Cofnodion Cyngor 19.04.2021
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 208.4 KB)
Cofnodion Cyngor Prifysgol Caerdydd a Gynhaliwyd Ddydd Llun 19 Ebrill 2021 drwy Zoom am 14:00.
Yn Bresennol: Yr Athro Stuart Palmer (Cadeirydd), yr Athro Colin Riordan, yr Athro Rudolf Allemann, yr Athro Rachel Ashworth, Paul Baston, Ricardo Calil, Hannah Doe, Tomos Evans, Judith Fabian, yr Athro Fonesig Janet Finch, yr Athro Kim Graham, yr Athro Ken Hamilton, Michael Hampson, Karen Harvey-Cooke, yr Athro Karen Holford, Chris Jones, Jan Juillerat, Dr Steven Luke, Dr Pretty Sagoo, John Shakeshaft, David Simmons, y Barnwr Ray Singh, Dr Janet Wademan, ac Agnes Xavier-Phillips.
Yn bresennol: Rashi Jain, Vari Jenkins [Cofnodion], Sue Midha [Cofnodion 1930], Claire Morgan, Dr Jonathan Nicholls [Ymgynghorydd Allanol ar gyfer yr Adolygiad Effeithiolrwydd Llywodraethu], Daniel Palmer [Prif Weithredwr Undeb y Myfyrwyr, Cofnodion 1929], James Plumb (Cofnodion), Melanie Rimmer, Ruth Robertson, Claire Sanders, yr Athro Damian Walford Davies, yr Athro Ian Weeks a Robert Williams.
1910 Croeso a materion rhagarweiniol
Croesawyd pawb i'r cyfarfod.
Nodwyd y canlynol
1910.1 cafodd Dr Jonathan Nicholls, Ymgynghorydd Allanol ar gyfer yr Adolygiad o Effeithiolrwydd Llywodraethu, ei groesawu i'r cyfarfod fel arsylwr.
1911 Ymddiheuriadau am absenoldeb
y cafwyd ymddiheuriadau gan Dr Joanna Newman a Len Richards.
1912 Materion yn codi
Derbyniwyd ac ystyriwyd 20/527, 'Materion yn Codi'. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.
Nodwyd y canlynol
1912.1 byddai'r Deon dros Gynaliadwyedd Amgylcheddol yn mynychu diwrnod i ffwrdd o'r Cyngor yn ystod 2021/22 i roi briffiad i'r Cyngor;
1912.2 mae'r holl eitemau sy'n weddill naill ai wedi'u cwblhau neu'n cael eu hadrodd o dan yr agenda.
Penderfynwyd y canlynol
1912.3 o dan Gofnod 1908 Diwygiadau i Ordinhadau (papur 20/404 Newidiadau i Ordinhad), dylid diwygio Ordinhad 4 i ddarllen "cyfansoddiad" nid "cystadleuaeth".
1913 Datgan Buddiant
Nodwyd y canlynol
1913.1 Datganodd Dr Janet Wademan fuddiant newydd fel Ymddiriedolwr gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Nid oedd unrhyw wrthdaro yn codi o ran agenda'r cyfarfod;
1913.2 Datganodd Tomos Evans a Hannah Doe fuddiant yn eitem 18 Grant Bloc Undeb y Myfyrwyr;
1913.3 Datganodd John Shakeshaft fuddiant yn eitem 13 Mabwysiadu Diffiniad IHRA o Wrth-semitiaeth a Diffiniad APPG
Mwslimiaid Prydain o Islamoffobia, fel aelod o Ymddiriedolwr Ymchwil Prydain yn y Lefant, a chynghorydd i'r Academi Brydeinig.
1914 Adroddiad y Cadeirydd i'r Cyngor
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/504B, 'Adroddiad y Cadeirydd i'r Cyngor'. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.
