Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Cofnodion Cyngor 07.072021

Cofnodion Cyfarfod Cyngor Prifysgol Caerdydd a Gynhaliwyd Ddydd Iau 7 Gorffennaf 2021 dros Zoom am 14:00.

Yn bresennol:  Yr Athro Stuart Palmer (Cadeirydd), Yr Athro Colin Riordan, Yr Athro Rudolf Allemann, Yr Athro Rachel Ashworth, Paul Baston, Ricardo Calil, Hannah Doe, Gina Dunn, Judith Fabian, Yr Athro Dame Janet Finch, Yr Athro Kim Graham, Yr Athro Ken Hamilton, Michael Hampson, Karen Harvey-Cooke, Yr Athro Karen Holford, Chris Jones, Jan Juillerat, Dr Steven Luke, Dr Pretty Sagoo, John Shakeshaft, David Simmons, Dr Janet Wademan ac Agnes Xavier-Phillips

Mynychwyr:  Rashi Jain, Vari Jenkins [Cofnodion], Sue Midha [Cofnodion 1964], Dr Jonathan Nicholls [Ymgynghorydd Allanol ar gyfer yr Adolygiad o Effeithiolrwydd Llywodraethu] [Cofnod 1953], Melanie Rimmer, Ruth Robertson, Claire Sanders, Yr Athro Damian Walford Davies, Yr Athro Ian Weeks a Robert Williams

1942 Croeso a materion rhagarweiniol

1942.1 Croesawyd pawb i'r cyfarfod;

1942.2 Llongyfarchwyd yr Athro Damian Walford Davies ar ei benodiad yn Ddirprwy Is-Ganghellor o 1 Awst 2021;

1942.3 Croesawyd Hannah Doe fel Lywydd Undeb y Myfyrwyr a Gina Dunn fel Is-lywydd (Addysg) Undeb y Myfyrwyr yn dilyn y newid yn Swyddogion Sabothol Undeb y Myfyrwyr o 1 Gorffennaf 2021.

1943 Ymddiheuriadau am absenoldeb

Cafwyd ymddiheuriadau gan Claire Morgan, Dr Joanna Newman, Len Richards a'r Barnwr Ray Singh.

1944 Materion yn codi

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/760, 'Materion yn Codi'. Soniodd y Cadeirydd am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1944.1 bydd Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor yn ffurfio gweithgor bach gyda'r Dirprwy Is-Ganghellor newydd i symud y camau a gymerwyd yn dilyn canlyniadau'r Arolwg Staff yn eu blaen.

1945 Datgan buddiannau

Nodwyd y canlynol

1945.1 ni nodwyd unrhyw wrthdaro buddiannau.

1946 Adroddiad y Cadeirydd i'r Cyngor

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/761C, 'Adroddiad y Cadeirydd i'r Cyngor'. Soniodd y Cadeirydd am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1946.1 llongyfarchwyd pawb a nodir yn adran 1 o’r papur;

1946.2  cafwyd munud o dawelwch ar gyfer y marwolaethau a nodwyd;

1946.3  cymerwyd nifer o gamau gweithredu gan y Cadeirydd, a oedd wedi'u rhestru yn y papur.

1947 Adroddiad yr Is-Ganghellor i'r Cyngor

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/762C, 'Adroddiad yr Is-Ganghellor i'r Cyngor'. Gwahoddwyd yr Is-Ganghellor i sôn am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1947.1 bydd aelodau'r Cyngor yn rhan o'r broses recriwtio i nodi olynydd i'r Prif Swyddog Ariannol;

1947.2 bydd grŵp yn cael ei galw ynghyd i adolygu gweithrediad canllawiau a pholisi COVID-19 Llywodraeth Cymru a phenderfynu sut y byddwn yn cyfleu hyn i staff a myfyrwyr, rhai cyfredol a darpar fyfyrwyr;

1947.3 [Wedi’i hepgor]

1947.4 ystyriwyd risgiau'r lefel hon o wariant a'r effaith ar ofynion ariannol posibl yn y dyfodol, fel pensiynau;

1947.5 byddai hyn yn ychwanegol at y cynllun cyfraniad rhagorol;

1947.6 gallai fod yn gyfle i staff roi'r arian hwnnw i gefnogi elusennau, gan gynnwys y Brifysgol, pe baent yn dymuno gwneud hynny;

1947.7 roedd Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid wedi mynegi eu bod o blaid canolbwyntio ar arloesi;

1947.8 croesewir adolygiad o weithgarwch ers yr adroddiad diwethaf gan yr Athro Bhugra, ac ni fydd yn cynnwys eitemau sy'n destun achos cyfreithiol.

