Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Cofnodion y Cyngor 7 Medi 2020

Cofnodion cyfarfod Cyngor Prifysgol Caerdydd a gynhaliwyd ddydd Mawrth 7 Medi 2020 dros Zoom am 14:00.

Yn bresennol: Yr Athro Stuart Palmer (Cadeirydd), yr Athro Colin Riordan, yr Athro Rudolf Allemann, yr Athro Rachel Ashworth, Dr Carol Bell, Mr Ricardo Calil, Ms Hannah Doe, Mr Tomos Evans, Ms Judith Fabian, yr Athro Fonesig Janet Finch, Mr Alastair Gibbons, yr Athro Kim Graham, Mr Ken Hamilton, Mr Michael Hampson, yr Athro Karen Holford, Ms Jan Juillerat, Dr Steven Luke, Dr Joanna Newman,  Mr John Shakeshaft, Mr David Simmons, y Barnwr Ray Singh, Dr Janet Wademan a Mrs Agnes Xavier-Phillips.

Yn bresennol: Ms Katy Dale (Cofnodion), Mrs Rashi Jain, Mrs Susan Midha, Ms Claire Morgan, Mr James Plumb, Ms Ruth Robertson, Mrs Claire Sanders, yr Athro Damian Walford Davies, yr Athro Ian Weeks a Mr Robert Williams.

Ymddiheuriadau: Mr Paul Baston, Mrs Karen Harvey-Cooke a Mr Len Richards.

1831 Croeso a materion rhagarweiniol

Nodwyd y canlynol

1831.1 croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, yn enwedig yr Athro Rachel Ashworth, Dr Joanna Newman a'r Athro Ian Weeks a oedd yn mynychu eu cyfarfod cyntaf o'r Cyngor;

1831.2 diolchodd y Cadeirydd i'r holl aelodau am ddod i'r cyfarfod eithriadol hwn;

1831.3 byddai cyfarfod ychwanegol o'r Cyngor ar ddechrau'r diwrnod sefydlu a hyfforddi ar 06 Hydref 2020;

1831.4 roedd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau wedi bod wrthi yn cyfarfod â nifer fach o aelodau lleyg, yr Is-Ganghellor, y Prif Swyddog Ariannol a'r Prif Swyddog Gweithredu Dros Dro i fonitro'r sefyllfa ariannol;

1831.5 mynegodd y Cadeirydd ei ddiolch i staff y Brifysgol am eu gwaith caled yn ystod y cyfnod digynsail hwn ac i aelodau lleyg y Cyngor am eu cyfraniadau;

1831.6 atgoffwyd yr aelodau eu bod yn gweithredu i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y sefydliad ac nid er eu budd personol.

1832 Ymddiheuriadau am absenoldeb

Cafwyd ymddiheuriadau gan Mr Paul Baston, Mrs Karen Harvey-Cooke a Mr Len Richards. Cadarnhawyd bod gan y cyfarfod gworwm.

1833 Cofnodion o gyfarfod arbennig y Cyngor ar 6 Chwefror 2020

cadarnhawyd bod cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 06 Ebrill 2020 [19/763B] yn gofnod gwir a chywir;

1834 Materion yn codi

Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

1835 Datgan buddiant

Nodwyd y canlynol

1835.1  datganiad mewn perthynas ag eitem 9 ar yr agenda gan yr Athro Fonesig Janet Finch, sydd hefyd yn aelod o Research England.

1836 Digwyddiad mawr: newyddion diweddaraf am COVID-19

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/04HC, 'Papur Briffio COVID-19'. Gwahoddwyd yr Is-Ganghellor i siarad am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1836.1 [Hepgorwyd]

1836.2 [Hepgorwyd]

1836.3 [Hepgorwyd]

1836.4 [Hepgorwyd]

1836.5 [Hepgorwyd]

1836.6 [Hepgorwyd]

1836.7 [Hepgorwyd]

1836.8 [Hepgorwyd]

1836.9 [Hepgorwyd]

1836.10 [Hepgorwyd]

1836.11 [Hepgorwyd]

1836.12 [Hepgorwyd]

1836.13 [Hepgorwyd]

1837 Cofrestr risgiau

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/09C, 'Cofrestr Risgiau’r Brifysgol'. Gwahoddwyd yr Is-Ganghellor i siarad am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1837.1  cafodd tair risg ychwanegol yn ymwneud â'r gwasanaeth profi ar y safle, parhad busnes pe bai achosion pellach, a phryderon gan CCAUC eu hychwanegu at y gofrestr yn dilyn canlyniadau diweddar yr AROLWG Cenedlaethol;

1837.2 rhagwelir y byddai Brexit yn dod yn fwy o risg o ystyried y tebygolrwydd na fydd cytundeb, [HEPGORWYD];

1837.3  roedd y risg sy'n ymwneud ag ymchwil wedi gwella o ystyried y gefnogaeth fawr i hyn gan Lywodraeth y DU; fodd bynnag, roedd ansicrwydd o hyd ynghylch yr effaith barhaus ar ddarparu grantiau, y posibilrwydd o gyfnodau dan glo yn y dyfodol a'r posibilrwydd o ganolbwyntio ar addysgu am gyfnod byr; roedd y Brifysgol mewn sefyllfa gref ac roedd yn edrych ar geisiadau strategol mawr i ddarparu buddsoddiad ar raddfa fawr;

1837.4  roedd y risg net yn ymwneud â seiberddiogelwch yn adlewyrchu bod adran TG y Brifysgol wedi gweithredu mesurau lliniaru da a bod y Brifysgol yn gallu elwa o'r brif ganolfan ymchwil ym maes seiberddiogelwch;