Nodwyd y canlynol
1914.1 llongyfarchiadau i bawb a nodir yn adran 1 y papur;
1914.2 yn ogystal â'r rhai a restrir yn y papur, adroddwyd am farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin ac agorwyd llyfr o gydymdeimlad;
1914.3 cynhaliwyd munud o dawelwch ar gyfer y marwolaethau a nodwyd;
1914.4 gwnaed nifer o weithredoedd y Cadeirydd ac roeddent wedi'u rhestru yn y papur;
1914.5 roedd yr Adolygiad o'r Llys, dan arweiniad y Parchedig Ganon Gareth Powell, yn parhau;
1914.6 roedd yr adroddiad yn cynnwys rhestr o gyfathrebiadau i'w derbyn gan aelodau'r Cyngor i roi’r sefyllfa ddiweddaraf ar draws y Brifysgol iddynt.
Penderfynwyd y canlynol
1914.7 dosbarthu'r ddolen electronig i lyfr cydymdeimlad ar gyfer Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, i aelodau'r Cyngor.
1915 Adroddiad yr Is-Ganghellor i'r Cyngor
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/529, 'Adroddiad yr Is-Ganghellor i'r Cyngor'. Gwahoddwyd yr Is-Ganghellor i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd y canlynol
1915.1 cyhoeddi'r Rhaglen Cyfnewid Dysgu Mewnol a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru, sydd i'w chynllunio a'i chyflwyno gan Brifysgol Caerdydd fel sefydliad lletyol;
1915.2 mae sector addysg uwch y DU yn ddibynnol iawn ar recriwtio myfyrwyr rhyngwladol o Tsieina ac mae hyn yn parhau i fod yn her barhaus ledled y DU. Nid yw archwaeth a galw myfyrwyr rhyngwladol Tsieineaidd i astudio yng Nghaerdydd wedi newid ond efallai y bydd angen addasu'r ffordd y mae'r sefydliad yn darparu rhaglenni;
1915.3 mae'r Brifysgol yn parhau i gynnal ei pherthynas ryngwladol ac i gefnogi myfyrwyr Tsieineaidd, ac yn mynd i'r afael â materion gwahaniaethu o ganlyniad i COVID;
1915.4 Mae’r nifer o fyfyrwyr a recriwtiwyd i Ymchwil Ôl-raddedig yn y DU 14% yn is o'i gymharu â'r adeg hon y llynedd, ond nid yw hyn yn peri pryder ar hyn o bryd yn y cylch recriwtio;
1915.5 llongyfarchiadau i'r Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter a'i thîm ar gyflwyniad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil;
1915.6 Defnyddir y canlyniadau o'r arolwg ar Addysg Ddigidol gan y Grŵp Llywio Addysg Ddigidol i lywio ei waith, a defnyddir y themâu a nodwyd i gael rhagor o wybodaeth gan fyfyrwyr. Bydd arolwg pwls misol Caerdydd yn rhoi adborth rheolaidd. Bu cynnydd yn hyder myfyrwyr a sut mae myfyrwyr yn ymgysylltu ar-lein ac mae gwaith pellach yn cael ei wneud i gefnogi asesu myfyrwyr.
Penderfynwyd y canlynol
1915.7 y Cyngor i gynnal sesiwn diwrnod i ffwrdd ar yr angen i arallgyfeirio mewn marchnadoedd rhyngwladol, wedi'i lywio gan ddadansoddiad cynhwysfawr o'r effaith ar nifer o weithgareddau, nid recriwtio myfyrwyr rhyngwladol yn unig.