Wedi’u penderfynu

1947.9 y Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Menter ac Arloesedd, mewn cyfarfod yn y dyfodol, i roi trosolwg o ddyraniad incwm ymchwil ar draws gweithgareddau ymchwil, cynnydd ar endidau strategol a'r canlyniadau a sicrhawyd;

1947.10 cymeradwyo'r cynnig i wneud taliad ex-gratia i staff a chymeradwyo'r gwariant os yw'r taliad ex-gratia dros £2m.

1948 Adolygiad o’r Gofrestr Risgiau

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/796C, ‘Cofrestr Risgiau’. Gwahoddwyd yr Is-Ganghellor i sôn am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1948.1 [Wedi’i hepgor]

1948.2 [Wedi’i hepgor]

1948.3 gellid sicrhau rhagor o arbedion ariannol a gwelliannau i ôl troed gwyrdd y Brifysgol drwy wneud yn siŵr bod goleuadau’n cael eu diffodd mewn adeiladau nad ydynt yn cael eu defnyddio dros y penwythnos (er enghraifft, drwy fuddsoddi mewn switshis wedi’u hamseru sy’n synhwyro symud.

Wedi’i benderfynu

1948.4 cymeradwyo'r risgiau presennol, eu sgôr a'r camau lliniaru fel adlewyrchiad cywir o broffil risg y Brifysgol.

1949 Adroddiad Llywydd Undeb y Myfyrwyr

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/775, ‘Adroddiad Llywydd Undeb y Myfyrwyr’. Gwahoddwyd Llywydd Undeb y Myfyrwyr i sôn am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1949.1 mae'r Cyngor yn cefnogi gwaith Undeb y Myfyrwyr yn fawr iawn ac yn falch o glywed sôn am y cydweithredu sy’n digwydd gydag Ysgol Busnes Caerdydd.

1950 Cyfranddaliwr Setsquared Limited

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/690C, 'Cyfranddaliwr SETsquared Limited'. Gwahoddwyd y Prif Swyddog Ariannol i sôn am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1950.1 byddai'r risg i'r Brifysgol yn bennaf yn risg i’w henw da;

1950.2 nid oes unrhyw rwymedigaeth i roi unrhyw ran o eiddo deallusol y Brifysgol i mewn i'r cwmni. Bydd cyfranddalwyr yn cytuno ar ba eiddo deallusol i'w rannu gyda’r cwmni;

1950.3 bydd rheolwr cronfa’n argymell lle y gwneir y buddsoddiadau.

Wedi’u penderfynu

1950.4 cymeradwyo y dylai'r Brifysgol ddod yn aelod o SETsquared Limited, yn amodol ar gymeradwyo’r trefniadau cyfreithiol yn derfynol gan Grŵp Cynghori y dylid ei sefydlu ar y sail a ddisgrifir ym mhapur 20/690C;

1950.5 dirprwyo'r holl bwerau angenrheidiol i'r Grŵp Cynghori i wneud y gwaith sydd ei angen i ymuno â'r cwmni tan gyfarfod nesaf y Cyngor;

1950.6 y Prif Swyddog Ariannol i drafod gyda chyfreithwyr a ellid rhannu'r cyngor cyfreithiol a roddwyd i'r Brifysgol gyda'r Cyngor, yn amodol ar wneud unrhyw hepgoriadau angenrheidiol.

