y canlynol

887.1 roeddcynnydd wedi bod yn y niferoedd sy'n derbyn dyrchafiadau academaidd trwy’r llwybr addysgu ac ysgolheictod; roedd hyn yn braf oherwydd y gwaith mawr a wnaed i gefnogi'r rhai yn y llwybr gyrfa hwn;

887.2 cymerir nifer o gamau i fynd i'r afael â'r canlyniadau o ran rhyw a hil;

887.3 mae’r alwad am geisiadau wedi cael ei gohirio, a’r bwriad oedd rhedeg y rhaglen yn ystod y flwyddyn academaidd hon; anogwyd unigolion i barhau i weithio ar eu ceisiadau.

888 Cyflwyniad Ffug-REF

Derbyniwyd papurau 20/195HC ‘Cyflwyniad Ffug-REF'. Cyflwynodd yr Athro Kim Graham y papur.

Nodwyd y canlynol

888.1 [Hepgorwyd]

888.2 [Hepgorwyd]

888.3 [Hepgorwyd]

888.4 [Hepgorwyd]

888.5  [Hepgorwyd]

889 Adolygiad URI

Derbyniwyd papurau 20/196HC 'Adolygiad URI'. Cyflwynodd yr Athro Kim Graham y papur.

Nodwyd y canlynol

889.1 [Hepgorwyd]

889.2 [Hepgorwyd]

889.3 [Hepgorwyd]

889.4 [Hepgorwyd]

889.5 [Hepgorwyd]

Penderfynwyd y canlynol

889.6 cymeradwyo'r argymhellion ar gyfer newidiadau arfaethedig i bortffolio endidau strategol y Brifysgol yn y dyfodol.

890 Adnewyddu Academaidd

Cyflwynodd y Dirprwy Is-Ganghellor gyflwyniad ar adnewyddu academaidd.

Nodwyd y canlynol

890.1  Rhoddodd y cyflwyniad y wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am weithgarwch sydd ar y gweill i gyflawni uchelgeisiau strategaeth Ail-Lunio’r Ffordd Ymlaen ac i fynd i'r afael â chynaliadwyedd academaidd ac ariannol hirdymor;

890.2  bydd cyd-greu a chydweithredu wrth wraidd y gwaith hwn;

890.3  bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno drwy strwythurau sefydliadol presennol y Brifysgol, a oruchwylir gan y Dirprwy Is-Ganghellor;

890.4  bydd ffactorau llwyddiant hanfodol Ail-lunio’r Ffordd Ymlaen yn galluogi'r Brifysgol i ganolbwyntio ar ganlyniadau craidd;

890.5  mae’r angen i sicrhau cynaliadwyedd academaidd ac ariannol yn mynd law yn llaw;

890.6  bydd y rhaglen yn cael ei harwain gan staff academaidd ac yn anelu at fynd i'r afael â materion cymhleth sy'n ysgogi llwyth gwaith, ansawdd a phrofiad myfyrwyr;

890.7 er gwaethaf yr amgylchiadau heriol, cafwyd rhai gwersi cadarnhaol o ganlyniad i COVID-19 a fydd yn effeithio ar ffyrdd o weithio yn y dyfodol (e.e., bod yn ystwyth ac yn gydweithredol);

890.8 mynegodd y Dirprwy Is-Ganghellor ei diolch i'r holl staff am ddarparu darpariaeth o ansawdd uchel i fyfyrwyr yn ystod y cyfnod heriol presennol;

890.9 cynigiwyd nifer o feysydd cychwynnol i gael eu hadolygu;

890.10 bydd y Senedd yn cael y newyddion diweddaraf ynghylch y gwaith sy'n mynd rhagddo yn y maes hwn.

891 Diweddariad Ffordd Ymlaen - Is-Strategaeth Addysg a Myfyrwyr

Rhoddodd Claire Morgan ddiweddariad ar lafar ar y diweddariad i Is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr ac Ail-lunio’r Ffordd Ymlaen.

Nodwyd y canlynol

891.1 cymeradwywyd yr is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr bresennol  yn 2018 ac o dan yr amgylchiadau presennol roedd yn briodol ac yn amserol ei hailffocysu a'i hadnewyddu;

891.2 roedd y Brifysgol wedi cael canlyniad llwyddiannus i'w hadolygiad QER, a oedd yn rhoi llwyfan cryf i adeiladu arno;

891.3 Roedd CCAUC yn monitro canlyniadau rhai meysydd o'r NSS er mwyn sicrhau gwelliant;

891.4 crëwyd strategaeth ddrafft ar gyfer ymgynghori, gan gynnwys gyda myfyrwyr;

891.5 y nod oedd strategaeth gyda blaenoriaethau a chyflawniadau clir;

891.6 roedd llywodraethu ynghylch cyflawni'r strategaeth hefyd yn cael ei archwilio;

891.7 mae rhai meysydd gwella blaenoriaeth a nodwyd yn cynnwys llais y myfyriwr, addysg ddigidol a DPP academaidd;

891.8 dylai'r strategaeth ddiwygiedig fod yn uchelgeisiol, ond yn dangos ymwybyddiaeth o'r perfformiad presennol;

891.9 byddai strategaeth ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno i'r Senedd yn 2021 i'w chymeradwyo.