1916 Newyddion diweddaraf am COVID-19
Derbyniwyd a nodwyd papur 20/530HC, 'Adroddiad Diweddaru COVID-19 ar gyfer y Cyngor'. Gwahoddwyd yr Is-Ganghellor i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd y canlynol
1916.1 bod tua 1000 o brofion COVID wedi'u cynnal yn ystod y saith diwrnod diwethaf heb unrhyw ganlyniadau cadarnhaol. Mae nifer yr achosion cadarnhaol yn parhau i fod yn isel;
1916.2 mae myfyrwyr yng Nghymru bellach yn gallu dychwelyd i'r Brifysgol ac mae cynllunio ar y gweill ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd i'r campws ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf;
1916.3 bydd adolygiad addysgu yn penderfynu a oes modd cyflawni deilliannau dysgu rhaglenni. Nodwyd bod risgiau uwch o ran effaith i bynciau penodol mewn Ysgolion fel Deintyddiaeth ac Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, sydd ag elfennau ymarferol o fewn eu rhaglenni na ellir eu darparu ar-lein. Ymdrinnir ag unrhyw ddiffygion;
1916.4 mae hunanhyder isel myfyrwyr wedi'i weld yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Mae gwaith yn parhau i godi hyder a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i fynd i mewn i gyflogaeth;
1916.5 mae prosiect rhwydwaith i gymryd lle'r offer TG presennol a chynyddu gwytnwch;
1916.6 byddai'n ddefnyddiol deall i ba raddau y mae cyfathrebu yn help i staff a myfyrwyr drwy adolygu data ansoddol;
1917.7 bu cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy'n gohirio eu hastudiaethau. Cynghorir myfyrwyr i siarad â'u tiwtor personol a chyfarwyddwr y rhaglen ymlaen llaw gan fod llwybrau gwahanol yn dibynnu ar amgylchiadau unigol;
1917.8 mae graddau ar-lein wedi'u dilysu ar gyfer 2021/22 sy'n wahanol i'r rhan fwyaf o'r ddarpariaeth sy'n cael ei chyfuno. Mae myfyrwyr wedi cael dewis dysgu cymysg os ydynt yn gwarchod;
1917.9 roedd nifer yr hysbysiadau cosb benodedig a adroddwyd dim ond yn adlewyrchu nifer yr achosion yr ymatebwyd iddynt gan Heddlu De Cymru. Yn fras roedd cyfanswm nifer yr achosion wedi dyblu. Roedd staff diogelwch wedi'u siomi â lefel y dinistr bwriadol i eiddo gan fyfyrwyr Preswylfeydd, ac roedd mesurau wedi'u rhoi ar waith i atal pobl nad oedd yn drigolion rhag mynd i mewn i Neuaddau Preswyl Talybont;
1917.10 gwerthfawrogiad a diolch i aelodau'r tîm Diogelwch am eu gwaith yn ystod y cyfnod anodd hwn;
1917.11 roedd y Brifysgol wedi ymdrechu i sicrhau cydbwysedd priodol ac, ar ôl y Nadolig, wedi symud i fwy o ddefnydd o gamau disgyblu i bwysleisio na fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei oddef.
1918 Adolygiad o’r Gofrestr Risgiau
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/125, 'Cofrestr Risgiau'. Gwahoddwyd yr Is-Ganghellor i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd y canlynol
1918.1 mae’r Pwyllgor Archwilio a Risg wedi gweld gwelliannau o ran rheoli risg;
1918.2 mae’r risgiau cynyddol a achoswyd gan ddibyniaeth ar y farchnad Tsieineaidd eisoes wedi'u trafod o dan eitem Adroddiad y VC (Cofnodion 1915 uchod);
1918.3 darparwyd adroddiad archwilio mewnol Seiberddiogelwch gan TIAA. Mae'r Brifysgol hefyd wedi ennill achrediad Cyber Essentials Plus a bydd yn archwilio achrediadau eraill fel sy'n briodol i'r sector AU;
1918.4 mae gwireddu buddion ar gyfer prosiectau cyfalaf yn cael ei fonitro wrth iddynt gael eu cwblhau ac mae pobl yn defnyddio’r adeiladau eto. Ystyrir perfformiad ariannol gan yr Is-bwyllgor Ystadau a Seilwaith.