1951 Diweddariad ar y Strategaeth Adnewyddu Academaidd a Gwasanaethau Proffesiynol

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/764HC, 'Diweddariad ar y Strategaeth Adnewyddu Academaidd a Gwasanaethau Proffesiynol'. Gwahoddwyd y Dirprwy Is-Ganghellor i sôn am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1951.1 nodwyd y cynnydd sy'n cael ei wneud drwy'r mentrau Adnewyddu Academaidd, Ffyrdd Gwell o Weithio ac Ail-lunio Trawsffurfio Gwasanaethau a sut y bydd cynllunio ar gyfer cynaliadwyedd parhaus yn dod yn rhan o fusnes fel arfer drwy'r Broses Gynllunio Integredig newydd;

1951.2 mae Ffyrdd Gwell o Weithio’n mynd rhagddo'n gyflym ac yn amodol ar ganllawiau Llywodraeth Cymru, a’r bwriad yw dychwelyd i'r campws yn raddol ym mis Medi 2021;

1951.3 mae'r Brifysgol wedi'i rhyddhau o'i phrydles ar Friary House, a bydd yn cael ei rhyddhau o rai eraill o bosibl, yn dilyn adolygiad dros yr haf;

1951.4  byddai'r Cyngor yn croesawu llai o naratif a chynrychiolaeth fwy gweledol, yn debyg i ddangosfwrdd, o gynnydd ar lefel uchel, i'w alluogi i benderfynu sut mae cynlluniau'n mynd rhagddynt ac a oes meysydd y mae angen eu trafod er mwyn sicrhau’r nifer fwyaf o fanteision.

1952 Is-strategaethau’r Genhadaeth Ddinesig ac Ymchwil ac Arloesedd

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/713C, 'Is-strategaethau’r Genhadaeth Ddinesig ac Ymchwil ac Arloesedd'. Gwahoddwyd yr Is-Ganghellor i sôn am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1952.1 hoffai'r Cyngor weld amcanion y strategaeth ymchwil ar gyfer y tair blynedd nesaf a sut mae'r strategaeth yn cyd-fynd unwaith y bydd canlyniad y REF yn hysbys;

1952.2 mae nifer fawr o brosiectau allgymorth yn cael eu cynnal ar draws y Brifysgol. Ar hyn o bryd, mae'r Brifysgol yn gweithio gyda'r Senedd i arddangos gwaith yn y maes hwn, ac mae wedi ymgynghori â Llywodraeth Cymru i gael gwybod beth yw’r flaenoriaeth.

Wedi’u penderfynu

1952.3 rhannu'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer ymchwil yn 2019/20;

1952.4 adlewyrchu sut mae staff ymchwil anacademaidd yn cael eu helpu i ddatblygu pan fydd y strategaeth ymchwil yn cael ei diweddaru nesaf;

1952.5 cynnal sesiwn ar genhadaeth ddinesig y Brifysgol ar gyfer aelodau’r Cyngor;

1952.6 cymeradwyo'r is-strategaeth Ymchwil ac Arloesedd;

1952.7 cymeradwyo is-strategaeth y Genhadaeth Ddinesig.

1953 Adolygiad o Effeithiolrwydd Llywodraethu 2021 – Adroddiad Terfynol

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/765C, 'Adolygiad o Effeithiolrwydd Llywodraethu 2021 – Adroddiad Terfynol'. Gwnaeth Dr Jonathan Nicholls, Ymgynghorydd Allanol ac awdur yr adroddiad, ymuno â'r cyfarfod i gyflwyno'r eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1953.1 teimlai'r Cyngor fod yr argymhellion arfaethedig wedi'u halinio'n dda ar gyfer y Brifysgol;

1953.2 awgrymwyd bod argymhelliad 17 i gynnwys cydweithwyr ym meysydd polisi a strategaeth yn flaenoriaeth ganolig i gydbwyso â materoldeb a brys, o ystyried yr amserlen sydd ar gael i'w weithredu;

1953.3 rhaid i'r strwythur llywodraethu fod â ffocws a bod mor effeithiol â phosibl i groesawu heriau a chyfleoedd yn y dyfodol;

1953.4 gallai cyflwyno Uwch Lywodraethwr Annibynnol greu pellter rhwng y Cadeirydd ag aelodau'r Cyngor;

1953.5 Dr Jonathan Nicholls yw'r Uwch Lywodraethwr Annibynnol ym Mhrifysgol Sheffield, ac mae'r swydd wedi bod yn effeithiol o ran sicrhau diogelwch;

1953.6 mae perfformiad Cadeirydd y Cyngor yn cael ei asesu drwy'r holiadur a anfonir at holl aelodau'r Cyngor i gasglu eu hadborth ar sail y flwyddyn. Mae'r Is-gadeirydd yn adolygu ac yn trafod yr adborth hwn gyda Chadeirydd y Cyngor;

1953.7 dylid rhoi ystyriaeth bellach i'r berthynas rhwng y Senedd a'r Cyngor i ystyried rôl aelodau'r Cyngor ar Is-bwyllgorau’r Senedd;

1953.8 diolchwyd i Dr Nicholls am ei adroddiad gwerthfawr iawn.