892 Llywodraethu Addysg

Derbyniwyd papur 20/200 'Llywodraethu Addysg'. Cyflwynodd Claire Morgan y papur.

Nodwyd y canlynol

892.1 mae’r Brifysgol yn ymgynghori ar adolygiad o'r trefniadau llywodraethu addysg presennol;

892.2 mae’r trefniadau presennol yn gymhleth a byddai'n fuddiol eu symleiddio;

892.3 un canlyniad allweddol fyddai ffurfio un strwythur llywodraethu clir ar gyfer addysg, fel y gellid olrhain penderfyniadau, adrodd a chyflwyno eitemau allweddol yn glir;

892.4 mae’r cynigion presennol ar gyfer un Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr cyffredinol a fyddai'n adrodd i'r Senedd ac yn cipio'r holl is-grwpiau ac is-bwyllgorau thematig oddi tano;

892.5 cynhelid ymgynghoriad pellach a byddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion yn cael ei chyflwyno i'r Senedd.

893 Adroddiad Ansawdd Blynyddol

Derbyniwyd papur 20/197 ‘Adroddiad Ansawdd Blynyddol 2019-20’. Cyflwynodd Claire Morgan y papur.

Nodwyd y canlynol

893.1 mae’r adroddiad hwn yn ofyniad rheoliadol ac yn cwmpasu blwyddyn academaidd 2019/20;

893.2 mae’r adroddiad yn galluogi'r Cyngor i roi sicrwydd i CCAUC fod y Brifysgol yn gosod ac yn cynnal safonau academaidd yn briodol ac yn monitro ac yn gwerthuso addysgu a dysgu yn systematig;

893.3  mae dau fater allweddol yn cael eu nodi ar gyfer gwella:

  1. mae'r gostyngiad ym mhrofiad myfyrwyr yng nghanlyniadau'r AROLWG dros y 5 mlynedd diwethaf wedi golygu bod y Brifysgol yn destun mwy o fonitro gan CCAUC ac mae ganddi gynlluniau ar waith i fynd i'r afael â'r materion hyn;
  2. adnoddau ar gyfer achosion myfyrwyr ac amseroedd ymateb; mae cynlluniau wedi'u rhoi ar waith ond ni fydd yn cael eu hymgorffori'n llawn tan flwyddyn academaidd 2021/22;

893.4 bu cynnydd yng nghyfran y myfyrwyr a gafodd radd dosbarth cyntaf a graddau da yn 2019/20 ac mae gwaith pellach yn cael ei wneud i ddeall y rhesymau dros y cynnydd hwn;

893.5 mae'r dadansoddiad o ganlyniadau gradd yn seiliedig ar nodweddion myfyrwyr yn cadarnhau'r bwlch dyfarnu ar gyfer myfyrwyr du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol (a adroddwyd yn flaenorol i'r Senedd) ac mae y Grŵp Bwlch Dyfarnu du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn datblygu cynllun gweithredu i ddileu'r bwlch hwn yn y tymor hwy.

Penderfynwyd y canlynol

893.6  cymeradwyo'r Adroddiad Ansawdd Blynyddol i'r Cyngor iddo gael ei gymeradwyo.

894 Datganiad Canlyniadau Gradd

Derbyniwyd papur 20/199 'Datganiad Canlyniadau Gradd'. Cyflwynodd Claire Morgan y papur.

Nodwyd y canlynol

894.1 mae'n ofynnol i'r Brifysgol gyhoeddi Datganiad Canlyniadau Graddau fel y nodir gan Ddatganiad o Fwriad Pwyllgor Sefydlog y DU ar gyfer Asesu Ansawdd (UKSCQA);

894.2  mae'r adroddiad yn cyflwyno data hyd at flwyddyn academaidd 2018/19, y flwyddyn ddiwethaf y daeth adolygiad i ben ar ei gyfer.

Penderfynwyd y canlynol

894.3  cymeradwyo'r Datganiad Canlyniadau Gradd i'r Cyngor i'w gymeradwyo.

895 Datganiad Blynyddol 2019/20 ar Onestrwydd Ymchwil

Derbyniwyd papur 20/198 'Datganiad Blynyddol ar Onestrwydd Ymchwil'. Cyflwynodd yr Athro Kim Graham y papur.

Nodwyd y canlynol

895.1 mae'r papur yn amlinellu'r camau a gymerwyd yn y maes hwn yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol, fel sy'n ofynnol yn unol â'r Concordat i Gefnogi Gonestrwydd Ymchwil (y Concordat);

895.2 diweddarwyd y Cylch Gorchwyl ac enw Pwyllgor Uniondeb a Moeseg Ymchwil y Brifysgol ('URIEC') i sicrhau bod 'ymchwil agored' a 'metrigau cyfrifol' yn cael eu cipio'n briodol;

895.3 byddai elfen o waith yn cael ei wneud y flwyddyn nesaf i adolygu bylchau yn y dull ymchwil a’r cynnig;

895.4 mae’r Athro Graham wedi estyn ei diolch i gydweithwyr a staff sy'n ymwneud ag adolygu Gweithdrefnau Moeseg Ymchwil y Brifysgol;

895.5  mae llawer o waith wedi'i wneud mewn perthynas â chynnal ymchwil y mae pobl ddynol yn cymryd rhan ynddo yn ystod COVID-19.