1919 Adroddiad Llywydd undeb y Myfyrwyr
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/532, ‘Adroddiad Llywydd Undeb y Myfyrwyr’. Gwahoddwyd Jackie Yip, Llywydd Undeb y Myfyrwyr, i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd y canlynol
1919.1 Llongyfarchwyd Hannah Doe ar ei phenodiad yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Diolchodd y Cadeirydd i Tomos Evans am ei ymgysylltiad gwerthfawr yn ystod ei lywyddiaeth bresennol;
1919.2 eleni cafwyd y nifer fwyaf o bleidleisiau yn Etholiadau'r Swyddogion, Hwn hefyd oedd y nifer fwyaf o bleidleisiau o'i gymharu ag Undebau Myfyrwyr eraill yn y DU eleni;
1919.3 bu gostyngiad yn nifer yr ymatebion i'r Wythnos Siarad gan fyfyrwyr oherwydd y fformat digidol. Mae Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn defnyddio ffynonellau data eraill i ddefnyddio adborth myfyrwyr;
1919.4 mae pryderon bod rhai myfyrwyr yn anghyfarwydd â gwaith Undeb y Myfyrwyr a'r cymorth sydd ar gael. Mae Undeb y Myfyrwyr yn awyddus i adeiladu ysbryd cymunedol ac mae'n gweithio'n agos gyda'r Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr.
1920 Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol Cymru (ILEP)
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/560C, 'Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol Cymru'. Gwahoddwyd y Prif Swyddog Ariannol i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd y canlynol
1920.1 roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r rhaglen ddiwedd mis Mawrth 2021 ac roedd Prifysgol Caerdydd wedi cael gwahoddiad i ddatblygu'r rhaglen ar ran y sector addysg;
1920.2 bydd is-gwmni yn darparu tryloywder i randdeiliaid ledled Cymru i ddangos sut y caiff yr arian ei reoli dros oes y prosiect;
1920.3 bydd cofrestr risgiau yn cael ei datblygu, i gynnwys risg ariannol ac enw da. Bydd y risg ariannol i'r Brifysgol, sy'n gysylltiedig â derbyn grant ymlaen llaw i sefydlu'r rhaglen, yn cael ei lliniaru pan fydd yr is-gwmni wedi'i sefydlu, ond mae'r risg i enw da’r Brifysgol yn parhau drwy gydol y cynllun;
1920.4 mae cyllid ar gyfer y rhaglen wedi'i ddyrannu i gyllideb y flwyddyn ariannol nesaf;
1920.5 mae tri phenodiad allweddol: penodiad mewnol o Brifysgol Caerdydd i gynllunio'r cynllun hyd at y pwynt cyflwyno; Cyfarwyddwr Rhaglen parhaol i gyflawni'r cynllun a Chadeirydd y Bwrdd Cynghori;
1920.6 bydd penodiad Cadeirydd y Bwrdd Cynghori yn cael ei wneud ar y cyd gan y Brifysgol a Llywodraeth Cymru;
1920.7 bydd yr is-gwmni yn darparu adroddiad blynyddol i'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau;
1920.8 bydd gan yr is-gwmni yswiriant sy'n annibynnol ar y Brifysgol. Bydd y risg ariannol yn cael ei rheoli drwy ddyraniadau grant wedi'u neilltuo.
Penderfynwyd y canlynol
1920.9 byddai'n ddefnyddiol nodi risgiau'n gyson o fewn papurau o'r math hwn sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor;
1920.10 oherwydd y risg i enw da, dylid rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor am gynnydd ym mhob cyfarfod drwy adroddiad yr Is-Ganghellor, oni bai bod unrhyw faterion eithriadol sy'n gofyn am adroddiad sylweddol;
1920.11 sefydlu is-gwmni sy'n eiddo i'r Brifysgol i weinyddu'r Rhaglen;
1920.12 penodi cyfarwyddwyr yr is-gwmni. Y rhain yw'r Rhag Is-Ganghellor Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr, y Prif Swyddog Ariannol, y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr ac aelod lleyg o'r Cyngor;
1920.13 dirprwyo'r holl bwerau angenrheidiol i'r Is-Ganghellor a'r Prif Swyddog Ariannol i sefydlu'r trefniadau cyfreithiol ac ariannol i sefydlu'r cwmni.