1954 Adolygiad O Effeithiolrwydd Llywodraethu 2021 – Argymhellion

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/766C, 'Adolygiad o Effeithiolrwydd Llywodraethu 2021 – Argymhellion'. Gwahoddwyd Ruth Robertson, Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol, i sôn am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1954.1 mewn perthynas ag argymhelliad 17, mae prosesau ystwyth a'r gallu i gynnwys y Cyngor yn gynnar yn bwysig.

Wedi’u penderfynu

1954.2 cymeradwyo gweithredu argymhellion: 2, 3, 5, 6, 9, 11, 12B, 13, 14, 15, 16, 18, 19, 20, 21;

1954.3 cymeradwyo gweithredu cynigion amgen sy'n ymwneud ag argymhellion 1 a 4;

1954.4 sefydlu Grŵp/Grwpiau Gorchwyl a Gorffen i roi ystyriaeth bellach i’r canlynol, gyda rhywfaint o frys:

.1 argymhelliad 8 (Uwch Lywodraethwr Annibynnol)

.2 argymhelliad 10 (Safonau ac Ansawdd Academaidd), gan gynnwys ychwanegu ystyriaeth o'r cwestiwn ynghylch rhinweddau/risgiau penodi aelodau lleyg y Cyngor i eistedd ar bwyllgorau'r Senedd

.3 argymhelliad 12A (Adolygiad o'r Senedd)

.4 argymhelliad 17 (Llunio polisi, prosiectau a strategaeth)

1954.5 gwahodd yr Is-Ganghellor a Chadeirydd y Cyngor i drafod argymhelliad 22 (Llywodraethu academaidd a rôl Ysgrifennydd y Brifysgol) yng ngoleuni argymhelliad 12A.

1955 Gweithgor Adolygu Llysoedd – Argymhelliad

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/646C, 'Gweithgor Adolygu Llysoedd – Argymhelliad'. Gwahoddwyd Rashi Jain, Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Brifysgol, i sôn am yr eitem hon.

Wedi’u penderfynu

1955.1 cymeradwyo bod y Cyngor yn cymryd y camau angenrheidiol i ddiddymu'r Llys a bod y Siarter, y Statudau a'r Ordinhadau’n cael eu diwygio’n unol â hynny (ar ôl ceisio caniatâd priodol gan y Cyfrin Gyngor);

1955.2 cymeradwyo bod y Cyngor yn sicrhau bod y Bwrdd yn rhoi sylw brys i'r ffordd y gall greu ystod amrywiol o ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau system fwy cadarn ar gyfer meithrin perthnasoedd ar draws y gymuned;

1955.3 cymeradwyo gwahodd y Canghellor a'r Rhag Gangellorion i gyfrannu at y gwaith o greu digwyddiadau, gan gynnwys eu gwahodd i gymryd rhan ynddynt yn unol â'u rolau llysgenhadol;

1955.4 cymeradwyo bod y Cyngor yn rhoi sylw i sut y gall ddathlu llwyddiant yn fwy effeithiol ar ran staff a myfyrwyr sy'n galluogi mwy o gydnabyddiaeth o gyflawniadau;

1955.5 cymeradwyo gofyn i'r Canghellor ysgrifennu at aelodau'r Llys i ddiolch iddynt am eu gwasanaeth, a lle bo'n briodol, at fuddiannau’r corff y maent yn ei gynrychioli;

1955.6 wrth benodi Canghellor, cymeradwyo bod y Cyngor yn rhoi sylw dyledus i'r rôl a chwaraeodd y Llys wrth ethol tri o'i aelodau i wasanaethu ar Bwyllgor Enwebu i Benodi Canghellor (Ordinhad 2.4) a sicrhau y ceir ystod eang o aelodau o unrhyw Bwyllgorau Enwebu yn y dyfodol er mwyn adlewyrchu'r cyd-destun amrywiol y bydd angen i Ganghellor ei wasanaethu.