Penderfynwyd y canlynol

895.6  cymeradwyo'r Datganiad Blynyddol ar Onestrwydd Ymchwil i'r Cyngor i'w gymeradwyo.

896 Strategaeth y Gymraeg

Derbyniwyd papur 20/201 'Strategaeth y Gymraeg'. Cyflwynodd yr Athro Damian Walford-Davies, Dr Huw Williams ac Emily Pemberton y papur.

Nodwyd y canlynol

896.1 nod y strategaeth yw anelu at weithredu dull cyfannol ar gyfer campws Cymraeg a oedd yn ymestyn y tu hwnt i'r campws ffisegol i'r gymuned ehangach ac yn gysylltiedig â strategaeth y Brifysgol;

896.2 ymgynghorwyd yn eang am y strategaeth ac mae’n anelu at wneud mwy na bodloni'r gofynion rheoliadol angenrheidiol yn unig;

896.3 roedd strategaeth wedi'i hanelu at staff a myfyrwyr;

896.4 pe bai'n cael ei gymeradwyo, byddai'r strategaeth yn cael ei lansio ar-lein yn gynnar yn 2021.

Penderfynwyd y canlynol

896.5  argymell yn gryf y dylai’r Cyngor roi sêl ei bendith I Strategaeth y Gymraeg.

897 Strategaeth Ehangu Cyfranogiad

Derbyniwyd papur 20/202C 'Strategaeth Ehangu Cyfranogiad'. Cyflwynodd Claire Morgan y papur.

Nodwyd y canlynol

897.1 mae’r papur yn cynnig strategaeth ehangu cyfranogiad sydd wedi’i diweddaru a ddisodlodd y strategaeth honno yr un a ddaeth yn weithredol yn 2016;

897.2 mae grŵp wedi cael ei sefydlu gyda chynrychiolaeth ar draws y brifysgol, gan gynnwys aelodau academaidd, myfyrwyr a gwasanaethau proffesiynol;

897.3 mae nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi cael eu cynnal i dderbyn adborth ar y strategaeth ddiwygiedig arfaethedig;

897.4 mae’r strategaeth ddiwygiedig yn cynnig adolygiad mwy cyfannol o ehangu cyfranogiad ac yn rhoi mwy o sylw i gefnogi myfyrwyr yn ystod eu hamser yn y Brifysgol, hyd at ddyfodol llwyddiannus;

897.5 mae’r strategaeth ddiwygiedig yn anelu at ychwanegu gwelededd at y bwlch dyfarnu du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol i roi amlygrwydd iddo fel y gellir mynd i'r afael ag ef;

897.6 mae adborth yn dal i gael ei dderbyn a'i weithredu yn y strategaeth arfaethedig, er y byddai unrhyw newidiadau pellach yn fach;

897.7 mae cynllun cyflawni a strwythur llywodraethu yn cael eu datblygu;

897.8 bydd cynigion gwahaniaethol yn cael eu hadolygu fel rhan o'r cam gweithredu;

897.9 byddai ymgynghori â cholegau addysg bellach a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o fudd;

897.10 mae Pennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cynnig cymorth mewn cynlluniau peilot.

Penderfynwyd y canlynol

897.11 yn amodol ar fân ddiwygiadau a nodir uchod, i gymeradwyo'r Strategaeth Ehangu Cyfranogiad i'r Cyngor i dderbyn sêl ei fendith.

898 Cytundeb Cydberthynas ag undeb y Myfyrwyr a Siarter y Myfyrwyr - Adolygiad Blynyddol 2020

Derbyniwyd papur 20/203 'Siarter y Myfyrwyr a Chytundeb Perthynas Undeb y Myfyrwyr - Adolygiad Blynyddol'. Cyflwynodd Claire Morgan y papur.

Nodwyd y canlynol

898.1 mae’n ofyniad rheoliadol i gynhyrchu'r ddwy ddogfen bob blwyddyn;

898.2 mae’r rhain wedi cael eu hadolygu gan y swyddogion sabothol sy'n dod i mewn ac sy’n gadael;

898.3 cafodd mân newidiadau fel sy'n ofynnol gan CCAUC ac i ddiweddaru terminoleg eu cynnwys;

898.4 mae Llywydd Undeb y Myfyrwyr wedi mynegi ei ddiolch i bawb sy'n ymwneud â'r broses adolygu.

Penderfynwyd y canlynol

898.5 cymeradwyo'r Siarter Myfyrwyr a Chytundeb Perthynas Undeb y Myfyrwyr i'r Cyngor iddynt gael sêl bendith.

899 Grantiau a Chytundebau Ymchwil

Derbyniwyd a nodwyd papur 20/204 'Grantiau a Chontractau Ymchwil'.

900 Unrhyw fusnes arall

Ni chodwyd unrhyw faterion eraill.