1921 Partneriaeth Strategol gyda Phrifysgol Waikato
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/533, 'Partneriaeth Strategol gyda Phrifysgol Waikato'. Gwahoddwyd y Rhag Is-Ganghellor, Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd y canlynol
1921.1 mae'r bartneriaeth strategol yn adeiladu ar y berthynas gadarnhaol a sefydlwyd eisoes gyda Phrifysgol Waikato a staff presennol ac ymgysylltu â myfyrwyr ar draws y Brifysgol;
1921.2 roedd datblygu'r bartneriaeth wedi bod yn garbon niwtral o ran teithio;
1921.3 partneriaeth bum mlynedd oedd y cyfnod cychwynnol arfaethedig
Penderfynwyd y canlynol
1921.4 cymeradwyo'r Bartneriaeth Strategol gyda Phrifysgol Waikato.
1922 Camau a Gymerwyd o Ganlyniad i Ganlyniadau'r Arolwg Staff
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/534, 'Camau a Gymerwyd o ganlyniad i Ganlyniadau'r Arolwg Staff'. Gwahoddwyd y Dirprwy Is-Ganghellor i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd y canlynol
1922.1 roedd y camau gweithredu wedi canolbwyntio ar ddiwylliant, cyfathrebu mewnol, gwelededd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol ac arweinyddiaeth, ac roedd pob un ohonynt wedi cael adborth cadarnhaol drwy arolygon pwls;
1922.2 mae arolygon pwls yn bwysig a dylid ystyried eu cynnal yn fwy aml gan y byddai hynny’n cynyddu adborth gan staff;
1922.3 gallai fod o fudd hefyd gyflogi cwmni arolwg proffesiynol gyda thrawstoriad o ymgysylltu ag addysg uwch i ddarparu meincnodi bob dwy flynedd;
1922.4 gellid defnyddio'r arolwg i dynnu sylw at feysydd gwella sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys disgwyliadau rôl, perfformiad a chyfraniad staff;
1922.5 mae gwell ymgysylltiad â staff a fydd yn helpu i fynd i'r afael â heriau yn y dyfodol.
Penderfynwyd y canlynol
1922.6 bydd Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor yn ffurfio gweithgor bach gyda'r Dirprwy Is-Ganghellor i symud y camau gweithredu ymlaen.
1923 Mabwysiadu Diffiniad IHRA o Wrthsemitiaeth ac Diffiniad APPG Mwslimiaid Prydain o Islamoffobia
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/535C, 'Mabwysiadu Diffiniad IHRA o Wrth-Semitiaeth a Diffiniad Mwslimiaid Prydain o Islamoffobia'. Gwahoddwyd Rhag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd y canlynol
1923.1 roedd y Brifysgol wedi derbyn llythyr gan y Fforwm Myfyrwyr Hindŵaidd Cenedlaethol yn gofyn a ystyrir bod y Brifysgol yn lle diogel i Hindŵiaid;
1923.2 efallai y bydd mabwysiadu crefydd neu ddiffiniadau penodol o hil yn eithrio unrhyw grwpiau ffydd neu hil eraill nad ydynt wedi'u cynnwys ac nad oedd y Cyngor am beri ymranniadau o ganlyniad i fabwysiadu diffiniad;
1923.3 mae gan y Brifysgol bolisïau sy'n bodoli eisoes i ddiogelu grwpiau o fewn ei chymuned ac mae wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ei gwahanol gymunedau crefydd a hil.
Penderfynwyd y canlynol
1923.4 yn dilyn ystyriaeth fanwl o'r cynigion, ac ystyried barn y Senedd yn ogystal ag aelodau'r Cyngor, cytunodd y Cyngor i beidio â mabwysiadu diffiniad IHRA o wrth-semitiaeth a diffiniad APPG Mwslimiaid Prydain o ddiffiniad Islamoffobia ar hyn o bryd gan y gallai hyn beri ymrannu yng nghymuned y Brifysgol;
1924.5 bydd yr Is-bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cefnogi adolygiad o bolisïau'r Brifysgol i ddiogelu grwpiau o fewn ei chymuned ac i sicrhau bod pob cymuned yn teimlo ei bod yn cael ei diogelu.