1956 Y Weithdrefn ar gyfer penodi ac Ail-Benodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor gan gynnwys Cylch Gorchwyl yr Is-Bwyllgor Enwebu

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/767C, 'Y weithdrefn ar gyfer penodi ac ail-benodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor gan gynnwys Cylch Gorchwyl yr Is-bwyllgor Enwebu'. Gwahoddwyd Ruth Robertson, Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol, i sôn am yr eitem hon.

Wedi’u penderfynu

1956.1 cymeradwyo'r weithdrefn arfaethedig sy'n cadarnhau'r priod rolau a chyfrifoldebau ar gyfer recriwtio ac adnewyddu swyddi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor;

1956.2 cymeradwyo'r diwygiadau cysylltiedig i Ordinhad 10C – Pwyllgor Llywodraethu fel y’u nodir yn Atodiad A, sydd hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer adnewyddu penodiad yr Is-gadeirydd a Chylch Gorchwyl Is-bwyllgor Enwebu.

1957 Newidiadau i Gategorïau Staff ar y Cyngor

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/768, 'Newidiadau i gategorïau staff ar y Cyngor'. Gwahoddwyd Ruth Robertson, Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol, i sôn am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1957.1 roedd y cynigion ar hyn o bryd yn awgrymu tymor o flwyddyn yn achos y Rhag Is-Ganghellor/aelodau’r Senedd (Staff Academaidd). Ystyriwyd nad oedd hyn yn ddymunol, ac nid dyna oedd bwriad gwreiddiol y Gweithgor.

Wedi’i benderfynu

1957.1 adolygu tymhorau’r Rhag Is-Ganghellor/aelodau’r Senedd (Staff Academaidd) i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r ordinhadau ac ailgyflwyno'r cynigion i'r Cyngor ym mis Medi 2021.

1958 Adroddiad Cyllid

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/672C, ‘Adroddiad Cyllid’. Gwahoddwyd Rob Williams, y Prif Swyddog Ariannol, i sôn am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1958.1 mae'r Brifysgol wedi dyrannu cronfeydd wrth gefn, os bydd angen iddi eu defnyddio mewn ymateb i hawliadau myfyrwyr.

1959 Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/770C, 'Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol'. Gwahoddwyd Rob Williams, y Prif Swyddog Ariannol, i sôn am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1959.1 mae Odgers Berndston wedi’i gyflogi i ddod o hyd i Gadeirydd Anweithredol Annibynnol ar gyfer y Bwrdd;

1959.2 diolchwyd i Dr Joanna Newman am ei gwaith a'i harweiniad;

1959.3 mae'r rhaglen yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru, ac mae’n fodlon ar y cynnydd sy'n cael ei wneud;

1959.4 y flaenoriaeth yw dosbarthu cynlluniau i'r Bwrdd Cynghori ar ddiwedd yr haf a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt yn ystod yr hydref;

1959.5 bydd rheolwr prosiect yn sefydlu'r fframwaith i alluogi unigolyn i gael ei benodi i'r prosiect i'w gyflawni.

Wedi’u penderfynu

1959.6 cynnal archwiliad mewnol i roi sicrwydd bod cynnydd a gweithdrefnau'n ddigonol;

1959.7 ystyried archwiliad mewnol ar ddiwedd yr hydref er mwyn rhoi sicrwydd bod cynnydd a gweithdrefnau’n ddigonol ar gyfer cyflwyno'r Rhaglen Cyfnewid Dysgu.

1960 Diweddariad ar Bensiynau


Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/771C, ‘Diweddariad ar Bensiynau’. Gwahoddwyd Rob Williams, y Prif Swyddog Ariannol, i sôn am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1960.1 mae pryderon ynghylch newidiadau ym muddion aelodau a newidiadau i’r broses o lywodraethu’r USS;

1960.2 cynigwyd y byddai Cronfa Bensiwn Prifysgol Caerdydd (cynllun â buddion diffiniedig) yn cau. Mae ymgynghoriad 60 diwrnod ar y gweill ar hyn o bryd;

1960.3 ni ragwelwyd y byddai'r sefyllfa o ran pensiynau’n effeithio ar unrhyw fenthyciadau pellach posibl.