1837.5 roedd y risg sy'n gysylltiedig â'r ganolfan brofi yn parhau'n uchel yn ystod y cam cynllunio gan na ellid profi'r mesurau lliniaru eto, a'r gobaith oedd y byddai'r risg hon yn lleihau pan fyddai ar waith;

1837.6 Cododd aelodau'r Cyngor bryderon ynghylch canlyniadau gwael yr NSS a hoffai gael rhagor o wybodaeth am sut y tynnir sylw at ddangosyddion cychwynnol perfformiad gwael er mwyn caniatáu monitro ac ymyrryd yn gynnar; nodwyd bod y Brifysgol wedi aros o fewn y ffigurau meincnod a bu cyfnodau sylweddol o weithredu diwydiannol a fyddai wedi effeithio ar ganlyniadau'r NSS; roedd yr Is-Ganghellor yn cyfarfod yn rheolaidd â CCAUC ar y mater hwn ac roedd cynllun gweithredu'n cael ei ddatblygu i'w rannu â CCAUC; nododd Llywydd Undeb y Myfyrwyr fod Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn rhan o drafodaeth ar y mater hwn ac yn gweithio gyda'r Brifysgol i sicrhau bod y canlyniadau'n gwella;

1837.7 [Hepgorwyd]

Penderfynwyd y canlynol

1837.8 cyflwyniad ar yr arolwg NSS a'r canlyniadau i gael eu gwneud i'r Cyngor;

1837.9 rhannu'r ohebiaeth â CCAUC ar y mater hwn gydag aelodau'r Cyngor;

1837.10 cymeradwyo'r Gofrestr Risgiau.

1838 Y diweddaraf am y Gwasanaeth Profi Coronafeirws

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/06C, 'Diweddariad am y Gwasanaeth Profi Covid'. Gwahoddwyd yr Athro Ian Weeks i siarad am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1838.1 byddai'r boblogaeth a reolir yn llym o fewn y ganolfan brofi hon o fudd mawr i fonitro a rheoli unrhyw achosion;

1838.2 mae'r system brofi a ddefnyddir yma wedi'i haddasu ychydig o'r dull safonol gan ei bod yn llai ymledol ac yn darparu canlyniadau mwy cywir; mae’r FDA wedi cymeradwyo profion poer ac mae'n cael ei ddefnyddio yn yr UDA ac ym Mhrifysgol Southampton;

1838.3 cafwyd problemau cychwynnol gyda'r gadwyn gyflenwi ond mae hyder o fewn y tîm y bydd y profion yn dechrau yn ôl y bwriad;

1838.4 y prif fater sy'n weddill yw ymarferoldeb a threfniadaeth gan fod niferoedd mawr sydd i gael eu profi;

1838.5 ar hyn o bryd nid oes cyllid allanol ar gael ar gyfer hyn ond y gobaith yw y bydd cyfleoedd cysylltiedig i ddenu ymchwil a ariennir neu wasanaeth cynhyrchu incwm yn y dyfodol.

1839 Amcanestyniadau ariannol 2020/21, 2021/22  2022/23

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/08HC, 'Amcanestyniadau Ariannol 2020/21, 2021/22 a 2022/23'. Gwahoddwyd Mr Tomos Evans i siarad am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1839.1  [Hepgorwyd]

1839.2  [Hepgorwyd]

1839.2  [Hepgorwyd]

1839.2  [Hepgorwyd]

1839.3  [Hepgorwyd]

1839.4 [Hepgorwyd]

1839.5  [Hepgorwyd]

1839.6  [Hepgorwyd]

1839.7  [Hepgorwyd]

1839.8  [Hepgorwyd]

1839.9  [Hepgorwyd]

1839.10 [Hepgorwyd]

1839.10  [Hepgorwyd]

1839.11  [Hepgorwyd]

1839.12  [Hepgorwyd]

1840 Adolygiad strategol o Gronfa Bensiwn Prifysgol Caerdydd

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 20/07HC, 'Adolygiad Strategol o CUPF'. Gwahoddwyd Mr Tomos Evans i siarad am yr eitem hon.

Nodwyd y canlynol

1840.1 [Hepgorwyd]

1840.2 [Hepgorwyd]

1840.3 [Hepgorwyd]

1840.4 [Hepgorwyd]

.1  [Hepgorwyd]

.2  [Hepgorwyd]

.3  [Hepgorwyd]

1840.5 [Hepgorwyd]

1840.6 [Hepgorwyd]

1840.7 [Hepgorwyd]

1840.8 [Hepgorwyd]

Penderfynwyd y canlynol

1840.9 cymeradwyo'r cynnig o opsiwn 3 ar gyfer newidiadau i Gronfa Bensiwn Prifysgol Caerdydd.

1841 Unrhyw fusnes arall

Nodwyd y canlynol

1841.1 roedd Athro o fewn Ysgol Busnes Caerdydd wedi cadeirio is-bwyllgor Llywodraeth Cymru ar effaith COVID-19 ar y gymuned du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru a byddai'n cyflwyno hyn mewn digwyddiad yn ddiweddarach yn yr wythnos;

1841.2 cynhaliwyd cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym mis Awst a oedd wedi adolygu data perthnasol, asesiadau risg penodol a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yng ngoleuni COVID-19.

1842 Agenda drafft i’r cyfarfod nesaf: 23 Tachwedd 2020

Derbyniwyd a nodwyd papur 20/05C, 'Agenda Ddrafft ar gyfer y Cyngor - 23 Tachwedd 2020'.