1925 Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/536C 'Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau'. Gwahoddwyd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd y canlynol
1925.1 erys pensiynau USS yn faes lle mae cryn ansicrwydd.
1926 Adroddiad Cyllid
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/537C, 'Adroddiad Cyllid'. Gwahoddwyd y Prif Swyddog Ariannol i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd y canlynol
1926.1 [Hepgorwyd]
1927 Diweddariad ar Amcanestyniadau Ariannol 2021/22
Nodwyd y canlynol
1927.1 bydd eitem eithriadol yn cael ei chyflwyno yng nghyllideb Gorffennaf 2021 ar gyfer cynnal a chadw ystadau penodol ac sydd wedi'u targedu i fodloni gofynion iechyd a diogelwch nad ydynt wedi'u datrys dros y 18 mis diwethaf oherwydd y pandemig;
1927.2 bydd adeiladau newydd sy'n agor yn 2021/22 â goblygiadau o ran costau a fydd yn her i sicrhau sefyllfa adennill ariannol;
1927.3 diweddariad a ddarparwyd gan y Prif Swyddog Ariannol ar yr heriau sy'n wynebu'r Brifysgol mewn perthynas â chronfa Bensiwn USS a bod USS wedi rhoi tri senario i gyflogwyr a gweithwyr ar gyfer cynnydd yn y lefelau cyfraniadau sydd eu hangen ond heb unrhyw newid mewn budd-daliadau.
Penderfynwyd y canlynol
1927.4 Bydd y Cyngor yn derbyn papur Briffio ar Bensiynau USS yng nghyfarfod mis Gorffennaf 2021.
1928 Diweddariad Ariannol CIC
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/539C, 'Diweddariad ar Gampws Arloesedd Caerdydd'. Gwahoddwyd y Dirprwy Is-Ganghellor i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd y canlynol
1928.1 ni chafwyd unrhyw newidiadau sylweddol o'r adroddiad a dderbyniwyd gan y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau ac mae adolygiad risg ar y gweill.
Penderfynwyd y canlynol
1928.2 bydd y cyfarwyddwr prosiect newydd ei benodi yn cyflwyno adroddiad ar risgiau a cherrig milltir allweddol yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf 2021.
1929 Grant Bloc UM 2021/22
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/540C, 'Grant Bloc UM 2021/22'. Gwahoddwyd Deborah Collins, y Prif Swyddog Gweithredu, i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd y canlynol
1929.1 nid yw Undeb y Myfyrwyr yn gofyn am unrhyw newid i'w lefel grant bloc bresennol o £2,900K.
Penderfynwyd y canlynol
1929.2 cymeradwyo Grant Bloc Undeb y Myfyrwyr ar gyfer 2021/22.
1930 Crynodeb Dangosfwrdd Adnoddau Dynol
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/547C, 'Crynodeb Dangosfwrdd Adnoddau Dynol'. Gwahoddwyd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd y canlynol
1930.1 bu gostyngiad yn nifer y staff;
1930.2 bu gostyngiad sylweddol o ran recriwtio a hysbysebu yn ystod y cyfnod. Mae'r rheolaethau recriwtio presennol yn ei gwneud yn ofynnol i bedwar deiliad cyllideb graffu ar geisiadau recriwtio.
1931 Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/541C, 'Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu'. Gwahoddwyd Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu i siarad am eitem hon
Nodwyd y canlynol
1931.1 roedd y Pwyllgor wedi argymell papur 20/550C Cod Ymarfer Ariannu Allanol, papur 20/551 Newidiadau i Ordinhadau a phapur 20/542C Penodiadau Aelodaeth Lleyg i'r Cyngor i gael eu cymeradwyo.
1932 Matrics sgiliau, aelodaeth ac amserlen arfaethedig i leihau nifer yr aelodau lleyg
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/542C 'Matrics sgiliau, aelodaeth ac amserlen arfaethedig i leihau nifer yr aelodau lleyg. Gwahoddwyd Rashi Jain, Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Brifysgol, i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd y canlynol
Gadawodd Agnes Xavier-Phillips, Michael Hampson a Judith Fabian y cyfarfod ar gyfer trafodaeth ynghylch penodi aelodau lleyg o dan yr eitem hon.