Wedi’i benderfynu

1960.4 cymeradwyo'r argymhelliad bod y Brifysgol yn tendro at ddibenion creu Cynllun Cyfraniadau Diffiniedig o 1 Ionawr 2022, ar y telerau a gynigir yn adran (ii)(f) o'r adroddiad hwn.

Gadawodd Janet Finch a Kenneth Hamilton y cyfarfod.

1961 Strategaeth Gyllid a Chyllideb y Brifysgol 2021/22

Derbyniwyd ac ystyriwyd cyflwyniad o’r wybodaeth a geir ym mhapurau 20/673CR, 'Strategaeth Gyllid' ac 20/674C 'Cyllideb y Brifysgol 2021/22'. Gwahoddwyd Rob Williams, y Prif Swyddog Ariannol, i sôn am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1961.1 [Wedi’i hepgor]

1961.2 [Wedi’i hepgor]

1961.3 [Wedi’i hepgor]

1961.4 [Wedi’i hepgor]

1961.5 [Wedi’i hepgor]

1961.6 [Wedi’i hepgor]

1961.7 [Wedi’i hepgor]

1961.8 roedd y Strategaeth Gyllid a Chyllideb y Brifysgol 2021/22 (papurau 20/673CR a 20/674C) wedi bod ar gael i'w nodi ond nid oeddent wedi'u cynnwys yn y llyfr cyfarfod a gafodd ei ddosbarthu.

Wedi’i benderfynu

1961.9 cymeradwyo'r gyllideb arfaethedig, yn amodol ar eglurder ynghylch cyfres o opsiynau sydd ar waith pe na bai cynnydd yn cael ei wneud yn ôl y disgwyl.

Gadawodd yr Athro Rudolf Allemann, yr Athro Kim Graham, John Shakeshaft, David Simmons a Claire Sanders y cyfarfod.

1962 Diweddariad Ariannol Campws Arloesedd Caerdydd

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/749C, ‘Diweddariad Ariannol Campws Arloesedd Caerdydd’. Gwnaeth Jan Ponsford, Cyfarwyddwr Rhaglen Campws Arloesedd Caerdydd, ymuno â’r cyfarfod i sôn am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1962.1 rydym ar y trywydd iawn i agor adeilad sbarc I spark erbyn 15 Hydref 2021. Disgwylir y bydd Tŵr y Ganolfan Ymchwil Drosi wedi’i gwblhau ym mis Ebrill 2022 ac y bydd Ystafell Lân y Ganolfan wedi’i chwblhau ym mis Mehefin 2022;

1962.2 mae parodrwydd gweithredol yn mynd yn dda, ac mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn y gofod sydd ar gael;

1962.3 mae dulliau cyfathrebu wedi’u datblygu i hyrwyddo'r adeilad, yn gorfforol ac ar-lein;

1962.4 ni chafodd ffigurau amrywiol sy’n ymwneud â symiau wrth gefn eu cyflwyno’n glir, a byddai adroddiadau yn y dyfodol yn elwa ar fwy o eglurder yn y maes hwn.

Wedi’i benderfynu

1962.4 cymeradwyo'r cais i hawlio arian wrth gefn ar gyfer y digwyddiad iawndal cyfnod 3 mewn perthynas â COVID-19, sy'n cyfateb i £1.186m.

1963 Unrhyw fusnes arall

Rhestr o fusnes ac awdurdod dirprwyedig 2021/22

Wedi’i benderfynu

1963.1 parhau i gynnwys Adroddiad Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn eitem i'w thrafod ar agenda'r Cyngor er mwyn sicrhau bod barn y myfyrwyr yn cael ei chlywed.

Polisi Caffael

Nodwyd y canlynol

1963.2 ni chynhwyswyd Atodiad A yn y papur.

1964 Adroddiad y Pwyllgor Dileu Swyddi i'r Cyngor

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/779C, 'Adroddiad y Pwyllgor Dileu Swyddi i'r Cyngor'. Gwnaeth Sue Midha, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, ymuno â'r cyfarfod i sôn am yr eitem hon.

Wedi’u penderfynu

1964.14 [Wedi’i hepgor]

1964.2 [Wedi’i hepgor]

1964.3 [Wedi’i hepgor]

1964.4 [Wedi’i hepgor]

1964.5 [Wedi’i hepgor]

1964.6 [Wedi’i hepgor]

1964.7 [Wedi’i hepgor]

1963 Eitemau a Gafwyd i'w Cymeradwyo

Nodwyd y canlynol

1963.1 bydd y Brifysgol yn cael contract Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar ôl 12 Gorffennaf, y mae angen cytuno arno erbyn 23 Gorffennaf 2021.

Wedi’i benderfynu

1963.2 Ysgrifennydd y Brifysgol, Cadeirydd y Cyngor a Rhag Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biolegol a Bywyd i benderfynu ar y gymeradwyaeth sydd ei hangen i sicrhau cytundeb;

1963.3 cymeradwyo'r papurau canlynol:

Papur 20/772:  Polisi Buddion yr Ymddiriedolwyr: Adolygiad Blynyddol
Papur 20/657  Polisi ymchwil foesegol sy’n cynnwys cyfranogwyr dynol, deunydd dynol neu ddata dynol
Papur 20/781C  Cynnig i ymestyn tymor yr Is-gadeirydd
Papur 20/773C  Penodi Aelodau Lleyg i'r Cyngor a'i Bwyllgorau
Papur 20/758  Polisi Caffael yr Archif Sefydliadol
Papur 20/782  Diweddaru Ordinhadau
Papur 20/754  Rhestr o fusnes ac awdurdod dirprwyedig 2021/22
Papur 20/784  Cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyngor 19 Ebrill 2021
Papur 20/759  Athrawon a Darllenwyr Emeritws/Emerita
Papur 20/683  Polisi Caffael
Papur 20/684  Polisi Rhoddion
Papur 20/692R  Polisi Treuliau Teithio
Papur 20/632C  Diweddariad ar y Strategaeth Cynnal a Chadw Ystadau a Thân Preswyl 2020-21
Papur 20/721  Polisi Diwygiedig Chwythu’r Chwiban
Papur 20/673CRStrategaeth Gyllid
Papur 20/674C  Cyllideb y Brifysgol 2021/22

1964 Eitemau a gafwyd er gwybodaeth

Nodwyd y canlynol

Papur 20/774HC  Adroddiad Diweddaru COVID i’r Cyngor
Papur 20/763C  Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau
Papur 20/776C  Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio A Risg
Papur 20/777C  Adroddiad gan Gadeirydd y Senedd i'r Cyngor
Papur 20/778C  Adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu
Papur 20/780  Adroddiad y Pwyllgor Taliadau i'r Cyngor
Papur 20/757C  Recriwtio Cadeirydd y Cyngor – Diweddariad
Papur 20/656C  Adroddiad Blynyddol: Llywodraethu Gwybodaeth
Papur 20/675C  Adroddiad Blynyddol ar Gyd-fentrau
Papur 20/685C  Diweddariad ar y Cynllun Buddsoddi Cyfalaf
Papur 20/785  Cynigion ar gyfer Llywodraethu Addysg
Papur 20/751C  Llywodraethu Cynaliadwyedd Amgylcheddol
Papur 20/755  Selio Trafodion
Papur 20/753  Rhaglen Hyfforddi a Sefydlu'r Cyngor 2021/22
Papur 20/719C  Llythyr Cylch Gorchwyl CCAUC
Papur 20/752C  Crynodeb Dangosfwrdd Adnoddau Dynol
Papur 20/673CR  Strategaeth Gyllid
Papur 20/674C  Cyllideb y Brifysgol 21/22

1965 Sylwadau i gloi

Nodwyd y canlynol

1965.1 diolchwyd i'r Brifysgol, ei staff a'i Bwrdd Gweithredol am ddod â'r flwyddyn hon i ben yn llwyddiannus ac i'r myfyrwyr am eu hamynedd a'u dyfalbarhad mewn blwyddyn anodd a heriol;

1965.2 bydd cyfarfod nesaf y Cyngor yn cael ei gynnal wyneb-yn-wyneb ar 27 Medi 2021;

1965.3 diolchwyd i aelodau'r Cyngor a oedd yn gadael, lle hwn oedd eu cyfarfod olaf: Dr Steven Luke, Len Richards, Karen Harvey-Cooke, yr Athro Kim Graham a'r Athro Rudolf Allemann. Diolchwyd yn arbennig i'r Athro Karen Holford am ei gwasanaeth i'r Cyngor a'r Brifysgol.