1932.1 pwysigrwydd sicrhau bod aelodaeth y Cyngor yn darparu'r ystod angenrheidiol o sgiliau i gwmpasu'r busnes angenrheidiol.
Penderfynwyd y canlynol
1932.2 diwygio paragraff 3. 7(vi) o Bwyllgor Llywodraethu Ordinhad 10C o 'roi sylw i amrywiaeth y corff llywodraethu ac ystyried cymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw faterion' i 'ystyried amrywiaeth y corff llywodraethu a chymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw faterion', i adlewyrchu ymrwymiad cryfach i fynd i'r afael ag amrywiaeth;
1932.3 ail-benodi Michael Hampson, Judith Fabian, Agnes Xavier-Phillips a Len Richards fel Aelod Lleyg o'r Cyngor am ail dymor o 1 Awst 2021 i 31 Gorffennaf 2024;
1932.4 ail-benodi Michael Hampson yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg am ail dymor o 1 Awst 2021 i 31 Gorffennaf 2024;
1932.5 ail-benodi Judith Fabian yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu am ail dymor o 1 Awst 2021 i 31 Gorffennaf 2024;
1932.6 ail-benodi Agnes Xavier-Phillips fel aelod lleyg o'r Pwyllgor Archwilio a Risg a'r Pwyllgor Cymrodoriaethau a Graddau er Anrhydedd am ail dymor o 1 Awst 2021 i 31 Gorffennaf 2024;
1932.7 ail-benodi Len Richards yn aelod lleyg o'r Pwyllgor Llywodraethu am ail dymor o 1 Awst 2021 i 31 Gorffennaf 2024;
1932.8 lleihau nifer aelodau lleyg y Cyngor o 15 i 13 dros y 2 flynedd academaidd nesaf.
1933 Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/544C, 'Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg'. Gwahoddwyd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd y canlynol
1933.1 mae cynnydd yn cael ei wneud yn erbyn argymhellion y CIC a adolygwyd yn yr adroddiad ARUP dilynol;
1933.2 mae nifer yr adroddiadau Cyfyngedig a Dim Sicrwydd yn lleihau, ynghyd â nifer yr argymhellion sydd heb eu graddio'n uchel, sy'n dangos bod rheolaethau mewnol wedi’u cryfhau;
1933.3 gwnaed cynnydd cyflym yn erbyn Cod Ymarfer UUK ar gyfer rheoli argymhellion Tai Myfyrwyr ar gyfer diogelwch tân ac mae'r Brifysgol yn bodloni ei gofynion Iechyd a Diogelwch ond mae'n dymuno rhagori ar y rhain drwy wneud gwaith cynnal a chadw dros yr haf.
1934 Adroddiad y Senedd i'r Cyngor
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/545C, 'Anfon Adroddiad i'r Cyngor'. Gwahoddwyd yr Is-Ganghellor i siarad am yr eitem hon.
Nodwyd y canlynol
1934.1 Mae'r Senedd yn darparu Adroddiad Ansawdd Blynyddol i'r Cyngor i roi sicrwydd ar safonau ansawdd academaidd. Cynhyrchir yr adroddiad hwn yn dilyn canlyniadau'r arholiadau ar ddiwedd y flwyddyn ac fe'i cyflwynir i'r Cyngor yn yr Hydref, yn dilyn cymeradwyaeth yn ASQC a'r Senedd;
1934.2 Byddai'r Cyngor yn croesawu'r cyfle i drafod yr adroddiad maes o law ac i gael cipolwg pellach ar y trafodaethau sy'n digwydd yn y Senedd ar effaith y pandemig ar ganlyniadau dysgu a'r camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod safonau academaidd yn cael eu cynnal;
1934.3 roedd y Pwyllgor Archwilio a Risg wedi ystyried am gyfnod byr a ddylai craffu ar sicrwydd academaidd ddod o fewn eu cylch gwaith.
Penderfynwyd y canlynol
1934.4 byddai Adroddiad y Senedd i'r Cyngor yn rhoi mwy o wybodaeth am drafod eitemau a gwaith y Senedd;
1934.5 dosbarthu cofnodion y Senedd i aelodau'r Cyngor;
1934.6 archwilio llywodraethu academaidd a sicrhau ansawdd fel rhan o Ddiwrnod i Ffwrdd i’r Cyngor.
1935 Datganiad Polisi ar Asesu Ymchwil yn Gyfrifol
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/546, 'Datganiad Polisi ar Asesu Ymchwil yn Gyfrifol'. Gwahoddwyd y Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter i siarad am yr eitem hon.
Penderfynwyd y canlynol
1935.1 cymeradwyo datganiad polisi ar asesu ymchwil yn gyfrifol
1936 Cofnodion o Gyfarfod Arbennig y Cyngor ar 8 Chwefror 2021
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/548, 'Cofnodion y cyfarfod blaenorol'.
Penderfynwyd y canlynol
1936.1 dylid diwygio'r dyddiad yn y pennawd i ddarllen ‘8 Chwefror 2021';
1936.2 cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cyngor ar 8 Chwefror 2021, yn amodol ar y gwelliannau uchod.
1937 Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Risg
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/452, 'Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Risg'.
Penderfynwyd y canlynol
1937.1 cymeradwyo Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Risg.
1938 Côd Ymarfer Cyllid Allanol
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/478 'Côd Ymarfer Cyllid Allanol'.
Penderfynwyd y canlynol
1938.1 cymeradwyo'r Cod Yarfer Cyllid Allanol.
1939 Newidiadau mewn deddfiadau
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/551 'Newidiadau i Ordinhadau'.
Penderfynwyd y canlynol
1939.1 cymeradwyo'r Newidiadau i Ordinhad 8 - Penodi Dirprwy Is-Ganghellor a Rhag Is-Gangellorion.
1940 Unrhyw fusnes arall
Nodwyd y canlynol
Ffurflen TRAC
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/556C Ffurflen TRAC.
Nodwyd y canlynol
1940.1 bydd adroddiad TRAC llawn gyda gwybodaeth feincnodi yn cael ei adolygu gan y Grŵp TRAC a'i ystyried gan y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau.
Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
Rhoddodd y Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter ddiweddariad ar lafar ar y cyflwyniad REF.
Nodwyd y canlynol
1940.2 mae’r Brifysgol wedi gwneud cyflwyniad pwerus i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, ac wedi cofnodi llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, gan gynnwys y tîm Llyfrgelloedd a oedd wedi gwirio dros 3,500 o allbynnau;
1940.3 rhoddodd cyflwyniadau'r amgylchedd ymchwil wybodaeth am y buddsoddiadau y mae'r Brifysgol wedi'u gwneud mewn ymchwil, a allai fod o ddiddordeb i aelodau'r Cyngor;
1940.4 mae'r GPA cyffredinol a ragwelir tua 3.5, o'i gymharu â 3.27 yn y cyflwyniad blaenorol.
Llywydd undeb y Myfyrwyr
Nodwyd y canlynol
1940.5 cofnodwyd diolch i Lywydd undeb y Myfyrwyr am y gwaith yn ystod y tymor fel Llywydd.
Cyfarfodydd y Cyngor
1940.6 roedd yn debygol y cynhelid cyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf o bell yn hytrach nag yn bersonol.
1941 Eitemau a Dderbyniwyd er Gwybodaeth
Nododd y Cyngor y papurau canlynol:
Papur 20/552 Cyfrifon Undeb y Myfyrwyr 2019/20
Derbyniwyd papur 20/438 Grantiau a Chontractau Ymchwil
Papur 20/554, Crynodeb o’r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Cydraddoldeb 2020/2021
Papur 20/555C Adroddiad y Pwyllgor Dileu Swyddi i'r Cyngor
Papur 20/557 Ymddiriedolwr Enwebedig Cyflogwr CUPF
Papur 20/558 Seilio Trafodion
Papur 20/559C Agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf